Grant Cynaliadwyedd 2022 - 2023
Mae’r grant Cynaliadwyedd hwn wedi ei sefydlu i gefnogi darparwyr gofal plant yn Sir y Fflint.
Os bydd cais yn llwyddiannus, caiff y grant ei dalu’n syth i’r darparwr gofal plant.
Cymeradwyir y grantiau gan Bartneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint.
Rwyf yn cadarnhau bod y cais hwn yn cael ei wneud ar y ddealltwriaeth, os bydd yn llwyddiannus, y bydd y lleoliad yn rhwymedig i ddefnyddio'r grant ar gyfer y pwrpas a nodwyd yn y cais hwn yn unig ac yn cytuno i gydymffurfio â’r meini prawf ac amodau a thelerau dyfarnu'r grant.
Sicrhewch fod y dogfennau hyn ar gael gennych i’w hatodi gyda’ch cais cyn mynd ymlaen gyda’r ddolen isod:• Copi o’ch Datganiad Banc mwyaf diweddar o’ch holl gyfrifon• Copi o’ch cynllun busnes • Copi o ddatganiad ariannol eich cyfrifon blynyddol diwethaf • Copi o’ch adolygiad ansawdd gofalOs oes angen cymorth arnoch gyda’r dogfennau a restrir uchod cysylltwch ag un o’r canlynol:-Datblygu Gofal Plant Sir y Fflint 01352 703504 / 703509
Clybiau Plant Cymru 01492 536318
Blynyddoedd Cynnar Cymru 01745 530111
Mudiad Meithrin 01970 639639
PACEY Cymru 07734734124
Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd 01352 759367
Gwnewch gais am y Grant Cynaliadwyedd ymaCyflwynwch gais ar wahân os ydych yn dymuno ymgeisio am fwy nag un adran.
I gael rhagor o gymorth gydag unrhyw gais am grant cysylltwch â ni ar 01352 703509 / 703504 neu ebostiwch childcaredevelopmentgrants@flintshire.gov.uk