Alert Section

Urddas Mislif


Ers 2019 mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, o’r enw ‘Grant Urddas Mislif’, i helpu i fynd i’r afael â thlodi mislif ar draws Cymru.

Pobl Ifanc

Yn Sir y Fflint, mae pob ysgol Gynradd ac Uwchradd yn derbyn cyfran o’r cyllid hwn i gefnogi eu dysgwyr. Gall pob ysgol wario eu cyllid ychydig yn wahanol, ond mae ganddynt oll yr un amcan o ddarparu cynnyrch mislif am ddim i’w dosbarthu yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol â phosibl.

Cymunedau

Mae’r grant hefyd yn cefnogi ein cymunedau trwy ddarparu adnoddau a chymorth am ddim trwy bwyntiau allweddol o gymorth, megis banciau bwyd, canolfannau cefnogi cymunedol a lleoliadau dysgu cymunedol i oedolion. Dilynwch y dolenni isod i ganfod lleoliad sy’n agos i chi: 

Banciau Bwyd Sir y Fflint Lleoliadau | Banc Bwyd Sir y Fflint

Lleoliadau Canolfannau Cefnogi Cymunedol Hwb Costau Byw (siryfflint.gov.uk)

Dysgu Cymunedol i Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru Dysgu Cymunedol o Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru (groundworknorthwales.org.uk) / Dysgu Cymunedol i Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru | Facebook

Darpariaeth Ieuenctid Sir y Fflint Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint / Darpariaeth Ieuenctid Sir y Fflint | Yr Wyddgrug | Facebook

Canolfannau Hamdden Canolfannau Hamdden - Aura Cymru

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am fislif, cyngor a chymorth, ewch i: https://mislif-fi.cymru/

Mae Social Change UK wedi creu ‘Mislif Fi’ ar ran GIG Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn agor y sgwrs a darparu gwybodaeth ar iechyd mislif, fel nad yw cenedlaethau o bobl ifanc yn dioddef mewn tawelwch yn sgil ofn o siarad allan neu ddiffyg dealltwriaeth o ran yr hyn sy’n normal mewn perthynas â mislif.