Alert Section

Adolygiad Ardal Treffynnon


Hydref 2013

Arddangos cynlluniau ysgolion

Roedd dyluniadau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ac uwchradd newydd yn Nhreffynnon wedi eu harddangos i'r cyhoedd mewn digwyddiad galw heibio anffurfiol.

Bydd un ysgol gynradd newydd yn disodli Ysgol Babanod Perth y Terfyn ac Ysgol Iau y Fron ar yr un safle â’r ysgol uwchradd newydd ar gyfer plant 11 i 16 oed.

Bydd y datblygiad blaenllaw gwerth £30 miliwn yn cael ei adeiladu ar safle Ysgol Uwchradd Treffynnon ar dir ar ben cae presennol yr ysgol.

Mae uwch staff ysgolion, swyddogion addysg a phenseiri wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i lunio’r cynllun gorau. Gofynnir i rieni a phobl leol leisio eu barn am y cynlluniau arfaethedig mewn digwyddiad galw-heibio yn Ysgol Uwchradd Treffynnon ar ddydd Mawrth 22 Hydref rhwng 5.30pm a 7.30pm.

Bydd gan yr ysgol uwchradd newydd arfaethedig 600 o leoedd, a bydd gan yr ysgol gynradd 315 o leoedd. Bydd plant cynradd a myfyrwyr uwchradd yn cael eu haddysgu mewn adeilad arloesol gyda phob cyfleuster TG modern i gynorthwyo dysgu. 

Disgwylir y bydd yr ysgolion ar agor o fis Medi 2016.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, sy’n Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddysgu Gydol Oes:

“Mae darpariaeth y campws dysgu newydd cyffrous hwn yn Nhreffynnon yn dod yn nes a nawr gallwn rannu’r cynlluniau a dyluniadau arfaethedig gyda rhieni a’r gymuned leol. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn achub ar y cyfle i ddod draw a rhoi eu barn i ni.”

Cynllun Llawr gwaelod fel Arfaethedig

Cynllun Llawr cyntaf fel Arfaethedig

Cynllun Ail Lawr fel Arfaethedig

Mawrth 2013

Ymateb i'r ymgynghoriad wedi ei ymadrodd i Gynghorwyr (Cabinet 19fed. Mawrth 2013) a'r opsiwn flaenorol wedi ei gymeradwyo i bob un o'r tair ardal.

Bydd rhybudd stadudol i'w gynllunio a'i ddatgan. Mae'r cam yma yn caniatau cyfnod o fis ar ol dyddiad y datganiad i dderbyn unrhyw wrthwynebiad ffurfiol (ysrgrifenedig).

Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw gwrthwynebiad, a bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am Addysg a Sgiliau yn cymeryd y penderfyniad terfynol ar weithredu.

Adroddiad i'r Cabinet - 19.03.2013

Tachwedd 2012

Yn gynharach eleni, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ymgynghori yn Nhreffynnon, Bwcle, Queensferry a Chei Connah i geisio barn pobl am y dewisiadau posibl i foderneiddio ysgolion uwchradd yn y sir.  

Daeth llywodraethwyr, athrawon, rheini a gofalwyr i’r digwyddiadau a drefnwyd gan y Cyngor a chafwyd llu o ymatebion.

Dyddiadau digwyddiadau ymgynghori

Yn ystod cylch cyntaf yr ymgynghoriad, ymrwymodd y Cynghorwyr i gynnal cam arall yn y broses ymgynghori cyn penderfynu a oeddent am fwrw ymlaen yn ffurfiol ag un cynnig ar gyfer pob ardal. Bydd yr ail gam yn y broses ymgynghori’n dechrau ddydd Llun 12 Tachwedd, a chaiff nifer o gyfarfodydd eu cynnal  dros gyfnod o bythefnos.

Nod y cyfarfodydd hyn yw sicrhau bod lleisiau rhieni, myfyrwyr, llywodraethwyr, staff ac undebau’n cael eu clywed a helpu’r Cyngor i benderfynu a yw am fwrw ymlaen â’r cam statudol ffurfiol nesaf o gyhoeddi un dewis ar gyfer y tair ardal. Anfonwyd llythyrau eisoes yn gwahodd rhieni’r disgyblion yn yr ysgolion dan sylw a chaiff y llyfrynnau ymgynghori eu dosbarthu cyn bo hir ag y ma ear gael fel yr isod:

Ardal Bwcle, Mynydd Isa a'r Wyddgrug
Ardal Treffynnon
Ardal Queensferry, Shotton a Chei Connah
Plant a Phobl Ifanc - Moderneiddio Ysgolion

Mae gwahanol ddulliau ar gael i bobl fynegi barn. Gallant:

  • ofyn cwestiynau a dweud eu barn yn ystod y cyfarfodydd hyn
  • llenwi holiadur a’i ddychwelyd i’r Tîm Moderneiddio Ysgolion, Dysgu Gydol Oes, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 6DN; neu
  • anfon sylwadau drwy lythyr at y Tîm Moderneiddio Ysgolion, Dysgu Gydol Oes, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 6DN

NODWCH Y CYFNOD YMGYNGHORI WEDI DOD I BEN.

Gorffennaf 2012

Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2012, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor gylch arall o gyfarfodydd ymgynghori anffurfiol, ynghylch y dewis a ffefrir ar gyfer Treffynnon.

Dyma’r dewis a ffefrir :

  • Adeiladu ysgol uwchradd newydd i ddisgyblion 11-16 oed ac ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Perth y Terfyn ac Ysgol y Fron.
  • Byddai’r dewis hwn yn uno’r ysgol babanod a’r ysgol iau mewn un ysgol gynradd bwrpasol newydd, ar yr un safle â’r Ysgol Uwchradd. Byddai hyn yn cynnig gwell dilyniant i’r dysgwyr drwy gydol y blynyddoedd cynradd. Yn ôl yr ymatebion a gafwyd hefyd, nodwyd bod hwn yn gyfle prin i ddatblygu ysgol uwchradd newydd i wasanaethu cymunedau lleol.
  • Ar hyn o bryd, mae’r ysgol babanod a’r ysgol iau ar safleoedd cyfyngedig a does fawr o le i’w gwella na’u datblygu yn y dyfodol. Byddai uno’r ddwy ysgol yn cadw at bolisi’r Cyngor o uno ysgolion lle bo hynny’n briodol. Mae’r arbedion dilynol yn elfen arwyddocaol yn y gymeradwyaeth gychwynnol i’r cynllun arfaethedig gan Lywodraeth Cymru. Byddai sefydlu’r ysgolion ar yr un safle yn fodel ar gyfer datblygu safleoedd eraill yn y dyfodol, pan fydd arian ar gael. Mae unrhyw arbedion a wneir drwy ddewis y model hwn yn golygu bod yr ysgolion yn fwy fforddiadwy ac y bydd rhagor o adnodau ar gael. Mae’r gymuned leol o blaid y trefniant hwn.
  • Mae bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran trawsnewid addysg chweched dosbarth yn yr ardal yn dal yn broblem. Cafwyd nifer o ymatebion yn mynegi’r farn y dylid parhau i gynnig addysg ôl-16 yn yr Ysgol Uwchradd. Fodd bynnag, cydnabyddir bod nifer y disgyblion ar gofrestr y chweched dosbarth yn is na’r hyn sydd ei angen i gynnig sicrwydd ariannol, ac i fedru parhau i gynnig cwricwlwm digon eang i fodloni gofynion y Mesur Dysgu a Sgiliau.   Mae’r dystiolaeth yn dangos bod nifer y disgyblion a’r canlyniadau’n parhau’n broblem. Mae’r arian grant sydd ar gael ar gyfer y dewis hwn ynghlwm wrth raglen drawsnewid Llywodraeth Cymru sy’n gofyn i awdurdodau lleol adolygu cynaliadwyedd addysg ôl-16, yn enwedig os yw’r chweched dosbarth yn fach.
  • Un elfen bwysig yng nghynaliadwyedd addysg ôl-16 yw maint yr arian sy’n cael ei dynnu i lawr yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac nad yw’n rhan o gyllideb 11-16 ysgolion a ddirprwyir gan yr Awdurdod. Mae cyllid ôl-16 yn dibynnu’n bennaf ar nifer y disgyblion ar y gofrestr ôl-16 a’r pynciau a gynigir, a chaiff ei ddosbarthu i ysgolion gan yr Awdurdod mewn modd a gytunir gan yr ysgolion uwchradd.
  • Yn achos Ysgol Uwchradd Treffynnon, a rhai ysgolion uwchradd eraill mewn sefyllfa debyg, rhaid ychwanegu at y cyllid ôl-16 o’r gyllideb ddirprwyedig ar gyfer addysg 11-16.
  • Mae’n iawn i unrhyw ysgol newydd adlewyrchu gobeithion a dyheadau ysgol wirioneddol gymunedol. Rhaid i hyn gynnwys gweithio gyda phartneriaid eraill ym maes addysg bellach ac uwch, cyrff eraill yn y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol i sicrhau  dysgu cymunedol a galwedigaethol, ynghyd â chyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a fydd yn ychwanegu ar y cyfleoedd sydd ar gael i bobl Treffynnon a’r cyffiniau.
  • Mae’r dewis hwn ynghlwm wrth ddarparu cyfleusterau ôl-16 yng Nghei Connah. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo, mewn egwyddor, ariannu 50% o’r cynllun hwn.

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma .

Mehefin 2012

Chwefror 2012

I helpu’r Cynghorwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, efallai yr hoffech gyflwyno sylwadau a thystiolaeth yn ymwneud â’r canlynol:

  • safon yr addysg a gaiff ei darparu yn yr ardal, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, y Cyfnod Sylfaen a Rhaglen Pontio 14-19;
  • yr angen i sicrhau darpariaeth benodol yn yr ardal, er enghraifft, i ymdopi â chynnydd neu ostyngiad yn nifer y disgyblion neu â galw cynyddol am addysg Gymraeg neu addysg ffydd yn yr ardal;
  • bodloni deddfwriaeth cydraddoldeb a mynd i’r afael â thlodi plant;
  • hygyrchedd ysgolion, yn enwedig o ran amseroedd teithio i’r ysgol;
  • diogelu’r Gymraeg;
  • darparu cyfleusterau i’r gymuned gyfan (ee hamdden, diwylliant, iechyd) neu gryfhau cydlyniant cymdeithasol;
  • sicrhau bod adeiladau pob ysgol yn addas i’r diben;
  • pa mor gost effeithiol yw’r cynigion.

Yn dilyn cyfres o weithdai a gynhaliwyd ar gyfer holl Gynghorwyr Sir y Fflint, cafodd yr opsiynau canlynol eu fformiwleiddio a’u cytuno ar gyfer ardal Treffynnon.

DewisiadauDisgrifiad
Opsiwn 1 Lleihau maint Ysgol Uwchradd Treffynnon.
Opsiwn 2 Adeiladu ysgol uwchradd newydd i ddisgyblion 11-18 oed, ynghyd ag ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Perth y Terfyn ac Ysgol y Fron
Opsiwn 3 Adeiladu ysgol uwchradd newydd i ddisgyblion 11-16 oed, ynghyd ag ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Perth y Terfyn ac Ysgol y Fron

Mae’r llyfrynnau ymgynghori ar gyfer Ysgol Uwchradd  Treffynnon  ac  Ysgol Perth y Terfyn ac Ysgol y Fron ar gael yn awr. Mae’r llyfrynnau’n rhoi rhagor o wybodaeth am y dewisiadau a’r modd y bydd y broses ymgynghori’n gweithio.

Mae copïau o’r llyfryn wedi’u dosbarthu i bob ysgol a effeithir.

Mae'r ymgynghoriad a ddaeth i ben 27 Ebrill, 2012.

Cynhelir ymgynghoriadau hefyd â Phlant a Phobl Ifanc yr ysgolion a effeithir.

Dogfennau Cefndirol

Ardal Treffynnon - Cwestiynau

Rhagfyr 2011

Mae cyfarfod arbennig o Gyngor Sir y Fflint wedi'i alw ddydd Mercher 14 Rhagfyr 2011 am 6pm i drafod y rhaglen moderneiddio ysgolion.

Cyfarfod Arbennig y Cyngor Sir y Fflint - 14.12.11
Rhan 1 - Agenda - 08.12.11

Medi 2011

Mae’r digwyddiad ymgynghori a drefnwyd yn Ysgol Uwchradd Treffynnon ddydd Mawrth 20 Medi 2011 wedi cael ei ganslo.

Mehefin 2011

Cynhelir y digwyddiadau ymgynghori hyn yn Ysgol Uwchradd Treffynnon ar Dydd Mawrth 5 Gorffennaf.

Gwybodaeth Diwethaf

Bydd cyfarfod o Bwyllgor Gweithredol y Cyngor yn cael ei gynnal ddydd Llun, 5 Medi (10am) 2011 yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug i ystyried adroddiad ynglŷn â moderneiddio ysgolion.

Diben yr adroddiad hwn yw ystyried y broses a’r gwaith paratoi a fydd ei angen ar gyfer ail-agor yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Adolygiadau Ardal o Ddarpariaeth Ysgolion Uwchradd yn dilyn Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor yn ddiweddar (yn unol â Strategaeth Moderneiddio Ysgolion y Cyngor a’r Achos Amlinellol Strategol 14 – 19).

Gweithredol - Cofnodion 05.09.11
Rhan 1 - Agenda - 31.08.11

Awst 2011

Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Sir y Fflint a gynhaliwyd ddydd Mercher 17 Awst 2011, argymhellwyd y dylid dod â’r broses ymgynghori bresennol ynghylch yr adolygiad ysgolion lleol i ben.

Er mai’r teimlad cyffredinol yn y cyfarfod oedd bod angen adolygu dyfodol ysgolion – ac yn enwedig nifer y llefydd dros ben – roedd angen i’r Cyngor gymryd cam yn ôl ac yna ailagor yr ymgynghoriad gan gyflwyno’r holl ddewisiadau posibl a’r holl wybodaeth sydd ar gael. Mae’r Cyngor yn ymwybodol iawn fod hyder y cyhoedd yn y broses ymgynghori anffurfiol ddechreuol yn gymysg, a bod angen ailystyried y ffordd orau o ailddechrau’r broses gan roi mwy o lais i aelodau etholedig, ysgolion a rhanddeiliaid eraill yn y modd y byddwn yn bwrw ymlaen.

Bydd Pwyllgor Gweithredol y Cyngor yn awr yn ystyried y broses ymgynghori a’r amserlen yn ystod mis Medi. Bydd manylion dyddiadau, amseroedd a lleoliadau ar gael ar y wefan cyn gynted â phosibl.

Ni fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ailddechrau tan fis Hydref fan bellaf. Yn y cyfamser, ni fydd y cyfarfodydd ymgynghori a drefnwyd yn cael eu cynnal.

Mehefin 2011

Mae nifer o ddigwyddiadau ymgynghori cynhaliwyd yn y meysydd canlynol:

Bwcle, Mynydd Isa a'r Wyddgrug

Treffynnon

Queensferry, Shotton a Chei Connah

Pwrpas y digwyddiadau hyn oedd i sicrhau bod barn rhieni, myfyrwyr, llywodraethwyr, staff, undebau a’r gymuned yn gyffredinol yn cael ei chlywed ac i’n helpu i ddatblygu’r camau nesaf er lles addysg yn yr ardaloedd lleol hyn.

Isod, mae crynodeb o’r rhesymau pam mae angen i ni foderneiddio’n hysgolion uwchradd. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol.

Pam mae angen y newidiadau

  • Fel yr awdurdod lleol, mae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymedig i weithio gydag ysgolion a chymunedau i sicrhau bod cyfleoedd dysgu o safon ar gael i bawb.
  • Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn defnyddio’r adnoddau sydd gennym (adnoddau yr pobl, arian, adeiladau, gwybodaeth a thechnoleg) yn effeithiol ac yn effeithlon fel ein bod yn rhoi gwerth am arian wrth wella ein hysgolion a helpu ein dysgwyr i lwyddo ar yr un pryd.
  • Yr her a wynebwn ar hyn o bryd yw ein bod am sicrhau bod ein hysgolion i gyd yn ‘addas i’r diben' o ystyried bod arian yn brin i gwrdd â disgwyliadau cynyddol. Mae gormod o’n hysgolion mewn adeiladau anaddas ac ni fedrant ddiwallu anghenion y disgyblion a’r staff.
  • Ar y cyfan, mae niferoedd disgyblion yn lleihau ac, o ganlyniad, mae mwy o leoedd (desgiau) gwag mewn rhai o'n hysgolion.  Mae pob Cyngor yng Nghymru wedi cael cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru, Estyn (yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant ar gyfer Cymru) a Swyddfa Archwilio Cymru i leihau nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion. Mae’n bosibl yr effeithir ar ein cyllid yn y dyfodol hefyd os oes gormod o leoedd gwag.
  • Mae lleoedd gwag hefyd yn golygu bod yr adeiladau’n cael eu tan-ddefnyddio, ac mae cynnal a chadw’r adeiladau hefyd yn gostus. Gellir gwario unrhyw arbedion a wneir drwy leihau nifer y lleoedd gwag i dalu am athrawon, cynorthwywyr dysgu, deunyddiau dysgu a gwella ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu eraill.
  • Yn Sir y Fflint, mae tair Ysgol Uwchradd gyda dros 25% o leoedd gwag.  Mewn geiriau eraill, dim ond tri chwarter llawn yw’r ysgolion hyn. Y rhain yw: Ysgol Uwchradd Treffynnon, Ysgol Uwchradd Elfed ac Ysgol Uwchradd John Summers.
  • Mae gan y Cyngor ‘Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2009'. Yn ôl y strategaeth hon bydd ymgynghori’n digwydd i ddatblygu cynllun ar gyfer dyfodol y ddarpariaeth addysgol leol o dan nifer o amgylchiadau, sy’n cynnwys pan fydd gan ysgolion dros 25% o leoedd gwag.
  • Oherwydd bod yr amgylchiadau hyn yn awr wedi codi, rydym yn awr yn dechrau ymgynghori ar drefniadaeth ysgolion uwchradd yn y dyfodol mewn tair ardal yn y sir.
  • Mae cynlluniau a darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 hefyd yn effeithio ar ysgolion uwchradd.  Yn ôl Strategaeth Moderneiddio Ysgolion Sir y Fflint 2009, mae angen o leiaf 120 o fyfyrwyr mewn chweched dosbarth i sicrhau ei fod yn ariannol hyfyw, ac y gellir cynnig yr amrywiaeth ofynnol yn y cwricwlwm.