Alert Section

Awtistiaeth


Gobeithir y bydd y tudalennau hyn yn dod ag ystod o wybodaeth ynghyd i un lle i gyfeirio pobl at y wybodaeth gywir a chymorth.  Bydd y tudalennau yn parhau i gael eu diweddaru wrth i ni ddysgu mwy am gefnogaeth leol. 

Cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint    

Gwasanaethau Cymdeithasol - Cysylltwch â ni 

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
Swyddfeydd y Sir, Stryd y Capel, Y Fflint, CH6 5BD. 
Rhif ffôn: 01352 701000

Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion - Un Pwynt Mynediad
Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug CH7 1PZ
Rhif ffôn: 03000 858858
E-bost: spoa@flintshire.gov.uk

Asesiadau ar gyfer Awtistiaeth

Oedolion 

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru
Mae’r gwasanaethau’n darparu asesiad diagnostig o awtistiaeth i oedolion (weithiau ar y cyd â gwasanaethau eraill), cefnogaeth a chyngor i oedolion awtistig, rhieni/ gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol. Gall unigolion hunanatgyfeirio am asesiad. 
Nid yw IQ yn ystyriaeth mewn asesiadau Awtistiaeth. 

Plant

Sut i gael diagnosis - Y GIG  
Cyngor ar y camau cyntaf i’w cymryd os ydych chi’n credu bod eich plentyn yn dangos arwyddion o Awtistiaeth. 

Y Tîm Niwroddatblygiadol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 
Mae'r tîm niwroddatblygiadol yn asesu plant a phobl ifanc ble mae pryderon ynglŷn â chyflwr niwroddatblygiadol posib, h.y. Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Maent yn archwilio'r effaith mae'r rhain yn ei gael ar allu plentyn/unigolyn ifanc i weithredu yn ei fywyd o ddydd i ddydd a gallant gynnig cymorth penodol a chyngor i deuluoedd.

Gwybodaeth 

Awtistiaeth Cymru  
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae yna hefyd ystod eang o adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim, sydd wedi cael eu datblygu gyda phobl awtistig, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru. 

Y Tîm Niwroddatblygiadol - Tudalennau Cyngor a Chefnogaeth
Mae’r tudalennau hyn ar wefan BIPBC yn darparu gwybodaeth am nifer o feysydd yn ymwneud â Chyflyrau Niwroddatblygiadol.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Iaith a Chyfathrebu
  • Rheoli Newid
  • Strategaethau Ymddygiad Cadarnhaol 
  • Sensitifrwydd Synhwyraidd
  • a llawer mwy 

Y Tîm Niwroddatblygiadol - Dolenni Defnyddiol  
Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys dolenni i adnoddau defnyddiol, fideos a gwasanaethau lleol. 

Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru 
Mae Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru yn gweithio gyda phobl awtistig ar draws Cymru.  Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys cyngor, canllawiau a newyddion sy’n benodol i Gymru. 

Awtistig-DU CBC/Autistic UK CIC
Sefydliad sy’n cael ei arwain gan bobl awtistig i bobl awtistig a’u teuluoedd. 

Mae gwasanaethau eraill a chymorth ar gael ar DEWIS Cymru 

Gofalwyr 

Os ydych yn gofalu am rywun sy’n methu gofalu amdanyn nhw eu hunain oherwydd salwch, anabledd, neu effeithiau heneiddio a’ch bod yn rhoi gofal sylweddol, di-dâl i’r person hwnnw, felly rydych yn Ofalwr.

Gwasanaethau i’ch helpu chi gyda’ch cyfrifoldebau gofalu:

  • Rhoi cyngor a gwybodaeth
  • Eich cyfeirio at gyrff gwirfoddol sy’n gallu rhoi grantiau a chymorth i ofalwyr
  • Cymorth gyda’r gwaith garddio, glanhau neu i brynu offer
  • Rhoi seibiant oddi wrth ofalu
  • Ailasesu’r cymorth a gaiff y person rydych chi’n gofalu amdano i wneud yn siŵr bod eich anghenion chi’n cael sylw.

Er bod modd trefnu rhai gwasanaethau’n uniongyrchol gyda chorff gwirfoddol, gyda gwasanaethau eraill, mae’n rhaid cynnal asesiad i weld beth yw’ch anghenion a pha wasanaethau sydd ar gael i’ch helpu. 

NEWCIS 
Asesiadau Anghenion Gofalwyr, gwybodaeth, cefnogaeth un i un, hyfforddiant, cwnsela a mwy i ofalwyr sy’n darparu cefnogaeth ddi-dâl i deulu neu ffrindiau sy’n byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. 

Gostyngiadau i Ofalwyr 
Mae llawer o gynigion, buddion a gostyngiadau ar gael yn arbennig i ofalwyr a phobl gydag anghenion gofal.  Mae llawer o atyniadau yn cynnig mynediad am ddim i ofalwyr gyda’r unigolyn y maent yn gofalu amdano – yn cynnwys Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Sŵ Gaer a’r Sinema.  Bydd angen i chi gyflwyno prawf o anabledd (DLA/PIP/Bathodyn Glas) er mwyn cael gostyngiad. 

Canllaw Gofalwyr Hanfodol
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys manylion am wasanaethau defnyddiol a gwybodaeth am Asesiadau Gofalwr a sut i gael mynediad atynt. 

Polisi a Deddfwriaeth 

Tudalennau Awtistiaeth Llywodraeth Cymru
Yn cynnwys strategaeth, adroddiadau, prosiectau ac asesiadau, yn cynnwys: 


Y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol (CLlLC) 
Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Tîm yn darparu cymorth ac arweiniad i helpu i wella bywydau pobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr ar draws Cymru.

Hyfforddiant

Ardystiad Ymwybodol o Awtistiaeth - Awtistiaeth
Cymru Mae’r cynllun wedi’i anelu at bawb sy’n dymuno cael gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth.