Alert Section

Cyflogi Cynorthwyddwyr


Employing PA 670

Cyflogi Cynorthwywyr Personol (CP)

Os ydych yn dewis cyflog Cynorthwywyr Personol gan ddefnyddio eich Taliadau Uniongyrchol, mae ychydig o bethau i’w hystyried. Mae gofynion cyfreithiol ac arferion da cyffredinol i gadw atynt, fel:

  • Cadw cofnodion
  • Defnyddio cyflogres a rhoi pensiynau lle bo’n bosibl
  • Darparu tâl gwyliau a chadw cofnod o hyn
  • Sicrhau bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a chyflogwyr yn eu lle
  • Arferion recriwtio diogel e.e. gwiriadau hawl i weithio a gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Iechyd a diogelwch
  • Mynediad at hyfforddiant
  • Darparu contractau cyflogaeth

Fodd bynnag, gall Swyddogion Cefnogi Taliadau Uniongyrchol roi’r gefnogaeth a’r wybodaeth hanfodol mewn perthynas â phob un o’r uchod. Nid ydych ar eich pen eich hun wrth wneud y rôl newydd yma, rydym yma i roi cefnogaeth a’ch tywys drwy’r broses o fod yn gyflogwr.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a thaflenni ffeithiau am gyflogi cynorthwywyr personol yma

Mae rhagor o wybodaeth am rôl cyflogwr, ochr yn ochr ag astudiaethau achos ar ganolbwynt Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gallwch hefyd siarad â’r tîm Taliadau Uniongyrchol i wybod mwy 01352 701100

Hyfforddiant

Byddwch angen ystyried pa hyfforddiant fydd ei angen ar eich Cynorthwyydd Personol o bosibl.

Mae yna nifer o gyfleoedd i gael mynediad at hyfforddiant, gweler ein tudalen hyfforddi am fwy o wybodaeth