Alert Section

Trefniadau Byw Preifat ar gyfer Plant (Maethu Preifat)


 Ydych chi’n edrych ar ôl plentyn rhywun arall? 

  • Ydyn nhw dan 16 oed?
  • Ac nid ydych yn berthynas agos?*
  • Ydyn nhw’n aros gyda chi am fwy na 28 diwrnod?

Dywedwch wrthym, gallwn helpu. Ffoniwch 01352 701000

* Mae perthynas agos yn aelod biolegol neu gyfreithiol o deulu plentyn fel nain neu daid, modryb, ewythrod, brodyr, chwiorydd neu lys-rieni gyda chyfrifoldeb rhieni.

A yw hyn yn berthnasol i mi?

Rhestr Wirio Maethu Preifat

Os nad ydych yn sicr a yw hyn yn berthnasol i’ch sefyllfa chi, cysylltwch â ni.  EarlyHelpHub.Enquiries@flintshire.gov.uk neu ffoniwch y Cyswllt Plant yn Gyntaf ar: 01352 701000

Eitemau i'w lawr lwytho:

Plentyn Rhywun Arall – Canllaw i ofal maeth preifat www.youtube.com/watch?v=dAgI2qrdyxE 

Os ydych yn gweithio gyda phlant
Os yw plentyn yn byw i ffwrdd o gartref, gallent fod mewn perygl. Os ydych yn gwybod am ddisgybl neu blentyn dan 16 (neu dan 18 os oes ganddynt anabledd), yn byw gyda rhywun nad yw’n berthynas agos ac yn aros yna am hirach na 28 diwrnod. Dyma yw maethu preifat.

Fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant mae dyletswydd arnoch i roi gwybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Plant. Peidiwch â pheryglu diogelwch plentyn. Mae’n rhaid rhoi gwybod i’r Cyngor yn ôl y gyfraith, os yw rhywun yn gwybod am drefniant maethu preifat.

Enghreifftiau:

  • Merch 15 oed o America yn ymweld â’i chariad yn y DU
    Mae Carrie yn ferch 15 oed o America. Mae hi’n ymweld â’i chariad Sam sy’n byw ym Mhrydain. Mae hi’n aros am 6 wythnos. Mae Carrie wedi mynd yn sâl ac mae angen triniaeth feddygol arni. Mae mam Sam yn mynd â hi at y meddyg lleol ond all hi ddim rhoi caniatâd meddygol am driniaeth. Maent yn ceisio cysylltu â rhieni Carrie yn America, ond mae angen y driniaeth ar frys.

Mae hyn yn “faethu preifat” – Byddem yn helpu sicrhau bod gennych y caniatâd meddygol sydd angen pan fod person ifanc yn eich gofal. 

  • Plentyn 7 oed yn byw gyda chariad ei Fam
    Mae Jake yn 7 oed ac yn byw gyda’i fam a’i chariad. Mae gan Mam broblemau alcohol ac nid yw wedi dychwelyd adref am 4 wythnos. Mae cariad Mam, Robert, yn gofalu am Jake ond yn cael trafferth yn ariannol. Nid yw Mam yn ateb ei ffôn. Nid yw Robert yn gallu hawlio budd-dal plant gan nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Mae hyn yn “faethu preifat” – Byddem yn helpu sicrhau bod gennych y trefniadau ariannol sydd angen pan fod person ifanc yn eich gofal. 

  • Bachgen yn ei arddegau’n byw gyda theulu ei ffrind
    Mae Jamie yn 14 oed ac yn byw gyda ffrindiau yn dilyn dadl gyda’i rieni. Mae rhieni ei ffrind Karen a Mick yn dweud y gall aros mor hir ag y mae eisiau ac maent yn cyd-dynnu’n dda gyda Jamie. Mae mam Jamie yn dod i’r tŷ drwy’r amser, yn gweiddi ar Jamie i ddod adref. Nid yw Karen a Mick yn gwybod ble maent yn sefyll yn gyfreithiol.

Mae hyn yn “faethu preifat” – Byddem yn helpu sicrhau bod gennych y caniatâd sydd angen a byddem yn gallu trafod gyda'r rhieni ar eich rhan, pan fod person ifanc yn eich gofal.

  • Victoria Climbie
    Daethpwyd â Victoria Climbie i Brydain ym mis Ebrill 1999 o’r Traeth Ifori gyda’i hen fodryb Therese-Marie Kouao. Daethpwyd â Victoria i Brydain drwy drefniant maethu preifat i gael cyfle i gael addysg dda. Bu farw ar 25 Chwefror 2000. Daeth Patholegydd y Swyddfa Gartref o hyd i 128 anaf unigol ar ei chorff a nododd mai dyma oedd: ‘yr achos gwaethaf o gam-drin plant i mi ddod ar ei draws’. Yn ei ymchwiliad, amlygodd yr Arglwydd Laming bryderon am blant mewn gofal maeth preifat. Mae canllawiau ers hynny wedi pwysleisio’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiogelu plant wedi eu maethu’n breifat.

http://www.privatefostering.org.uk/profs/case_studies 

Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd angen i ni wybod enw ac oedran y plentyn, ble mae’n byw, a gyda phwy. Bydd angen dyddiad geni ac enw’r plentyn arnom ni a chyfeiriad y rhieni, eich enw chi a’ch manylion cyswllt.

Byddwn yn cysylltu â chi ac yn ymweld i wirio fod y plentyn yn ddiogel. Byddwn yn helpu i wneud y trefniadau ariannol ac unrhyw ganiatâd am ofal meddygol ac ati. Gallwn gynnig cefnogaeth ac arweiniad i chi.