Alert Section

MST Therapi Aml-Systemig


Mae partneriaid Gogledd Ddwyrain Cymru wedi sefydlu’r tîm MST cyntaf, a’r unig dîm, yng Cymru. Fe weithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac Awdurdodau Lleol Sir y Fflint a Wrecsam ynghyd i gynllunio a gweithredu’r Tîm MST, gan ddefnyddio Cyllid Trawsnewid Llywodraeth Cymru.

Mae Therapi Aml-Systemig yn ymyrraeth therapiwtig drwyddedig, sy’n fwy hysbys fel MST. Daeth yn wreiddiol o Unol Daleithiau America ac mae’n seiliedig ar theorïau Eco Gymdeithasol Bronfenbrenner a’r Model Achosol a ddatblygwyd gan Elliott (1983).

Heddiw, mae ganddo sail dystiolaeth ryngwladol ac yn cael ei ddefnyddio gyda theuluoedd mewn gwledydd ar draws y byd. Mae MST y DU yn goruchwylio’r gymeradwyaeth o drwyddedau yma, ac os hoffech ragor o wybodaeth, gallwch weld eu gwefan www.mstuk.org

Mae MST yn targedu’r teuluoedd o unigolion 11 i 17 oed sy’n dangos ymddygiad gwrthgymdeithasol, sydd o bosibl â’r Heddlu a’r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn ymwneud â nhw, digwyddiadau treisgar, camddefnyddio sylweddau, rhedeg i ffwrdd ac yn creu bywyd teulu anodd iawn ac allan o reolaeth yn gyffredinol.

Mae’r Tîm MST yn cynnwys un Goruchwyliwr a 4 Therapydd, gyda phob un wedi gorfod cael proses gyfweld sylweddol a thrylwyr, cyn cael eu penodi. Mae angen iddynt gael addysg hyd at lefel Gradd hefyd a chael profiad sylweddol o weithio gyda theuluoedd. Mae’r Tîm yn cael hyfforddiant ymgyfarwyddo cychwynnol am 5 diwrnod gan Arbenigwyr MST, gyda’r Goruchwyliwr yn cael 2 ddiwrnod ychwanegol o hyfforddiant. Mae rhagor o hyfforddiant yn digwydd ‘yn y swydd’ drwy oruchwyliaeth glinigol wythnosol, cyfarfodydd datblygu clinigydd a hyfforddiant ‘gloywi’ chwarterol.

Yn wahanol i lawer o ymyriadau eraill, bydd MST ond yn gofyn am o leiaf un oedolyn o bwys i gytuno i gyfranogi. Nid yw’r plentyn a atgyfeiriwyd angen rhoi eu caniatâd i ddarparu’r ymyrraeth.

Mae hyn o ganlyniad i MST yn gweithio gyda’r aelod/au teuluol i newid sut maent yn rheoli’r ecosystemau o amgylch ymddygiadau’r unigolyn ifanc.

Gwneir atgyfeiriadau drwy weithiwr cymdeithasol y plentyn a gellir trafod y broses gyda’r Goruchwyliwr MST.

Yn amgaeedig ceir tair taflen;  (Weld Dogfennau Defnyddiol)

  • Taflen MST i deuluoedd,
  • Taflen MST i bobl ifanc
  • Taflen MST i weithwyr proffesiynol

Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch neu e-bostiwch y Tîm MST drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar gefn y taflenni.

Mae yna hefyd sawl addasiad o’r model MST safonol, fel MST-CAN ar gyfer cam-drin plant ac esgeulustod, ac MST-FIT (Trawsnewid Integredig i Deuluoedd) ar gyfer dychwelyd pobl ifanc gartref o gartref plant a lleoliadau yn y ddalfa. Nid ydym yn gweithredu’r ymyriadau MST hyn ar hyn o bryd.