Alert Section

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014


Sut mae hyn yn effeithio ar fy ngofal a'm cymorth?

 Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gyfraith newydd ac yn rhoi llawer mwy o lais i chi o ran y gofal a'r cymorth a gewch. 

I'ch cefnogi i wella eich llesiant, fe gewch gwneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. I'ch helpu i wneud hynny, mae ganddoch fynediad rhwydd at wybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi. 

Mae gan ofalwyr yr un hawliau â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt o ran cael asesiadau am gymorth, a mae gan fwy o bobl yr hawl i gael Taliadau Uniongyrchol. 

Mae'r proses asesu gofal a chymorth newydd yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. Mae'n ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan eich teulu, eich ffrindiau ac eraill yn y gymuned. 

Mae'r asesiad yn fwy syml a mae modd i unigolyn ei gynnal ar ran amrywiaeth o sefydliadau. 

Mae mwy o wasanaethau er mwyn rhwystro problemau rhag gwaethygu, er mwyn i'r cymorth cywir fod ar gael pan mae ei angen arnoch chi. 

Mae pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag cam-drin neu esgeulustod wedi cael eu cyflwyno. 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi dod i rym ym mis Ebrill 2016.  

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://gov.wales/topics/health/socialcare/act/?skip=1&lang=cy

Cwestiynau Cyffredin 

 

Beth mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ei wneud?

Mae'n uno ac yn moderneiddio cyfreithiau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n newid y ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu i wella llesiant pobl Cymru.

Mae ganddoch fwy o lais mewn penderfyniadau am eich gofal, gan wneud penderfyniadau mewn partneriaeth gyfartal gyda'r gweithwyr proffesiynol.

Mae modd i chi gael gwybodaeth a chyngor i’ch helpu. 

Mae sefydliadau fel awdurdodau lleol a'r GIG yn gweithio mewn partneriaeth i wneud systemau'n symlach ac yn fwy effeithlon. 

Beth yw ystyr "llesiant"?

Mae llesiant yn golygu eich bod yn hapus, yn iach ac yn gysurus gyda'ch bywyd a'r hyn rydych chi'n ei wneud. Mae'r Ddeddf yn gosod diffiniad o lesiant ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Datganiad Llesiant i edrych ar y canlyniadau llesiant y gall pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ddisgwyl eu cyflawni.

Datganiad Llesiant 

Ond beth os nad ydw i'n meddwl y caiff fy llais ei glywed yn iawn?

Gall eich teulu a’ch ffrindiau gymryd rhan mewn trafodaethau a’ch helpu.

Os nad yw hyn yn opsiwn i chi, mae modd i chi ddefnyddio gwasanaethau eirioli. 

A mae pobl yn fwy diogel?

Mae'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn ystyried effeithiolrwydd trefniadau diogelu ar draws Cymru.

Maent yn monitro perfformiad ledled y wlad ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru am welliannau y gellid eu gwneud.

Mae deddfau i ddiogelu oedolion a phlant rhag camdriniaeth neu esgeulustod hefyd wedi'u cryfhau. 

Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen cyn ei bod yn argyfwng?

Mae'r awdurdod a'r bwrdd iechyd lleol yn cydweithio i asesu'r boblogaeth a gweld pa ofal a chymorth sydd ei angen yn yr ardal. Mae hyn yn dangos pa wasanaethau ataliol sydd eu hangen. Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl. Rhaid i awdurdodau lleol annog pobl sy'n derbyn gofal a chymorth i ymuno yn y broses o lunio a darparu gwasanaethau, ynghyd â dulliau cyflawni eraill gan gynnwys; mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan eu defnyddwyr, a'r sector gwirfoddol. 

Beth yw'r dulliau cyflawni eraill?

Mae menter gymdeithasol yn fusnes sy'n ail-fuddsoddi’r elw yn ei wasanaethau neu yn y gymuned.

Mae cwmni cydweithredol yn grŵp o bobl sy'n gweithredu gyda'i gilydd yn wirfoddol i ddiwallu angen economaidd neu gymdeithasol yn eu cymuned.

Mae gwasanaethau sy'n cael eu cyflawni gan ddefnyddwyr yn cael eu rhedeg a'u rheoli gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth.

Ceir gwybodaeth ar wefan Busnes Cymdeithasol Cymru ynghylch sut i sefydlu menter gymdeithasol.

http://businesswales.gov.wales/socialbusinesswales/cy/  

Beth sy'n wahanol am fy mhroses asesu?

Mae asesiadau'n symlach, ac ar sail eich anghenion.

Maent yn cael eu cwblhau mewn partneriaeth gyda chi a'ch teulu, a'r person proffesiynol sy'n gweithio gyda chi. Mae sgwrs yn cael ei chynnal i benderfynu beth sy'n bwysig i chi a beth sydd ei angen arnoch i sicrhau eich llesiant. Mae hyn yn ystyried eich cryfderau, a'r adnoddau a'r opsiynau sydd ar gael i chi - gan gynnwys unrhyw gymorth y gall yr awdurdod lleol ei ddarparu. 

Oes unrhyw newidiadau i Daliadau Uniongyrchol?

Mae mwy o bobl yn medru derbyn Taliadau Uniongyrchol os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae hynny'n golygu eich bod yn cael yr arian i drefnu eich gofal a'ch cymorth eich hun i sicrhau'ch canlyniadau llesiant, gan gynyddu'ch rheolaeth a'ch dewis personol. 

Sut mae sefydliadau yn cydweithio i wella llesiant?

Mae'n rhaid i awdurdodau a byrddau iechyd lleol yn benodol gydweithio'n agos er mwyn integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd well. Gyda'i gilydd, maent yn asesu gofynion gofal a chymorth yn eu hardaloedd gan nodi pa wasanaethau sydd eu hangen, a'u darparu.

Mae'n rhaid i sefydliadau gydweithio mewn ffordd integredig wrth asesu a pharatoi gofal er mwyn osgoi dyblygu gwaith. 

Os ydw i'n ofalwr, beth sy'n newid i mi yn benodol?

Fel gofalwr, mae gennych yr un faint o hawl â'r person rydych yn gofalu amdano i gael eich asesu i weld pa gymorth sydd ei angen arnoch, ac i gael y lefel briodol o gymorth gan eich awdurdod lleol. 

Rwy'n cael gofal maeth. Ydw i'n mynd i gael mwy o gymorth?

Os ydych chi a'ch teulu maeth am aros gyda'ch gilydd pan fyddwch yn cyrraedd 18 oed, byddwch yn cael cymorth i wneud hynny nes eich bod yn 21. Mae modd ymestyn hwn i'ch pen-blwydd yn 25 os ydych yn derbyn addysg neu hyfforddiant. 

Oes unrhyw newid i'r broses fabwysiadu?

Sefydlwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn 2014. Mae'n dod â'r holl gynghorau lleol ynghyd i gydweithio gyda sefydliadau gwirfoddol yn y maes mabwysiadu yng Nghymru. Mae'r canlyniadau eisoes yn dangos bod y broses yn gynt bellach, a bod gwell cymorth ar gael i deuluoedd. 

Oes unrhyw newid i'r ffordd rwy'n talu am ofal a chymorth?

Mae'r y ffordd rydych yn talu am ofal os oes gennych y modd ariannol i wneud hynny yn unffurf ar draws Cymru - mae un set o drefniadau asesu a chodi tâl ar gyfer pob oedolyn lle bo gofyn iddynt dalu am eu gofal. Mae hyn ar gyfer gofal preswyl a dibreswyl.

Mae pawb sy'n talu yn derbyn datganiad manwl yn egluro sut y cafodd y swm ei gyfrif, a mae modd ei herio os oes angen.   

Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gap ar y swm y gall cynghorau ei godi am ofal a chymorth dibreswyl - mae'r cap hwn yn £80 yr wythnos ar hyn o bryd. 

Sut y byddwn yn gwybod bod os yw'r Ddeddf yn llwyddiannaus?

Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru'n cofnodi eu perfformiad, ac yn medru cymharu eu hunain gydag ardaloedd eraill. Yna mae modd iddynt ddysgu a gwella drwy rannu arfer da. Mae Llywodraeth Cymru'n adrodd ar y cynydd tuag at lesiant mewn adroddiad blynyddol.