Alert Section

Map Rhwydwaith Teithio Llesol Integredig


Mae Gweinidogion Cymru bellach wedi cymeradwyo Map Rhwydwaith Teithio Llesol Integredig Cyngor Sir y Fflint, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf a Medi yn 2017. Mae'r Map Rhwydwaith Integredig yn weledigaeth 15 mlynedd i wella isadeiledd i gerddwyr a beicwyr ar draws y Sir. Mae’r Map Rhwydwaith Integredig wedi’i ddatblygu i ddiwallu ein dyletswyddau o dan y Ddeddf Teithio Llesol a ganiatawyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2013. Nod y Ddeddf yw annog pobl i gerdded neu feicio ar gyfer siwrneiau byr i gael mynediad i sefydliad gweithle neu addysgol neu i gael mynediad i wasanaethau iechyd, hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill ac i wneud Cymru yn genedl cerdded a beicio yn y pen draw. 

Am fwy o wybodaeth am y Ddeddf Teithio Llesol cliciwch isod:

http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Active-Travel.aspx


Edrychwch ar yr atodlen isod:

INM Revised Schedule 2