skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Tai > Tai cyngor > Ymglymiad Cwsmeriaid

Ymglymiad Cwsmeriaid


Mae’r Cyngor wedi  ymrwymo i ymgynghori â’n tenantiaid, ein lesddeiliaid ac, ar adegau, y gymuned ehangach, i sicrhau’n bod yn darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i roi cyfle i denantiaid, lesddeiliaid neu gynrychiolwyr i ddylanwadu ar ein cynlluniau a’r penderfyniadau a wneir am ein gwasanaethau.

Rydym wrthi’n barhaus yn ceisio datblygu amrywiaeth o ffyrdd i gynnwys ein tenantiaid a’n lesddeiliaid yn ein gwaith ac i roi cyfle iddynt gyfrannu at y broses o ddatblygu a gwella’n gwasanaethau.

Credwn y dylem gynnig amrywiaeth o ddewisiadau i’n holl denantiaid a’r lesddeiliaid i gyfrannu yn y ffordd hawsaf iddyn nhw - drwy lenwi arolygon neu ymuno â grwpiau buddiant neu gyfarfodydd ymgynghori efallai, neu drwy gymryd rhan mewn grŵp tenantiaid a phreswylwyr.

Os ydych am gyfranogi, cysylltwch â’r Swyddog Cyfranogiad Cwsmeriaid, Debbie Davies, ebost:debbie.davies@flintshire.gov.uk neu ffoniwch: 01352 703816/703817 / 07789945403

Neu gallwch ysgrifennu ati yn Swyddfeydd y Cyngor, Lôn y Capel, y Fflint. CH6 5WB.

Ar y tudalennau hyn, gallwch weld gwybodaeth ddefnyddiol a chanllawiau ar sut i sefydlu grŵp Tenantiaid a Phreswylwyr yn eich ardal.

Sefydlu Grŵp Tenantiaid a Phreswylwyr

Manylion cyswllt grwpiau aelodau presennol

 

Taith gerdded Swyddfa Ardal y Gogledd o amgylch y stad

Mae staff Swyddfa Ardal y Gogledd wedi trefnu’r ymweliadau canlynol ag ardaloedd.  Mae croeso i chi ymuno â staff ein swyddfa a mynegi barn am eich ystâd.

Rhaglen Teithiau Cerdded Awst 2010

Rhaglen Teithiau Cerdded Hydref 2010

Os bydd y tywydd yn wael, ffoniwch 01352 714099 i wneud yn siŵr bod yr ymweliad yn mynd rhagddo.

Diweddarwyd: 8/20/10 12:05 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.