skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Busnes > Wythnos fusnes Sir y Fflint

Wythnos fusnes Sir y Fflint


siryfflint.gov.uk/wythnosfusnes

Bydd Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2010 – a drefnir gan Gyngor Sir y Fflint -  yn cael ei chynnal fis Hydref. Caiff y digwyddiad hwn ei gynnal bob blwyddyn ers 2007 a’i nod yw rhannu gwybodaeth ac arfer gorau, datblygu a gwella cysylltiadau busnes a rhoi llwyfan i fusnesau Sir y Fflint i hybu eu llwyddiant.

Pum diwrnod o seminarau, gweithdai ac arddangosfeydd rhwng 13 a 19 Hydref

Bydd thema wahanol bob dydd a defnyddir lleoliadau gwahanol yn y sir bob dydd hefyd:

Dyddiad Thema Lleoliad
Dydd Mercher 13 Hyd Pobl mewn Busnes Gwesty Beaufort Park
Dydd Iau 14 Hyd Arloesi a Thechnoleg Airbus
Dydd Gwener 15 Hyd O Fusnes i Fusnes Northop Hall Country House Hotel
Dydd Llun 18 Hyd Yr Amgylchedd UPM Shotton
Dydd Mawrth 19 Hyd Cyllid Gwesty Springfield

Bydd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Areithiau cyweirnod gan Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, ar y Rhaglen Adfywio Economaidd, a Neil Ashbridge, Asiant Cymru ym Manc Lloegr, a fydd yn sôn am yr Economi Fyd-eang .
  • Hawl i Holi dros Frecwast a noddir gan Gydffederasiwn Diwydiannu Prydain – cyfle i drafod materion allweddol ag Aelodau Seneddol lleol
  • Noson o rwydweithio a noddir gan Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru a Ffederasiwn y Busnesau Bach
  • Cyflwyniad yn Airbus ar yr A350 ac arddangosfa Arloesedd a Thechnoleg

Yn ogystal â’r seminarau a’r gweithdai, bydd arddangosfeydd gan gyrff a busnesau’n gysylltiedig â phob thema. Cysylltwch ag Ashley Zepeda ar 01352 703219 neu ashley.zepeda@flintshire.gov.uk i gael rhagor o fanylion os hoffech gael stondin arddangos ar unrhyw un o’r dyddiau hyn.

Ar wahân i’w pum diwrnod o ddigwyddiadau, bydd teithiau o amgylch ffatrïoedd ddydd Mawrth 12 Hydref a chofiwch am y brecwast traddodiadol i lansio’r Wythnos Fusnes a gynhelir yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy.

Mae tîm yr Wythnos Fusnes hefyd wedi trefnu i fusnesau Sir y Fflint deithio o amgylch safle’r Gemau Olympaidd yn Llundain ddydd Mercher 22 Hydref ac, yn dilyn yn daith, bydd derbyniad yn Nhŷ’r Cyffredin lle cânt eu croesawu, gobeithio, gan y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS a gafodd ei phenodi’n ddiweddar yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rhaid cyfyngu ar nifer y llefydd ar y daith hon, felly os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â  Patricia Carlin ar 01352 703042 neu  patricia.carlin@flintshire.gov.uk

Bydd Wythnos Fusnes Sir y Fflint hefyd yn cynhyrchu cylchgrawn FBW10. Mae gan y cyhoeddiad 48 tudalen hwn gylchrediad o 6,000 a chaiff ei ddosbarthu’n uniongyrchol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Gallwch hysbysebu ynddo am gyn lleied â £65. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a g Ashley Zepeda ar 01352 703219 neu ashley.zepeda@flintshire.gov.uk

Diweddarwyd: 6/9/10 2:33 PM
Gwybodaeth yn yr adran hon
Gwybodaeth am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi os ydych yn cynllunio i sefydlu busnes newydd neu sydd eisiau ehangu yn Sir y Fflint.
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas
BIS

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.