Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Genedigaethau, Marwolaethau, Priodasau neu Bartneriaethau Sifil


Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint

Sut i gael hyd i ni

Mae’n Swyddfa Gofrestru ni ym Mhlas Llwynegrin (ffenestr newydd) ar gyrion tref farchnad yr Wyddgrug. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â genedigaethau, marwolaethau, priodasau neu bartneriaethau sifil yn ardal gofrestru Sir y Fflint, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru hon yn gyntaf. Mae’r Swyddfa Gofrestru yn rhannu safle â chanolfan weinyddol y Cyngor Sir ac mae’n lleoliad gwerth chweil ar gyfer seremonïau. Dyma’n cyfeiriad post:

Y Swyddfa Gofrestru
Plas Llwynegrin
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR
Rhif ffôn: 01352 703333

Amseroedd agor

I osgoi unrhyw oedi diangen pan fyddwn yn cyfarfod cwsmeriaid newydd yn yr Wyddgrug, mae gan y Gwasanaeth Cofrestru system apwyntiadau ar gyfer yr holl wasanaethau cofrestru ar y dyddiau a ganlyn:

  • Dydd Llun             9:30 am - 3:30 pm
  • Dydd Mawrth        9:30 am - 3:30 pm
  • Dydd Mercher       9:30 am - 3:30 pm
  • Dydd Iau               9:30 am - 12:30 pm
  • Dydd Gwener        9:30 am - 3:30 pm

Mae’r Swyddfa Gofrestru’n lleoliad gwerth chweil i bob mathau o seremonïau. Adeiladwyd y Plas gan Thomas Jones, pensaer lleol a Syrfëwr y Sir ac fe’i cwblhawyd yn 1830. Roedd yn gartref gwledig tawel tan 1948 pan brynwyd y Plas a’r tir o’i amgylch gan yr hen Gyngor Sir y Fflint gyda’r bwriad o adeiladu safle i’r Cyngor Sir.

Ffotograffau o'r Swyddfa Gofrestru (ffenestr newydd)

Taith Rhithwir o'r Swyddfa Gofrestru - Plas Llwynegrin

Yn ogystal â’r brif swyddfa ym Mhlas Llwynegrin, mae gennym hefyd nifer o is-swyddfeydd yn y sir. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru i drefnu apwyntiad yn un o’r swyddfeydd isod:

• Neuadd y Dref, Bwcle                         Dydd Mercher a dydd Gwener
• Clinig Caergwrle                                 Dydd Mawrth
• Swyddfeydd y Sir,  Cei Connah           Dydd Llun a dydd Iau
• Swyddfeydd y Sir, y Fflint                   Dydd Mawrth a dydd Iau
• Llyfrgell Treffynnon                              Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener 

                                                                                                                                                                                                     

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd