Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Dywedwch Wrthym Unwaith


Image of: Computer / Llun o: Cyfrifiadur

Gwasanaeth unigryw yw Dywedwch Wrthym Unwaith sy’n anelu at wneud pethau’n haws i chi trwy’ch galluogi i ddweud unwaith yn unig wrth lywodraeth ganolog a llywodraeth leol fod rhywun wedi marw.  Ar adeg sy’n un anodd a thrallodus, mae’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn gyfle i chi roi caniatâd i rannu gwybodaeth am farwolaeth rhywun gyda’r cyngor ac adrannau’r llywodraeth i arbed amser ac arian i chi’ch hun.  Trwy roi caniatâd, bydd y sawl sy’n cofrestru’r farwolaeth yn rhoi gwybodaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau sydd wedyn yn anfon y wybodaeth ymlaen at nifer o adrannau a ddewisir gennych chi.

Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth

Ar ôl cofrestru marwolaeth, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith mewn gwahanol ffyrdd:

Wyneb yn wyneb - ar ôl cofrestru’r farwolaeth. Bydd y Cofrestrydd yn cymryd y wybodaeth gennych ac yn ei rhoi i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar eich rhan.

Trwy ffonio - gallwch ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 085 7308 (mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 6pm). Mae’r rhif hwn yn rhad ac am ddim o linell BT ond mae’n bosibl y bydd darparwyr eraill yn codi tâl, gan gynnwys darparwyr ffonau symudol.

Ar-lein - www.gov.uk/tell-us-once
Sylwch: i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein bydd angen eich cyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith arnoch a roddwyd i chi gan y cofrestrydd.

Taflen Dywedwch Wrthym Unwaith (PDF.doc, 508.84 Kb, ffenestr newydd)

Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint 

Sylwadau ar Dywedwch Wrthym Unwaith

Os ydych chi wedi defnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn ddiweddar, yna hoffem glywed am eich profiadau a chael eich barn am y gwasanaeth newydd. Caiff eich sylwadau eu hanfon at Wasanaethau Cwsmeriaid helpu i wella'r gwasanaeth.

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd