Cyngor Sir y Fflint
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Cymuned a byw
- Yr Iaith Gymraeg
Yr Iaith Gymraeg
Sir yng Ngogledd-ddwyrain Cymru yw Sir y Fflint. Gwlad ddwyieithog yw Cymru lle mae’r iaith frodorol, y Gymraeg, yn cael ei siarad gan un o bob pump o’r boblogaeth, ac mae mwyafrif helaeth y boblogaeth hefyd yn siarad Saesneg. Mae dosbarthiad y siaradwyr Cymraeg yn amrywio’n arw ledled Cymru o ran niferoedd a dwysedd. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd 14.1% o boblogaeth Sir y Fflint yn siarad Cymraeg.
Y Gymraeg yw un o ieithoedd byw hynaf Ewrop; mae hi’n hŷn nag Eingl-Sacsoneg neu’r Hen Saesneg ar dir mawr Prydain. Mae hi’n perthyn i hen gangen Geltaidd yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd sydd hefyd yn cynnwys y Wyddeleg, Gaeleg yr Alban, Manaweg, Llydaweg a Chernyweg. Un o nodweddion rhyfeddol bywyd yng Nghymru yw parhad y Gymraeg ac mae hi’n destun balchder i bobl Cymru. Er y bu’r Gymraeg dan orthrwm am ganrifoedd ac y dirywiodd y defnydd a wnaed ohoni’n arw, oherwydd hynny, erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, mae tystiolaeth yn awr y bu cyfnod o adfywiad yn ei hanes ers y 1960au. Cafwyd Deddf yr Iaith Gymraeg ym 1993 a sicrhaodd fod y Gymraeg wedi cael lle cynyddol amlwg ym mywyd cyhoeddus yn y Gymru gyfoes.
Mae rhagor o wybodaeth am y Gymraeg yn gyffredinol, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg (ffenestr newydd).
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


