Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Y dreth gyngor


Treth y Cyngor yw’r cyfraniad y mae pobl sy’n byw yn Sir y Fflint yn ei wneud tuag at y gwasanaethau niferus y mae’r cyngor yn eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel goleuadau stryd, gwasanaethau casglu sbwriel, ysgolion a llyfrgelloedd yn ogystal â’r heddlu a’r gwasanaeth tân.

Mae’r rhan fwyaf o gartrefi yn Sir y Fflint yn gorfod talu Treth y Cyngor. Un dreth sydd yna i bob cartref, p’un a ydyw’n dŷ, yn fyngalo, yn fflat, yn fflat ddeulawr neu’n gartref symudol a ph’un a yw’r sawl sy’n byw yn yr eiddo yn berchen arno neu’n ei rentu.

Mae tri thâl neu bresept yn rhan o’r bil a gaiff ei anfon i bob cartref, sef un ar gyfer pob un o’r canlynol:

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • Eich Cyngor Tref neu Gymuned lleol.

Cyngor Sir y Fflint sy’n casglu pob un o’r taliadau hyn, gan gadw’r swm sy’n ddyledus iddo ef. Yna, mae’r Cyngor yn sicrhau bod Awdurdod yr Heddlu a’r Cynghorau Tref a Chymuned unigol yn cael y symiau a gasglwyd ar eu rhan.

Mae’r wybodaeth a geir yma yn cynnwys ein manylion cyswllt, gwybodaeth ynghylch sut i dalu eich Treth y Cyngor a gwybodaeth am ostyngiadau ac eithriadau a allai fod yn berthnasol i chi. Gallwch lawrlwytho copi o’n   Canllawiau i Dreth Gyngor 2012-13 (PDF.doc, 2.08 Mb, ffenestr newydd) hefyd.

Gwybodaeth yn yr adran hon

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd