Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Twristiaeth a theithio


Image of: Talacre / Llun o: Dalacre

Croeso i Sir y Fflint

Mae gan y sir brydferth hon gefn gwlad ac arfordir sy’n gyforiog o hanes hynod ddiddorol.  Mae modd teithio yno’n hwylus ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd  sy’n ei gwneud hi’n gyrchfan hawdd ei chyrraedd.

Mae Sir y Fflint yn gymysgedd hudolus o bentrefi gwledig, trefi marchnad traddodiadol, traethau tywod, cestyll canoloesol a rhai o’r golygfeydd mwyaf bendigedig yng Ngogledd Cymru.  Mae Bryniau Clwyd, lle ceir nifer o fryngaerau hynafol, yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae’n cynnwys rhan o lwybr Clawdd Offa.  Yn y llyfryn Cerdded yng Nghefn Gwlad yn Sir y Fflint gwelir 25 o’r teithiau cerdded gorau yn y Sir.

Mae crwydro’r sir yn hawdd os dilynwch chi Daith Hamdden Sir y Fflint, sy’n 83 milltir o hyd.  Rhennir y daith yn naw adran amrywiol, a thrwy ddefnyddio’r llyfryn a dilyn yr arwyddion, cewch hyd i nifer o leoedd diddorol.

Llyfrynnau Cymunedol Sir y Fflint Wledig. Mae'r llyfrynnau dweud stori ddiddorol am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a naturiol a fydd yn apelio at drigolion lleol ac ymwelwyr â'r sir.

Gwybodaeth yn yr adran hon

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd