Cofnodion ac archifau
Llwybr brys i’r dudalen hon: www.siryfflint.gov.uk/archifau
Mae Archifdy Sir y Fflint yn cadw treftadaeth archifol y Sir trwy gasglu, rhestru a storio cofnodion hanesyddol o ddiddordeb a tharddiad lleol, fel eu bod ar gael i’r cyhoedd.
Mae’r tudalennau hyn yn disgrifio’r math o gofnodion a gedwir yn yr Archifdy, sut medrwch chi gael mynediad iddynt a pha wasanaethau a ddarperir gan Archifdy Sir y Fflint. Os nad ydych yn dod o hyd i’r wybodaeth sydd angen arnoch, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
I neilltuo sedd yn yr ystafell ymchwil, ffoniwch 01244 532364 os gwelwch yn dda
Yn ein oriel archifau ar-lein, mae casgliadau archifol i chi bori drwyddynt ac archebu copïau. Rydym yn ychwanegu lluniau newydd yn gyson, a byddwn yn gwerthfawrogi rhoddion neu fenthyciadau o unrhyw ddarluniau sydd gennych y gallwn eu cynnwys.
Cyflwynwch ymholiad ar-lein
Diweddarwyd: 1/4/10 3:56 PM
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am Archifdy Sir y Fflint, gan gynnwys: beth mae’r Archifdy yn ei wneud; ar gyfer beth mae pobl yn defnyddio’r Archifdy; a sut i drefnu apwyntiad.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ar gasgliadau sydd ar gael yn Archifdy Sir y Fflint; mynegeion ar-lein i gofnodion sydd ar gael yn Archifdy Sir y Fflint; rhestr cofnodion a gedwir yn Archifdy Sir y Fflint; a dolenni i fynegeion allanol.
Ar y dudalen hon cewch y manylion diweddaraf am ein newyddion ac unrhyw ddigwyddiad fydd yn cael ei gynnal yn ystod y misoedd i ddod.
Rydym yn croesawu ymholiadau am y math o gofnodion sydd gennym yn Archifdy Sir y Fflint, a byddwn yn eich cynghori sut y gallan nhw gael eu defnyddio yn eich ymchwil.
Byddwn yn gwirio ein mynegeion a’n catalogau am adnoddau a allai fod yn berthnasol i’ch ymchwil. Fodd bynnag, os gall eich ymholiad gael ei ateb dim ond wrth edrych ar y dogfennau eu hunain, neu bydd angen ymchwil manylach o’r catalogau, byddwn yn gofyn i chi ymweld â ni i wneud eich gwaith ymchwil.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ar sut i fenthyca, roi, neu chymynroddi deunydd archifol i'r Archifdy
Archifdy Sir y Fflint - manylion cysylltu ac oriau agor
Mae’r dudalen hon yn cynnwys canllawiau ffynonellau, ac yn egluro beth ydi ffynonellau; pa fath o wybodaeth sydd ynddynt; sut y gellir defnyddio’r wybodaeth ar gyfer gwaith ymchwil gwahanol; a sut i ddod o hyd i’r ffynonellau yn Archifdy Sir y Fflint. Mae’n cynnwys canllawiau ar gyfer trin dogfennau gwreiddiol bregus hefyd.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am gynllunio eich ymweliad ag Archifdy Sir y Fflint: amserau agor; bwcio ymlaen llaw; archebu dogfennau ymlaen llaw; ticedi darllenyddion CARN; paratoi ar gyfer eich ymweliad; gwybodaeth ar gyfer haneswyr teulu; beth i ddod gyda chi; bwyd a diod; mynedfa i’r anabl; sut i ddod o hyd i’r Archifdy; a llety dros nos.
Ar y dudalen hon y mae copïau o bolisïau Archifdy Sir y Fflint
Mae Archifdy Sir y Fflint yn cynhyrchu nifer o ganllawiau ar gyfer cofnodion, llyfrau/llyfrynnau hanes lleol, mapiau, printiau a chardiau post.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir gan Archifdy Sir y Fflint yn cynnwys micro brintio, llungopïo, ffotograffiaeth ddigidol, sganio a defnyddio camerâu eich hun yn yr ystafell ymchwilio.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ar sut y gallwch chi gefnogi Archifdy Sir Fflint, drwy ymuno â Chyfeillion Archifau Clwyd.