Gofal Plant a Theuluoedd
Mae magu plant yn un o'r swyddi pwysicaf mewn bywyd, ond nid yw'n swydd hawdd bob amser. P'un a yw'ch anghenion yn fach neu'n fawr, mae gan eich Cyngor wasanaethau i'ch helpu.
Cewch gyngor am bopeth o ddewis gwarchodwr plant i ddarganfod seibiant neu 'rannu gofal' os oes gan eich plentyn anabledd. Os ydych yn teimlo'ch bod yn cael eich gorlethu, mae gwybodaeth ar gael am grwpiau cymorth i deuluoedd. Hefyd cewch fanylion gwasanaethau galw heibio i warchodwyr plant. Mae gwybodaeth ar gael am ein gwaith amddiffyn plant a dysgu sut i ddiogelu plant trwy gydnabod a chofnodi arwyddion o niwed neu esgeulustod.
Hoffech chi newid bywyd plentyn er gwell? Rydym bob amser yn chwilio am ofalwyr maeth a gallwch ddarganfod pwy i gysylltu â nhw yma. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob math o bobl. Felly p'un a ydych yn hoyw ai peidio, yn ifanc neu'n hen, yn sengl neu'n gwpwl, hoffem glywed gennych.
Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant, Swyddfeydd y Sir, Wepre Drive, Cei Connah, Sir y Fflint, CH5 4HB
Ffôn (yn ystod oriau swyddfa): 01352 701000
Ffôn (y tu allan i oriau swyddfa): 0845 0533 116
Ffôn testun: 01352 758050
Diweddarwyd: 7/30/09 1:15 PM
Dylai unrhyw un sy’n poeni neu am blentyn sy’n cael ei niweidio yn Sir y Fflint neu sy’n amau bod hyn yn digwydd, gysylltu â
Y Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd, Tîm Dyletswydd ac Asesu, Gwasanaethau Plant, Swyddfeydd y Cyngor, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 4HB
Ffôn: 01352 701000
Mae'r Tîm Ar Ddyletswydd Brys (Plant) yn cynnal gwasanaeth brys / ymateb cyflym y tu allan i oriau gwaith gydol y flwyddyn, yn cynnwys y Nadolig, y Flwyddyn Newydd a Gwyliau Banc.
Mae gwybodaeth ar gael i chi yma i'ch cefnogi chi a’ch teulu
Grwp o bobl ifanc ydyn ni sy’n derbyn gofal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym wedi gwirfoddoli i geisio helpu’r Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud pethau’n well i ni. Felly, rydym wedi cyfarfod â rhai o’r staff i feddwl am ffyrdd diddorol a chyffrous o helpu pobl fel ni i ddweud ein barn am y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yna byddant yn gwybod beth rydym am iddyn nhw ei wneud yn y dyfodol.
Mae Tîm Gadael Gofal Sir y Fflint yn rhoi cymorth i bobl ifanc 16-21 oed sy’n gadael gofal. Os yw’r bobl ifanc hyn yn dilyn cyrsiau addysg bellach byddant yn parhau i gael cymorth gan y tîm nes y byddant yn 24 oed. Nod y gwasanaeth yw helpu’r rheini sy’n gadael gofal i fyw’n annibynnol yn llwyddiannus.
Mae tri tîm yn perthyn i'r Gwasanaethau Plant, un ar gyfer Treffynnon/Y Fflint, un ar gyfer Yr Wyddgrug/Bwcle, ac un ar gyfer Glannau Dyfrdwy
Yma yng Ngwasanaethau Plant Sir y Fflint, rydym yn gwneud ein gorau glas i ddarparu safon uchel o wasanaeth i’r blant a’r bobl ifanc, eu teuluoedd a’u gofalwyr, sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
Os ydych yn blentyn yn derbyn gofal gan Gyngor Sir y Fflint mae gennych linell uniongyrchol i uwch reolwyr a chynghorwyr sir.
Mae gofalwyr seibiant byr yn helpu i roi gweithgareddau, penwythnosau i ffwrdd ac wythnos o wyliau i blant anabl.