Cyngor Sir y Fflint
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Di-wasanaeth
- Croeso i 'Fy Nghyfrifon i'
Croeso i 'Fy Nghyfrifon i'
Gwasanaeth ar-lein yw 'Fy Nghyfrifon i' sy’n caniatáu i chi weld manylion eich:
- Cyfrif Treth Gyngor
- Cyfrif Ardrethi Busnes
- Manylion eich cais am Fudd-dal Tai
- Manylion eich cais am Fudd-dal y Dreth Gyngor
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae angen i chi gofrestru drwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen gofrestru ar-lein
Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon enw defnyddiwr a chyfrinair ar hap i’r cyfeiriad y byddwn yn ei ddefnyddio i ysgrifennu atoch fel arfer. Pan gewch chi’r rhain, dylech fewngofnodi i ‘Fy Nghyfrifon i’ a newid y ddau gan ddefnyddio geiriau sy’n haws i chi eu cofio. Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn gwneud hyn i ddiogelu’ch manylion.
Ar gyfer beth alla’ i ddefnyddio’r system?
Ar ôl i chi gofrestru, ac ar ôl i chi gael eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair, byddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn ar gyfer y canlynol.
Os oes gennych gyfrif Treth Gyngor neu Ardrethi Busnes gyda Chyngor Sir y Fflint, gallwch ddefnyddio ‘Fy Nghyfrifon i’ i:
- Weld pryd mae’ch taliad nesaf yn ddyledus
- Gweld gwerth unrhyw ostyngiad rydych yn ei gael
- Gwneud taliadau ar-lein
- Dweud wrthym am unrhyw newidiadau
Os ydych yn cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal y Dreth Gyngor, gallwch:
- Weld manylion eich cais am fudd-dal
- Gweld pryd mae’ch taliad nesaf yn ddyledus
- Gweld faint rydych wedi’i dalu a phryd
- Dweud wrthym am unrhyw newidiadau
- Ad-dalu unrhyw Fudd-dal Tai a gafodd ei ordalu i chi
Os ydych yn landlord sydd â thenant sy’n cael Budd-dal Tai:
Gallwch ddefnyddio’r system i weld faint o Fudd-dal Tai sy’n cael ei dalu’n syth i chi.
- Gweld pryd mae taliad yn ddyledus
- Gweld y taliadau sydd wedi’u gwneud
- Gweud wrthym am unrhyw newidiadau
Cwestiynau cyffredin
Ydi’r system yn ddiogel?
Ydi, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’ch preifatrwydd ar-lein. I sicrhau na all neb ddarllen y wybodaeth y byddwch yn ei hanfon atom, rydym wedi cymryd y camau a ganlyn:
Technoleg amgryptio
Mae ein meddalwedd gweinydd diogel yn amgryptio’ch holl wybodaeth bersonol. Mae amgryptio’n golygu cymryd y data gwreiddiol (e.e. eich enw defnyddiwr, rhif eich cyfrif a manylion eich cyfrif) ac yn eu troi’n data mewn cod fel nad oes modd ei adnabod wrth iddo deithio drwy’r rhyngrwyd.
Pan fyddwch yn agor tudalennau diogel ein gwefan, fe welwch lun clo yn eich ffenestr pori. Gallwch glicio ar y clo hwn i sicrhau mai at Gyngor Sir y Fflint rydych yn anfon gwybodaeth.
Diogelu data
Rydym yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 sy’n sicrhau y byddwn yn diogelu ac yn gofalu am eich gwybodaeth bersonol.
Gallwch ddatgelu gwybodaeth yn gyfreithlon i asiantaethau eraill yn y sector cyhoeddus i atal neu i gael hyd i dwyll budd-daliadau, troseddau eraill ac i ddiogelu arian cyhoeddus.
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi i’ch helpu i fanteisio ar ein gwasanaethau, i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon neu i’n helpu i adennill arian sy’n ddyledus i ni.
Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data
Pam mae angen enw defnyddiwr a chyfrinair arna’ i?
Mae angen enw defnyddiwr a chyfrinair arnoch chi i wneud yn siŵr bod eich cyfrif ar-lein yn ddiogel. Mae ‘Fy Nghyfrifon i’ yn cyfuno cyfeirnod a chyfrinair ar wahân, a byddwch yn gallu newid y ddau.
Beth os byddaf yn anghofio fy nghyfrinair?
Dilynwch y ddolen o’r dudalen mewngofnodi a byddwn yn anfon neges i’ch cyfeiriad i’ch atgoffa.
A all sesiwn ddod i ben ar ôl cyfnod penodol?
Am resymau diogelwch, daw pob sesiwn ‘Fy Nghyfrifon I’ i ben os bydd y tudalennau’n segur am 20 munud. Bydd angen i chi roi’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair eto i fynd yn ôl i’ch cyfrif.
Pryd alla’ i ddefnyddio’r system?
Mae’r system ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos, ac eithrio am gyfnodau byr pan fydd angen i ni gynnal a chadw’r system. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd rhwng 22.30 a 22.35 bob dydd. Bryd hynny, cewch neges yn dweud nad yw’n bosibl i chi ddefnyddio’r system.
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol



