skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Y Cyngor a democratiaeth > Gwe safleoedd > Gwefannau - hygyrchedd

Gwefannau - hygyrchedd


Mae datblygiad y wefan hon wedi'i seilio ar safonau hygyrchedd ac rydym yn ymroddedig i ddarparu gwefan y gall pawb ei defnyddio, beth bynnag fo'u gallu neu anabledd.

Mae'r wefan hon yn ymgorffori safonau'r we a chanllawiau hygyrchedd yn defnyddio XHTML dilys a thaflenni rhaeadru (CSS).

Hygyrchedd Dwbl-A Lefel WAI 

Mae gofyn i bob un o wefannau'r sector cyhoeddus gyrraedd canllawiau W3C yng nghyswllt hygyrchedd i safon Lefel Dwbl-A WAI.  Rydym wedi datblygu'r wefan o fewn y canllawiau hyn, fodd bynnag mae gwefan sy'n cynnwys dros 20,000 o dudalennau'n anodd i'w chynnal a'i chadw i'r safonau uchel hyn.

Safon A-driphlyg WAI yw'r lefel hygyrchedd uchaf ac mae'n un y byddwn yn ymdrechu i'w chyrraedd trwy ddatblygiad pellach.

Polisi Gwefannau Hygyrch v0.1 Medi 2009

Llywio

Ar hyd ochrau uchaf, chwith a de'r tudalennau gwe, mae mannau llywio a fydd yn eich cynorthwyo i lywio drwy'r wefan. Uwchben prif gynnwys tudalennau, fe welwch arwyddbyst sy'n dangos ble'r ydych yn y wefan.

Bydd yr offeryn llywio ar yr ochr chwith yn newid wrth i chi ddefnyddio gwahanol rannau o'r wefan.

Bydd yr offeryn llywio ar yr ochr dde'n dangos Ffurflenni defnyddiol, Dogfennau defnyddiol, Gwybodaeth ddefnyddiol, a Dolenni gwe allanol os ydynt yn addas ar gyfer y rhan honno o'r wefan.

Chwilio

Gallwch deipio geiriau neu ymadroddion allweddol i'r blwch chwilio hwn, sydd i'w gael yng nghornel dde uchaf pob tudalen we, ac yna dewis ‘mynd’. Bydd y canlyniadau'n cael eu hanfon atoch, a bydd clicio ar ganlyniad chwiliad yn mynd â chi i'r dudalen honno

Map safle

Mae'r map safle sydd ar gael ar draws y man llywio llorweddol yn dangos y prif strwythur ar gyfer llywio drwy wasanaethau'r wefan, a bydd clicio ar unrhyw un o'r dolenni hyn yn mynd â chi i'r dudalen honno

Cynllun y tudalennau

Mae pob tudalen mewn adran lefel uchaf yn dangos Gwybodaeth yn yr adran hon, sy'n cynnwys ei hadrannau ail lefel, gyda theitlau y gellwch glicio arnynt a chrynodebau o'r cynnwys.
e.e. Busnes
Mae pob tudalen mewn adran ail lefel yn dangos Gwybodaeth yn yr adran hon, sy'n cynnwys ei hadrannau trydedd lefel, gyda theitlau y gellwch glicio arnynt a chrynodebau o'r cynnwys.
e.e. Busnes > Safonau masnach

Mae pob tudalen mewn adran trydedd lefel yn dangos Tudalennau cysylltiedig ar gyfer yr adran wybodaeth hon, sy'n cynnwys dolenni cliciadwy i'r holl gynnwys yn yr adran trydedd lefel honno
e.e. Busnes > Safonau masnach > Bwydydd anifeiliaid

Newid maint y testun

Gallwch ddefnyddio'r eiconau 'A' ar ben pob tudalen i gynyddu neu leihau maint y testun ar y dudalen.  Gallwch hefyd wneud hyn â llaw yn y ffyrdd canlynol:

  • Internet Explorer 7: Dewiswch y ddewislen 'Page', yna un o'r opsiynau o dan 'Text Size'. Y maint gwreiddiol yw 'Medium'
  • Internet Explorer 6: Dewiswch y ddewiseln 'View' a dewiswch un o'r opsiynau o dan 'Text Size'.
  • Mozilla Firefox: Dewiswch y ddewislen 'View', yna 'Text Size', yna dewiswch 'Increase', 'Decrease' neu 'Normal'.
  • Opera: Dewiswch y ddewislen 'View', yna un o'r opsiynau canran 'Zoom' .
  • Netscape: Dewiswch y ddewislen 'View', yna un o'r opsiynau 'Text Zoom'.
Botymau mynediad

Mae botymau mynediad yn galluogi defnyddwyr nad ydynt yn defnyddio'r llygoden neu declynau pwyntio tebyg i ddefnyddio'r bysellfwrdd i welywio.  Maent hefyd yn ddefnyddiol i bawb sy'n defnyddio'r wefan fel modd cyflym o welywio'r wefan.

I ddefnyddio'r botymau mynediad:

gwasgwch a daliwch yr allwedd 'ALT', yna gwasgwch y botwm perthnasol yna'r botwm 'return'.  Mae'r llywodraeth wedi creu cyfres gyflawn o ganllawiau ar gyfer botymau mynediad, fel y gwelir isod.

Botymau Mynediad Safonol Llywodraeth y DU:
  • S sgipio gwelywio - i'w weithredu
  • 1 hafan
  • 2 newyddion
  • 3 map o'r safle - i'w weithredu
  • 4 cyfleuster chwilio
  • 5 cwestiynau a ofynnir yn aml
  • 6 cyfleuster help - i'w weithredu
  • 7 gweithdrefn gwyno
  • 8 ymwadiadau
  • 9 adborth
  • 0 Manylion botymau mynediad
Gwrandewch ar ein gwefan

You can listen to this website by clicking on Gwrandewch ar y wefan at the top of this page. You will be taken to the speech enabled version of this website.

Mapio rhyngweithiol

Mae mapio rhyngweithiol yn rhaglen graffig ddwys ac ar hyn o bryd ni all ymgorffori'r holl safonau hygyrchedd.  Bydd rhaid datblygu hyn gyda'n partneriaid 3ydd parti a bydd cenhedlaeth nesaf y dechnoleg hon yn ymgorffori'r safonau hyn.

Rhaglenni gwe trydydd partïon

Mae'r wefan hon yn defnyddio rhaglenni gwe trydydd partïon megis gwasanaeth catalog y Llyfrgell.  Lle bo hynny'n bosibl, rydym wedi nodi y dylid eu datblygu i gyrraedd y safonau hyn, fodd bynnag nid yw rhaglenni hŷn wedi gweithredu'r safonau hyn hyd yma.  Bellach rydym yn ymgorffori'r safonau hyn yn y broses o ddethol rhaglenni gwe tebyg i sicrhau bod modd i bob un o ddefnyddwyr y wefan eu defnyddio.

Meddalwedd ychwanegol

Mae'r wefan hon yn defnyddio meddalwedd ychwanegol i ddangos cynnwys sydd heb ei greu o fewn y brif wefan.  Bydd angen meddalwedd ychwanegol ar rai i weld y cynnwys hwn a gellir eu lawrlwytho o'r dolenni isod.

 

Diweddarwyd: 11/19/09 4:49 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas
W3C

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.