Cyngor Sir y Fflint
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Services
- Community and living
- Births, Deaths, Marriages and Civil Partnerships
- Genedigaethau, Marwolaethau, Priodasau neu Bartneriaethau Sifil
Genedigaethau, Marwolaethau, Priodasau neu Bartneriaethau Sifil
Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint
Sut i gael hyd i ni
Mae’n Swyddfa Gofrestru ni ym Mhlas Llwynegrin (ffenestr newydd) ar gyrion tref farchnad yr Wyddgrug. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â genedigaethau, marwolaethau, priodasau neu bartneriaethau sifil yn ardal gofrestru Sir y Fflint, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru hon yn gyntaf. Mae’r Swyddfa Gofrestru yn rhannu safle â chanolfan weinyddol y Cyngor Sir ac mae’n lleoliad gwerth chweil ar gyfer seremonïau. Dyma’n cyfeiriad post:
Y Swyddfa Gofrestru
Plas Llwynegrin
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR
Rhif ffôn: 01352 703333
Amseroedd agor
I osgoi unrhyw oedi diangen pan fyddwn yn cyfarfod cwsmeriaid newydd yn yr Wyddgrug, mae gan y Gwasanaeth Cofrestru system apwyntiadau ar gyfer yr holl wasanaethau cofrestru ar y dyddiau a ganlyn:
- Dydd Llun 9:30 am - 3:30 pm
- Dydd Mawrth 9:30 am - 3:30 pm
- Dydd Mercher 9:30 am - 3:30 pm
- Dydd Iau 9:30 am - 12:30 pm
- Dydd Gwener 9:30 am - 3:30 pm
Mae’r Swyddfa Gofrestru’n lleoliad gwerth chweil i bob mathau o seremonïau. Adeiladwyd y Plas gan Thomas Jones, pensaer lleol a Syrfëwr y Sir ac fe’i cwblhawyd yn 1830. Roedd yn gartref gwledig tawel tan 1948 pan brynwyd y Plas a’r tir o’i amgylch gan yr hen Gyngor Sir y Fflint gyda’r bwriad o adeiladu safle i’r Cyngor Sir.
Ffotograffau o'r Swyddfa Gofrestru (ffenestr newydd)
Taith Rhithwir o'r Swyddfa Gofrestru - Plas Llwynegrin
Yn ogystal â’r brif swyddfa ym Mhlas Llwynegrin, mae gennym hefyd nifer o is-swyddfeydd yn y sir. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru i drefnu apwyntiad yn un o’r swyddfeydd isod:
• Neuadd y Dref, Bwcle Dydd Mercher a dydd Gwener
• Clinig Caergwrle Dydd Mawrth
• Swyddfeydd y Sir, Cei Connah Dydd Llun a dydd Iau
• Swyddfeydd y Sir, y Fflint Dydd Mawrth a dydd Iau
• Llyfrgell Treffynnon Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


