skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Y Cyngor a democratiaeth > Cyfrifiad > Cyfrifiad 2011

Cyfrifiad 2011


Census/Cyfrifiad 2011 logo

Helpu i lunio dyfodol Sir y Fflint wrth i Gyfrifiad 2011 agosáu

Ymhen llai na blwyddyn, bydd preswylwyr Sir y Fflint yn cymryd rhan mewn arolwg mwyaf y wlad, wrth i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gynnal Cyfrifiad 2011 yng Nghymru a Lloegr ddydd Sul 27 Mawrth.  Bob deng mlynedd mae’r cyfrifiad yn cymryd ciplun ystadegol ar ddiwrnod penodol er mwyn creu darlun cywir o’r boblogaeth. Mae ystadegau’r cyfrifiad a gynhyrchir gan SYG yn helpu Cyngor Sir y Fflint i dargedu arian yn gywir a chynllunio gwasanaethau cyhoeddus (fel addysg, trafnidiaeth, ysgolion a thai) yn ôl yr angen. Dyna pam mae hi’n hollbwysig i holl drigolion Sir y Fflint gymryd rhan (ac mae’n orfodol).

Ym mis Mawrth 2011 gofynnir i aelodau pob cartref yng Nghymru lenwi holiadur porffor (yn y Gymraeg neu’r Saesneg). Bydd y rhain yn cyrraedd drwy’r post a gallwch eu hanfon yn ôl am ddim yn yr amlen a ddarperir neu, am y tro cyntaf erioed, gallwch eu llenwi ar lein ar wefan ddiogel. Dim ond deng munud a ddylai ei gymryd i nodi manylion pob unigolyn a bydd y wybodaeth rydych yn ei rhoi yn helpu i lunio dyfodol Sir y Fflint.  Bydd amrywiaeth eang o help a chymorth ar gael. Mae’r gyfraith yn diogelu eich gwybodaeth bersonol, ac mae’n aros yn gyfrinachol am 100 mlynedd.  Cewch ragor o wybodaeth am Gyfrifiad 2011 yn:www.cyfrifiad.gov.uk 

Diweddarwyd: 3/31/10 5:22 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.