Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NB
Cysylltwch â ni
01352 752121
Sut i gyrraedd yma
Paricau Chwarae ar Olwynion
Yn Sir y Fflint, mae chwaraeon ar olwynion fel BMX, sglefrfyrddio a llafnrolio yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith pobl ifanc.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddarparu ac i ddatblygu safleoedd i’r bobl ifanc a’r preswylwyr hyn i ymarfer eu sgiliau, i chwarae ac i fwynhau!
Mae gennym 7 Parc Chwarae ar Olwynion ledled Sir y Fflint ac maent i gyd am ddim!
Y nod yw rhoi lle mwy diogel na’r strydoedd i bobl ifanc gael eu mwynhau eu hunain heb i’r heddlu a phobl leol ofyn iddynt adael neu symud ymlaen. Mae’r safleoedd hefyd yn lle da iddynt gyfarfod â ffrindiau i gael sgwrs.
Defnyddir y deunyddiau a’r dulliau diweddaraf i greu parciau o’r safon orau. Rydym yn cynnwys y bobl ifanc leol yn y gwaith o gynllunio’r parciau er mwyn creu’r llethrau a’r rhediadau gorau.
Maent yn darparu ar gyfer sglefrwyr o bob gallu, o ddechreuwyr i’r rhai sy’n lled broffesiynol felly peidiwch â meddwl na fyddwch yn gallu cymryd rhan!
Parc Chwarae ar Olwynion ledled Sir y Fflint
- Bwcle
- Cei Connah
- Fflint
- Garden City
- Gronant
- Penarlag
- Mostyn
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn cyflwynwch ymholiad.
