Cyngor Sir y Fflint
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Gwasanaethau Stryd
- Torri gwair, cynnal a chadw perthi a rheoli chwyn
Torri gwair, cynnal a chadw perthi a rheoli chwyn
Rydym yn torri gwair, yn cynnal a chadw perthi, yn torri coed sy’n gorhongian ac yn rheoli chwyn mewn nifer o ardaloedd ledled Sir y Fflint.
Y gwasanaeth rydym ni’n ei ddarparu
Byddwn yn cynnal a chadw tir sydd o dan berchnogaeth y cyngor, gan gynnwys:
ymylon a llain canol priffyrdd
- cylchfannau
- ardaloedd cyhoeddus agored
- parciau ac ardaloedd gwyrdd
- ystadau tai
- canol trefi
- gerddi coffa
- mynwentydd
- tai gwarchod
- meysydd chwarae
- mannau hamdden
- mannau amwynder
- meysydd chwarae plant
- ardaloedd cadwraeth natur
Rydym yn torri gwair ar ochr ffyrdd ac yn cynnal a chadw perthi er mwyn sicrhau bod y ffyrdd yn ddiogel a bod arwyddion yn weladwy wrth ystyried yr amgylchedd a materion cadwraethol.
Yn unol â Deddf Chwyn 1959, rhaid rheoli chwyn niweidiol. Yn ogystal, mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn galw am reoli canclwm Japan os yw’n tyfu mewn ardaloedd gwyllt (nid mewn gerddi). Rydym yn rheoli llysiau'r gingroen a chanclwm Japan os ydynt yn tyfu wrth ochr y ffordd.
Yr hyn nad ydym yn ei wneud
Nid ydym yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar dir preifat neu dir o dan berchnogaeth cyrff ar wahân i’r Cyngor.
Tenantiaid tai cyngor sy’n gyfrifol am gynnal eu gerddi eu hunain. Fodd bynnag, mae gan y Gwasanaeth Tai Gynllun Cynnal a Chadw Gerddi sy’n helpu pensiynwyr neu bobl anabl cofrestredig nad ydynt yn gallu gofalu am eu gerddi. Cysylltwch â swyddog tai eich ardal am fwy o wybodaeth.
Nid ydym yn gwaredu’r rhan fwyaf o’r gwair rydym yn ei dorri. Y rheswm am hynny yw oherwydd bod y torion yn weddol fyr ac yn pydru yn gyflym gan arafu’r tyfiant. Byddai casglu, llwytho, cludo a gwaredu’r gwair yn cynyddu’r gost. Fodd bynnag, rydym yn brwsio neu’n chwythu unrhyw wair oddi ar lwybrau neu arwynebau caled sy’n achosi perygl.
Adrodd problem
Llinell gymorth y Gwasanaethau Stryd: 01352 701234
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


