Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NB
Cysylltwch â ni
01352 752121
Sut i gyrraedd yma
Llifogydd
Mae rhai ardaloedd yn Sir y Fflint wedi dioddef yn enbyd oherwydd llifogydd yn ystod y blynyddoedd a aeth heibio, ac y mae’n hysbys i rai trigolion eu bod yn byw mewn ardal sy’n agored i ddioddef oherwydd llifogydd. Nid oes modd atal llifogydd yn llwyr, ond gallwn baratoi ar eu cyfer. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi gwybodaeth a fydd o gymorth cyn y llifogydd, yn ystod y llifogydd, ac wedi i’r dŵr gilio.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod mai eich cyfrifoldeb Chi yw amddiffyn eich eiddo, nid yr Awdurdod Lleol Dyma rhai awgrymiadau o ran yr hyn y medrwch ei wneud, a’r hyn na ddylech ei wneud:
Yr Hyn I’w Wneud -
- Peidiwch â chynhyrfu. Os ydych yn byw mewn ardal sy’n agored i lifogydd, manteisiwch ar system awtomatig Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n rhybuddio rhag llifogydd.
- Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Gofalwch baratoi rhestr o rifau ffôn defnyddiol, a’u cadw gyda chi, e.e. y Cyngor Sir, y Gwasanaethau Brys, eich cwmni yswiriant, Floodline: 0845 988 1188, a rhif ffôn cyflym Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â’ch cartref.
- Gofalwch fod pob rhybudd llifogydd yn hysbys i’ch cymdogion ac aelodau mwyaf bregus eich cymuned.
- Gwrandewch ar eich gorsaf radio leol i gael y newyddion diweddaraf ynglyn â’r llifogydd. Gofalwch fod eich Pecyn Argyfwng yn cynnwys radio (gweler y cyfarwyddiadau blaenorol).
- Paratowch fagiau tywod neu estyll er mwyn rhwystro’r dŵr rhag dod trwy ddrysau a brics tyllog.
- Peidiwch â dibynnu ar y Cyngor Lleol i ddarparu bagiau tywod pan fydd y llifogydd ar fin digwydd.
- Mae rhai cwmnïau yswiriant yn annog eu cwsmeriaid i brynu a gosod offer ar gyfer atal llifogydd (cofiwch dynnu’r bagiau tywod / estyll o’r briciau tyllog a’r tyllau awyr cyn troi popeth ymlaen).
- Cymrwch yn ganiataol bod dwr llifogydd yn cynnwys carthion.
- Gofalwch wisgo menig plastig / rwber pan fyddwch yn trin eitemau sydd efallai wedi eu halogi.
- Paratowch becyn arbennig ar gyfer llifogydd, yn cynnwys fflachlamp, blancedi, dillad cynnes sy’n atal dŵr, wellingtons, radio a batris, pecyn cymorth cyntaf, menig rwber, bwyd, bwyd anifeiliaid anwes, a’ch dogfennau personol hanfodol.
- Cadwch y pecyn ar y llawr uchaf os yn briodol.
- Os yw eich eiddo’n agored i lifogydd, trafodwch y sefyllfa gyda’ch teulu, neu’r rhai yr ydych yn byw gyda hwy.
- Lluniwch Gynllun Llifogydd a chadw’r ddogfen yn eich Pecyn Llifogydd.
- Os yw llifogydd yn digwydd, gofalwch ddiffodd y cyflenwad nwy, dwr a thrydan ar unwaith.
- Symudwch eich anifeiliaid anwes i le diogel os yw llifogydd ar fin digwydd. Gofalwch bod ganddynt flwch gwasarn.
- Os yw cyflwr y ffyrdd yn addas a diogel, symudwch eich cerbydau i ardal na fydd y llifogydd yn effeithio arni.
- Gofynnwch i ffrind neu berthynas a fyddai modd sefyll eich cerbyd(au) ar eu heiddo.
- Gofalwch fod eiddo gwerthfawr neu eitemau o werth personol wedi’u cadw ar y llawr uchaf neu mewn lle uchel ar y llawr gwaelod.
- Os ydych yn cymryd meddyginiaeth, cofiwch ei gludo gyda chi.
- Os yw’n angenrheidiol eich symud o’r ty oherwydd llifogydd neu ddifrod difrifol, cysylltwch â’r Heddlu neu ffoniwch 999.
- Os ydych yn byw mewn ty unllawr, carafán neu eiddo arall heb lawr uchaf, ac mewn trafferth, cysylltwch â’r Gwasanaethau Brys er mwyn iddynt drefnu i’ch symud oddi yno.
- Os medrwch symud oddi yno eich hun, at berthnasau neu ffrindiau, rhowch wybod i’r Gwasanaethau Brys lle y symudoch iddo.
- Os ydych wedi eich caethiwo yn y ty oherwydd y llifogydd, ceisiwch dynnu sylw rhywun o’r ffenestr.
- Ufuddhewch i arwyddion sy’n cau ffyrdd neu’n cynghori’r cyhoedd: eu diben yw eich diogelu chi.
Peidiwch â -
- Chaniatáu i blant chwarae yn y llifogydd.
- Gofalwch fod y plant yn golchi’u dwylo’n aml. Os yw teganau’r plant wedi’u halogi gan ddwr y llifogydd, gofalwch eu bod wedi’u diheintio cyn i’r plant chwarae gyda hwy.
Ceisiwch osgoi dwr sy’n llifo: gall dwr sy’n llifo, â’i ddyfnder cwta 6 modfedd, fwrw oedolyn i’r llawr.
- Peidiwch â thaflu sbwriel i ffosydd ac afonydd, a pheidiwch â’i adael ar y dorlan – gall hynny waethygu’r sefyllfa’n arw.
- Os yw dwr llifogydd wedi gwlychu offer neu gylchedau trydan peidiwch â’u defnyddio hyd nes y bo trydanwr cymwysedig wedi bwrw golwg drostynt.
- Peidiwch â defnyddio bwyd a halogwyd gan ddwr llifogydd.
- Peidiwch â defnyddio dŵr a halogwyd yn ystod y llifogydd i olchi llestri, glanhau’ch dannedd, golchi a pharatoi bwyd a gwneud rhew, a pheidiwch â’i yfed da chi.
- Peidiwch â thaflu nwyddau a ddifrodwyd hyd nes y bo’ch cwmni yswiriant wedi cael cyfle i’w harchwilio.
- Gofalwch rhag masnachwyr ffug.
- Mynnwch ddyfynbris ar bapur: bydd eich cwmni yswiriant yn mynnu copi.
- Mynnwch fod y papur yn un swyddogol, gyda rhif ffôn a chyfeiriad dilys.
- Peidiwch â thalu arian ymlaen llaw, a gofalwch fod y gwaith wedi ei gwblhau’n foddhaol cyn talu.
- Mynnwch dderbynneb gan y cyflenwr/contractwr.
Os ydych yn symud cerbydau i le diogel peidiwch â chreu rhwystr ar y ffyrdd sydd uwchben lefel y dŵr, a pheidiwch â chodi caeadau draeniau, caeadau tyllau archwilio, a griliau.
