skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Cyngor a budd-daliadau > Argyfyngau > Deunydd Peryglus

Deunydd Peryglus


Mae cemegau peryglus yn rhan o’n bywyd beunyddiol, boed cemegau diwydiannol, glanhawyr domestig, neu beraroglydd. Deunydd peryglus o’r fath yw defnyddiau â naws cemegol sy’n peri risg i fywyd, iechyd neu eiddo os cânt eu gollwng. Mae peryglon yn bod pan fo’r deunyddiau’n cael eu cynhyrchu, eu storio, eu cludo, a’u defnyddio, yn ogystal â phan y byddwn yn cael gwared â hwy. Mae rheoliadau Iechyd a Diogelwch ar gyfer y sefyllfaoedd hyn. Yn ogystal â’r rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd cenedlaethol sy’n croesi’r sir, mae nifer o safleoedd penodol ar gyfer cael gwared â chemegau peryglus. Fel arfer, nid oes achos ichi bryderu ynglŷn â hyn, ond doeth yw gwybod yr hyn y dylid ei wneud petai achos yn codi:

  • Os byddwch yn gweld damwain yn ymwneud â defnyddiau peryglus (neu’n arogli damwain o’r fath), ffoniwch 999 ar unwaith pan fo’n ddiogel gwneud hynny. Peidiwch â throi’ch ffôn poced ymlaen os tybiwch eich bod yn sefyll ger nwy llosgadwy.
  • Cadwch yn glir o safle’r digwyddiad rhag i unrhyw beth gael ei halogi.
  • Os ydych mewn car, arhoswch a cheisio lloches mewn adeilad sefydlog os yn bosibl. Os yw’n rhaid ichi aros yn y car gofalwch fod y ffenestri a phob twll awyr ar gau, a pheidiwch â defnyddio’r system dymheru na’r gwresogydd.
  • Os gofynnir ichi symud o’ch cartref, gwnewch hynny ar unwaith. Darllenwch yr adran ‘Symud o’ch Cartref’, ac ufuddhewch bob cyngor a roddir gan y Gwasanaethau Brys. Os yw’n angenrheidiol i bobl a phlant ymadael â’u tai ar ôl iddynt fod yn cysgodi bydd yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaethau Brys yn trefnu hynny ar eich rhan.
  • Os gofynnir ichi gysgodi, gwnewch hynny. Darllenwch yr adran ‘Cysgodi’.
  • Os ydych yn byw mewn parth gwybodaeth gyhoeddus o amgylch safle a reolir, darllenwch y wybodaeth a roddir ichi. Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth Negeseuon Awtomatig y safle, os yn briodol: bydd y gwasanaeth hwnnw’n rhoi gwybod ichi pan fydd argyfwng yn digwydd, 24 awr y dydd.

Gollyngiad cemegau gwenwynig a phelydriadau

Os gollyngwyd cemegau gwenwynig neu belydriadau yn agos atoch, a thybiwch eich bod wedi’ch halogi, ARHOSWCH am y Gwasanaethau Brys. Bydd swyddogion y gwasanaethau’n darparu offer ar gyfer eich dadlygru, gan ofyn ichi ddiosg y dillad a halogwyd a sefyll mewn cawod a ddarperir mewn uned symudol. Cewch ddillad glân a sych yn eu lle.

Peidiwch â mynd i’r ysbyty o’ch gwirfodd eich hun os tybiwch eich bod wedi’ch halogi: ARHOSWCH i gael cyngor arbenigol.

Argyfwng Cemegol yn y Cartref

  • Mae bron pawb yn cadw defnyddiau peryglus yn y tŷ. Prin iawn yw’r risg y bydd damwain gemegol yn digwydd, ond bydd anafiadau’n llai tebyg o ddigwydd o wybod sut i ymdrin â’r defnyddiau hyn ac o wybod sut i ymateb mewn argyfwng.
  • Pan fyddwch yn cael gwared ar y cemegau, darllenwch y cyfarwyddiadau ar y blwch/potel.
  • Gofalwch eich bod yn cludo hen feddyginiaethau, neu rhai na ddefnyddioch, yn ôl i’r feddygfa er mwyn i’r staff gael gwared arnynt.
  • Darllenwch y cyfarwyddiadau cyn defnyddio cemegau am y tro cyntaf, a gofalwch eich bod yn eu cadw’n unol ag argymhellion y gwneuthurwr.
  • Cadwch ddefnyddiau cemegol mewn lle diogel, gorau oll ar silff neu mewn cwpwrdd uchel o gyrraedd plant.
  • Gofalwch beidio cymysgu defnyddiau cemegol a ddefnyddir yn y tŷ.
  • Peidiwch ag ysmygu wrth ddefnyddio cemegau.
  • Os byddwch yn gollwng cemegau, defnyddiwch hen garpiau i’w glanhau ar unwaith. Gwisgwch fenig a rhywbeth i amddiffyn eich llygaid. Rhowch y carpiau y tu allan am gyfnod er mwyn i fygdarthau anweddu, wedyn cael gwared arnynt yr un fath ag y byddwch yn cael gwared ar y cemegau.
  • Gosodwch rif Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47 wrth bob ffôn
  • Byddwch yn gyfarwydd ag effeithiau gwenwyno ar y sawl sy’n dioddef: Trafferth anadlu Y llygaid, croes, gwddf neu’ch pibell anadlu’n cosi’n boenus Lliw eich croen yn newid Eich golwg yn aneglur, neu’n dioddef cur pen Teimlo’n benysgafn Yn drwsgl, ac yn methu cyd-drefnu pethau Cyffio neu’n dioddef diarrhoea
  • Os yw eich plentyn yn yfed neu’n bwyta defnyddiau cemegol, edrychwch am y cynhwysydd ar unwaith a’i gludo at y ffôn i alw am gymorth. Mae’n debyg y bydd y sawl yr ydych yn siarad ag o/â hi yn holi pa wybodaeth sydd ar y cynhwysydd er mwyn rhoi cyngor brys addas ichi.
  • Ffoniwch 999.
  • Ufuddhewch bob cyngor proffesiynol yn ofalus, a pheidiwch â gofyn i’r claf lyncu unrhyw beth oni bo gweithiwr meddygol proffesiynol wedi eich cyfarwyddo i wneud hynny.
  • Yn y lle cyntaf, darllenwch eich llyfr Cymorth Cyntaf ynglŷn â’r hyn i’w wneud pan fo rhywun wedi’i wenwyno.
  • Os yw cemegau’n effeithio ar lygaid y claf, ymatebwch ar unwaith. Golchwch y llygaid gyda dŵr glân am o leiaf 15 munud, oni bo’r awdurdodau wedi dweud wrthych am beidio defnyddio dŵr ar gyfer y cemegyn hwnnw. Parhewch i lanhau’r llygaid, hyd yn oed os yw’r claf yn dweud nad yw’n dioddef poen, ac wedyn trefnwch i arbenigwr meddygol roi sylw i’r mater.
Diweddarwyd: 7/30/09 1:34 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.