skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Cyngor a budd-daliadau > Argyfyngau > Cytundeb tenantiaeth y Cyngor

Cytundeb tenantiaeth y Cyngor


Y Cytundeb Tenantiaeth yw'r ddogfen y mae tenantiaid yn ei harwyddo ar gychwyn eu tenantiaeth. Dyma'r contract cyfreithiol rhwng y tenant â Chyngor Sir y Fflint. Crynodeb yw'r manylion a geir yn yr adran hon.

Ein prif gyfrifoldebau yw:

  • ymgynghori â thenantiaid am unrhyw newidiadau arfaethedig yn y denantiaeth
  • cadw'r cartref mewn cyflwr da
  • cadw pob pibell, draen, ffos a gosodiadau twymo dwr mewn cyflwr da.

Prif gyfrifoldebau'r tenantiaid yw:

  • talu'r rhent a'r taliadau eraill mewn da bryd
  • gofalu am y cartref, addurno'r tu mewn yn briodol, a gwneud yr atgyweiriadau y maent yn gyfrifol amdanynt
  • sicrhau bod pawb sy'n byw yn ycartref, gan gynnwys eu hymwelwyr, yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol. 
  • rhoi gwybod i ni o leiaf bedair wythnos ymlaen lIaw os ydynt yn bwriadu dod â'r denantiaeth i ben

Mae gennym hawl i wneud y canlynol:

  • newid y rhent neu daliadau eraill ar yr amod ein bod yn rhoi rhybudd digonol i'r tenant ymlaen lIaw
  • cael mynediad i'r cartref i gynnal arolygon, i wneud atgyweiriadau neu i sicrhau ei fod yn ddiogel.

Mae gan denantiaid hawl i:

  • apelio yn erbyn penderfyniadau a wnawn
  • arfer eu hawliau cyfreithiol fel tenant
  • byw yn heddychlon yn eu cartref heb i ni ymyrryd yn ddiangen

Torri Amodau'r Cytundeb

Os yw tenantiaid yn methu cadw at amodau eu Cytundeb Tenantiaeth byddant wedi torri'r Cytundeb Tenantiaeth. Os ydynt yn torri amodau'r cytundeb mae'n bosibl y bydd yn rhaid iddynt wynebu gadael eu cartref. Nid ydym am i hynny ddigwydd.
Os na fydd tenantiaid yn gwneud yn iawn am dorri amodau eu cytundeb byddwn yn dwyn achos yn eu herbyn i wneud iddynt adael eu cartref.
Yn gyntaf, byddwn yn rhoi 'Hysbysiad' i denantiaid yn bersonol. Bydd hwn yn rhoi dyddiad ac ar ôl y dyddiad hwnnw gallwn gychwyn ar y broses o fynd â'r achos i'r lIys.

I Denantiaid Cychwynnol

  • Gall tenantiaid cychwynnol ofyn am arolwg gan banel o Reolwyr Tai - a Chynghorwyr weithiau. Bydd y panel yn penderfynu a oes gennym reswm da dros ofyn i'r tenant adael eu cartref. Mae'n rhaid iddynt ofyn am arolwg cyn pen 14 diwrnod wedi iddynt dderbyn eu Hysbysiad.
  • Os bydd y panel o'r farn bod y rheswm yn ddigonol, byddwn yn gwneud cais i'r lIys am 'Orchymyn Meddiannu' a bydd y lIys yn rhoi meddiant i ni ar unwaith.

I Denantiaid Sicr

Os byddwn yn penderfynu mynd â'r achos i'r lIys, bydd y lIys yn ysgrifennu at y tenant yn rhoi dyddiad y gwrandawiad iddynt.
Yn y gwrandawiad, bydd y lIys yn rhoi cyfle i'r tenant gyflwyno eu hachos, cyn penderfynu a ddylid rhoi 'Gorchymyn Meddiannu' i ni.

Esboniad a Chyngor Pellach


Beth yw'r Cytundeb Tenantiaeth?

Dyma'r contract cyfreithiol rhwng y tenant a Chyngor Sir y Fflint. Drwy ei arwyddo mae'r tenant yn cytuno â rhai amodau y mae'n rhaid i iddyn nhw a'r Cyngor eu parchu. Ceir rhestr o'r amodau yn y Cytundeb Tenantiaeth

Beth os ydw i'n denant ar y cyd?

Mae tenantiaid ar y cyd yn gyfrifol ar y cyd ac fel unogligon o dan y Cytundeb Tenantiaeth. Mae ganddynt hawliau a rhwymedigaethau cyfartal. Mae hyn yn golygu bod pob tenant yn gyfrifol am sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu ac y gellir dal y naill denant neu'r lIall yn atebol os torrir amodau'r Cytundeb Tenantiaeth

Beth os bydd y Cyngor yn methu â chyflawni ei ddyletswyddau?

Fel arfer gellir datrys problemau'n gyflym yn dilyn trafodaeth anffurfiol. Fodd bynnag, os na chaiff y broblem ei datrys, dylai'r tenant ddilyn ein trefn gwynion ffurfiol

Beth os bydd y tenant yn torri amodau'r Cytundeb Tenantiaeth?

Yn y lle cyntaf byddwn yn ceisio datrys y broblem gyda'r tenant. Os na allwn wneud hynny, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddwyn achos yn eierbyn ac efallai y bydd yn rhaid i'r tenant adael ei gartref . Dim ond os bydd popeth arall wedi methu y byddwn yn gwneud hyn.

A oes modd gorfodi tenant i adael ei gartref?

Oes, ond dim ond os yw tenantiaeth wedi dod i ben neu os bydd y tenant yn torri amodau'r Cytundeb Tenantiaeth, er enghraifft, drwy aflonyddu ar gymdogion. Byddwn bob amser yn dilyn trefn bendant os oes rhaid inni ddwyn achos ffurfiol. Bydd hyn yn golygu gwneud cais i'r lIys am Orchymyn Meddiannu  


Diweddarwyd: 7/30/09 1:22 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.