Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NB
Cysylltwch â ni
01352 752121
Sut i gyrraedd yma
Sut mae Sir y Fflint yn ymateb i argyfwng
Y diffiniad o argyfwng yw digwyddiad neu sefyllfa a allai achosi niwed difrifol i les pobl mewn lle yn Y Deyrnas Unedig, neu i amgylchedd lle yn Y Deyrnas Unedig, neu ryfel neu derfysgaeth a allai achosi niwed difrifol i ddiogelwch Y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, llifogydd Tywyn 1990, llifogydd Llandudno 1993, llifogydd Rhuthun/Yr Wyddgrug 2000, Tân Depo Olew Buncefield 2005, Argyfwng Tanwydd 2000, Bomiau Llundain mis Gorffennaf 2005, Clwy’r Traed a’r Genau 2001
Pan fydd digwyddiad felly, mae Sir y Fflint yn gweithio gydag ymatebwyr fel Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru; Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Gogledd Cymru. Mae’r awdurdod hefyd yn defnyddio arbenigedd asiantaethau gwirfoddol, er enghraifft y WRVS a Byddin yr Iachawdwriaeth. Heddlu Gogledd Cymru sy’n gyfrifol am gydlynu holl weithgareddau ymatebwyr mewn lleoliad argyfwng ac o’i gwmpas yn ystod yr argyfwng hwnnw.
Mae’r tasgau penodol y mae’r Cyngor yn eu cyflawni yn ystod argyfwng ac ar ei ôl yn cynnwys:
- Creu canolfan rheoli argyfwng i reoli ymateb y Cyngor
- Penodi swyddogion cyswllt i weithio gyda’r gwasanaethau argyfwng ac asiantaethau eraill
- Darparu gwybodaeth wyddonol, beirianyddol a thechnegol
- Darparu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd a/neu reoli plâuGwneud archwiliadau adeileddol
- Symud malurion
- Darparu cludiant i’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng
- Darparu gofal a chymorth i deuluoedd/unigolion sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng
- Creu canolfannau gorffwys i rai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi a llety dros dro am dymor hirach, fel bo’r gofyn
- Cynorthwyo darparu gwybodaeth i’r cyhoedd
- Creu marwdai dros dro
- Cychwyn cronfeydd apêl
- Goruchwylio adfer y gymuned ar ôl y digwyddiad
