Cyngor Sir y Fflint
Busnes
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Gwasanaethau
- Busnes
- Cefnogaeth a chyngor busnes
- Hyfforddi a datblygu’r gweithlu
Hyfforddi a datblygu’r gweithlu

Rhaglen datblygu’r gweithlu
Gallwn helpu eich busnes i wneud y mwyaf o’i botensial drwy ddatblygu sgiliau eich gweithlu. Dan Raglen Datblygu’r Gweithlu Llywodraeth y Cynulliad, gallwn ddarparu gwasanaethau ymgynghorydd sgiliau profiadol i’ch helpu i adolygu eich strategaeth bresennol ar gyfer datblygu staff a’ch helpu i gyrraedd y nodau yr ydych wedi’u pennu ar gyfer eich busnes.
Fel rheol, byddwn yn cynnal adolygiad diagnostig o ddatblygiad staff yn eich busnes er mwyn cael dealltwriaeth dda o:
- eich dull presennol o ymdrin â rheolaeth a hyfforddiant
- eich anghenion o ran hyfforddiant
- y cyfeiriad y mae eich busnes yn mynd iddo
Byddwn yn gweithio gyda chi i greu cynllun hyfforddiant i’ch busnes, a fydd yn seiliedig ar yr opsiynau hyfforddiant sydd fwyaf priodol i anghenion eich busnes. Yn ogystal, byddwn yn eich helpu i gael gafael ar yr hyfforddiant y mae ei angen arnoch, a allai gynnwys atebion mewnol neu brynu cymorth gan ddarparwyr allanol.
Gallai fod modd cael cyllid dewisol o 50% (hyd at uchafswm o £1000) tuag at gost yr anghenion hynny o ran hyfforddiant a nodir yn ystod yr adolygiad.
Mae’r adolygiad sgiliau yn rhad ac am ddim ac nid yw’n eich rhwymo i ddim – y cyfan y mae angen ichi ei roi yw eich amser.
Gwirio iechyd eich busnes
Help i sicrhau bod eich busnes yn gweithio cystal ag y gall. Byddwn yn:
- edrych ar eich strategaeth bresennol ar gyfer datblygu staff i wneud yn siŵr bod yr hyfforddiant yr ydych yn ei ddarparu yn cyfrannu at gyrraedd yr amcanion yr ydych wedi’u pennu ar gyfer eich busnes
- eich helpu i lunio a gweithredu cynllun datblygu ar gyfer eich sefydliad er mwyn gwella eich dull o ymdrin â rheolaeth a hyfforddiant lle bo angen
- nodi eich anghenion o ran hyfforddi a datblygu staff a chreu cynllun dysgu y cytunir arno er mwyn eu diwallu
- nodi cyrsiau hyfforddi addas a’ch rhoi mewn cysylltiad â darparwyr hyfforddiant priodol
- eich cynghori ynghylch unrhyw fentrau hyfforddi a chyllido a gynigir gan Lywodraeth y Cynulliad a allai fod yn briodol i’ch busnes
- darparu cyngor rhad ac am ddim i’ch helpu i ennill safon Buddsoddwyr mewn Pobl ar gyfer datblygu’r gweithlu, sef safon a gydnabyddir yn genedlaethol (os yw’n berthnasol)
Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau busnes o bryd i’w gilydd i gael manylion am weithdai a digwyddiadau hyfforddi sydd ar ddod.
Cysylltiadau allanol defnyddiol
Coleg Glannau Dyfrdwy (ffenestr newydd)
Prifysgol Glyndŵr (ffenestr newydd)
Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) (ffenestr newydd)
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


