Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NB
Cysylltwch â ni
01352 752121
Sut i gyrraedd yma
Ailgyfansoddi Pwyllgor Ymgynghorol Ynadon Clwyd
Bob tair blynedd caiff Pwyllgor Ymgynghorol Ynadon Clwyd ei ailgyfansoddi’n rhannol ac mae’r ailgyfansoddi rhannol nesaf yr Hydref hwn.
Mae Pwyllgor Ymgynghorol Ynadon Clwyd yn gofalu am bedair ardal Mainc Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys dau Ynad o bob un o’r pedwar ardal mainc efo chwe aelod lleyg dan Gadeiryddiaeth Trefor Jones CBE. Efo’r ailgyfansoddiad hwn bydd swyddi gwag ar gyfer dau Ynad o Fainc Sir Ddinbych, un o Fainc Conwy a thri aelod lleyg.
Prif ddyletswydd y Pwyllgor Ymgynghorol ydi gwneud argymhellion i’r Arglwydd Ganghellor bob blwyddyn ar ymgeiswyr addas i’w penodi’n Ynadon newydd ar gyfer y pedair Mainc. Mae gan y Pwyllgor hefyd ddyletswyddau mewn perthynas â chwynion ynglŷn ag Ynadon, darparu gwybodaeth i’r Adran Materion Cyfansoddiadol a chysylltu â’r Adran ynglŷn â materion sy’n effeithio ar y pedair Mainc. Ar gyfartaledd mae angen i aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol dreulio rhwng pump a deg diwrnod y flwyddyn yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor, yn cyfweld ymgeiswyr ac yn mynychu digwyddiadau hyrwyddo neu seremonïau.
Dyma'r nodweddion sydd eu hangen ar aelodau o’r Pwyllgor Ymgynghorol :-
- Y gallu i drin pobl
- Yn feirniad da o gymeriad a gallu
- Y gallu i ymdrin yn briodol â gwybodaeth gyfrinachol
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant
Ni fydd aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol yn cael unrhyw gydnabyddiaeth ond bydd trefniadau i dalu costau teithio, lluniaeth a cholled ariannol.
Mae ffurflen gais a rhagor o wybodaeth ar gael gan Mandy Haslam neu Lavinia Stockham, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6NR, Ffôn: 01352 702411 neu 702414
