skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Y Cyngor a democratiaeth > Ymgynghoriadau > Arolwg Preswylwyr 2007

Arolwg Preswylwyr 2007


Arolwg Preswylwyr Cyngor Sir y Fflint 2007

Dros yr haf 2007 defnyddiodd y Cyngor gwmni ymchwilio annibynnol, BMG Research, i gynnal arolwg preswylwyr. Derbyniodd 3,500 o gartrefi, a ddewiswyd ar hap, holiadur yn gofyn am eu barn am fywyd yn Sir y Fflint ac am gysylltu gyda’r Cyngor.


Bu i gyfanswm o 1,231 o bobl ymateb gan roi cyfradd ymateb eithriadol o dda o 35%. Mae’r gyfradd ymateb hon yn llawer uwch na nifer o arolygon tebyg a gynhaliwyd mewn rhannau eraill o’r DU.

Prif ffocws yr arolwg oedd mesur lefelau boddhad preswylwyr gyda Sir y Fflint fel lle i fyw, gan nodi beth oeddent yn meddwl a oedd yn dda am y Sir ynghyd â phethau i’w gwella. Roedd 78% o breswylwyr yn fodlon â bywyd yn Sir y Fflint a dim ond 5% oedd yn anfodlon. Y pethau yr oeddent yn eu hoffi fwyaf oedd cael mynediad at gefn gwlad a mannau gwyrdd, cludiant cyhoeddus da a chyfleusterau siopa. Y pethau oedd pobl yn credu y dylid eu gwella oedd gweithgareddau i bobl ifanc, lefelau ofn o drosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thai fforddiadwy.

Holwyd preswylwyr am eu cymdogaethau ac eto roedd 78% yn fodlon â’u cymdogaethau fel lleoedd i fyw. Cwmpaswyd dau bwnc penodol yn ymwneud â chymdogaethau, canfyddiad pobl o ddiogelwch a glanweithdra, yn yr arolwg. Mae’r ddau yn faes sy’n achosi pryder i breswylwyr Sir y Fflint. Mae hyn yn debyg i farn gyhoeddus ledled y DU.

Gofynnodd yr arolwg hefyd am eu profiadau wrth gysylltu â’r Cyngor. Er bod 62% yn fodlon, roedd 22% yn teimlo bod y Cyngor yn ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid yn wael. Mae’r Cyngor eisoes wedi nodi Gwasanaeth Cwsmeriaid fel blaenoriaeth ar gyfer gwelliant pellach ac mae’n benderfynol o wella profiadau cwsmeriaid ac yna rhoi atborth.

Mae canlyniadau’r arolwg yn rhoi cyfoeth o wybodaeth i’r Cyngor a chaiff ei defnyddio fel sail i gynlluniau’r dyfodol.

Am fwy o wybodaeth fanwl am ganlyniadau’r arolwg, edrychwch ar yr adroddiad crynodeb.

Arolwg Preswylwyr 2007 (563kb)


 

Diweddarwyd: 7/15/10 5:41 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.