skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Addysg a dysgu > Plant cyn oed ysgol

Plant cyn oed ysgol


Os hoffech ragor o wybodaeth am ddewis gofal plant, yr help sydd ar gael gyda chost gofal plant, neu os hoffech gael hyd i leoliad gofal plant lleol, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth Plant Sir y Fflint ar 01244 547017 neu anfonwch ym holiad. Mae ein gwasanaeth Am Ddim ac rydyn ni’n rhan o Gyngor Sir y Fflint.
Beth yw grŵp cyn ysgol/cylch chwarae/cylch meithrin-

Mae grŵp dan oed ysgol, cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin yn darparu gofal ac addysg i blant 2.5 – 4 oed, fel arfer mewn sesiynau, am ddwy awr a hanner i dair awr - bore neu brynhawn - yn ystod y tymor yn unig, fel arfer. Mae rhai’n cynnig oriau estynedig i gynnwys cinio neu glwb brecwast ac mae rhai’n rhedeg clybiau gwyliau. Anogir rhieni/gofalwyr i aros gyda’u plant nes eu bod wedi cynefino.

Cylchoedd chwarae Cymraeg yw cylchoedd meithrin. Mae nifer o’r plant yn dod o gartrefi di-Gymraeg, ond mae’r oedolion bob amser yn siarad Cymraeg â’r plant ac ym mhen dim maen nhw’n deall bron iawn bopeth.

Beth mae grwpiau cyn ysgol/cylchoedd chwarae/cylchoedd meithrin yn eu darparu?

Mae grwpiau dan oed ysgol, cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin yn cydweithio â rhieni/gofalwyr i ddarparu cwricwlwm eang i blant ifanc drwy chwarae. Dylai gweithgareddau gynnwys: tywod, coed, dŵr, peintio, toes chwarae, cornel cartref/siop, cornel lyfrau, tai adeiladu, didoli a chydweddu, ffrâm ddringo, trawstiau cydbwysedd, dillad gwisgo-i-fyny, gludo, bwrdd diddordebau, torri allan, pensiliau, pinnau ffelt, creonau, jig-sos a llawer rhagor. Gall grwpiau dan oed ysgol, cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin fod yn rhan o becyn gofal plant os ydyn nhw’n cael eu defnyddio gyda gofalwr plant, nani neu berthynas.

Cofrestru

Rhaid i Arolygaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC) gofrestru pob grŵp dan oed ysgol, cylch chwarae a chylch meithrin sydd ar agor am ragor na dwy awr y dydd a’u harchwilio bob blwyddyn. Mae adroddiadau archwiliadau ASGC ar gael i rieni/gofalwyr eu darllen yn y grwpiau dan oed ysgol, cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin, yn y llyfrgell neu ar y Rhyngrwyd.

Cost/dyrannu lle

Mae sesiynau grwpiau dan oed ysgol, cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin yn amrywio o ran cost o £4 i fyny [gan ddibynnu ar rent a nifer y staff a.a]. Mae rhestr aros gan y rhan fwyaf o grwpiau dan oed ysgol, cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin, felly mae’n syniad da cofrestru’ch plentyn cyn iddo/iddi fod yn ddwy a hanner.

Staffio a chymwysterau

Dylai grwpiau dan oed ysgol, cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin gyflogi staff cymwys sydd wedi’u cofrestru. Mae cymwysterau’n cynnwys NVQ Lefel 3 mewn Gofal Plant ac Addysg; Diploma’r Cynghrair Dysgu dan oed Ysgol mewn Arfer Dan Oed Ysgol; CACHE; NNEB; Diploma Cenedlaethol Btec [gofal plant]. Mae grwpiau dan oed ysgol, cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin yn cynnig cymhareb oedolyn/plentyn o 1:8 o leiaf, ac mae nifer yn cynnig 1:5.

Pwyntiau i’w hystyried wrth ddewis cylch chwarae neu grŵp dan oed ysgol i’ch plentyn

· Gan fod grwpiau dan oed ysgol, cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin yn aml mewn neuaddau ysgol, canolfannau cymunedol ac adeiladau ysgol, efallai na fydd ganddyn nhw linell ffôn. Mae’n llawer gwell galw i weld y grwpiau. Mae galw i weld ychydig o’r grwpiau lleol yn syniad da, cyn i chi ddewis pa un fyddai’n gweddu orau i’ch plentyn.

Ewch â’ch plentyn gyda chi pan fyddwch yn ymweld fel ei fod yn dod i arfer â’r lle a’r oedolion a fydd yn gofalu amdano. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r ddau ohonoch chi gael naws y grŵp.

  • Ewch eto i weld y grwpiau yr ydych yn eu hoffi
  • Sut mae’r staff yn gofalu/cymysgu gyda’r plant?
  • A oes gan y grŵp ddigon o deganau a deunyddiau chwarae eraill
  • A oes ardal y tu allan y gall y plant ei defnyddio
  • Gwnewch restr o gwestiynau cyn i chi ymweld

Cwestiynau posib i’w gofyn yn ystod eich ymweliad â darpar grwpiau dan oed ysgol, cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin

  • Pa gymhareb sydd rhwng staff a phlant- (Argymhellir 1:5 i blant 2-3 oed, ac i blant 3-5 oed mae’n 1:8)Faint yw’r ffioedd a phryd sy’n rhaid talu-
  • A fyddai’n rhaid talu petai’ch plentyn yn absennol, oherwydd salwch neu wyliau’r teulu-
  • Ydy’r grwp yn cynnig lleoedd gyda chymhorthdal i blant 3 a 4 oed-
  • Holwch am gymwysterau a phrofiadau’r staff.
  • Pryd mae’r grwp dan oed ysgol/cylch chwarae/cylch meithrin ar agor-
  • Aoes rota o rieni i helpu
  • Beth fyddai’n digwydd pe na bawn i’n gallu ymuno a rota’r rhieni i helpu
  • Beth yw’r polisi o ran disgyblu
  • Ydych chi’n cynllunio tripiau a gwibdeithiau
  • Pa weithgareddau ydych chi’n cynllunio i’r plant
  • Ydych chi’n rhoi byrbrydau iach-

Cysylltiadau defnyddiol: Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM)
Cyngor Cymuned Parc Caia
Cartrefle
Ffordd Cefn
Wrecsam
LL13 9NH

Wefan: http://www.mym.co.uk/


Rhif Ffôn: 01978 363279 Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn Ysgol Cymru (WPPA) Swyddfa Sir y Fflint,
Y Cabanau, Llwynegrin,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug
CH7 6NB
Rhif Ffôn/Ffacs 01352 756885 (peiriant ateb).
E-bost: newalesoffice@walesppa.org

Ni all Gwasanaeth Gwybodaeth Plant Sir y Fflint argymell na chefnogi unrhyw ddarparwyr gofal plant ac nid yw’n derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb y wybodaeth hon.

Anfon ymholiad at y gwasanaeth hwn

Diweddarwyd: 7/30/09 1:18 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.