Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Cwestiynau cyffredin – rheoli adeiladu


Cewch hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am reoli adeiladu isod:

  1. A yw Rheoliadau Adeiladu’r un fath â Rheoliadau Cynllunio
  2. Oes angen Cymeradwyaeth Rheoleiddio Adeiladu arnaf fi?
  3. Oes angen i mi roi gwybod i chi os ydw i am ddymchwel adeilad?
  4. Sut ydw i’n rhoi gwybod am strwythur peryglus
  5. Beth yw Dogfennau Cymeradwy
  6. Sut ydw i’n gwneud cais am Reoliadau Adeiladu?
  7. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cais Cynlluniau Llawn a chais Hysbysiad Adeiladu?
  8. Faint mae’n gymryd i gymeradwyo cais?
  9. Fedra i wneud cais am ganiatâd ôl-weithredol am waith a wnaed eisoes?
  10. Oes raid i mi dalu am Ganiatâd Rheoliadau Adeiladu?
  11. Oes yna gosb am dorri Rheoliadau Adeiladu?
  12. Oes gan fy nhgymdogion hawl i wrthwynebu’r hyn rwy’n ei gynnig yn fy nghais Rheoliadau Adeiladu?
  13. Beth yw’r Ddeddf Waliau Cydrannol?
  14. O ble gaf i wybodaeth am waith a wnaed ar fy eiddo, neu eiddo rwy’n bwriadu ei brynu?
  15. A fedraf weld cynlluniau gwaith a wnaed ar fy eiddo?

1. A yw Rheoliadau Adeiladu’r un fath â Rheoliadau Cynllunio?

Nac ydynt. Mae deddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref yn gwbl ar wahân i Reoliadau Adeiladu. Mae’n bosibl y bydd angen Caniatâd Cynllunio am waith rydych yn bwriadu ei wneud a dylech gael y caniatâd hwn cyn cyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu. Cysylltwch ag Adran Gynllunio’r Cyngor os ydych yn ansicr.

Rhaid anfon ceisiadau cynllunio at adran berthnasol yr Awdurdod Lleol.  Hyd yn oed os nad oes angen caniatâd cynllunio arnoch, mae’n bosibl y bydd angen i chi gyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu.

2. Oes angen Cymeradwyaeth Rheoleiddio Adeiladu arnaf fi?

Pa waith bynnag rydych yn bwriadu ei wneud, darllenwch y dudalen Oes angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu arnaf yn gyntaf.

3. Oes angen i mi roi gwybod i chi os ydw i am ddymchwel adeilad?

Oes, bydd angen i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Rheoli Adeiladu os ydych yn bwriadu dymchwel adeilad neu ran o adeilad os oes yw ei gyfaint allanol yn mesur mwy na 50 metr ciwb. Does dim tâl. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â’r Adran Gynllunio leol i holi a oes angen Caniatâd Cynllunio.

4. Sut ydw i’n rhoi gwybod am strwythur peryglus?

Mae Gwasanaeth Rheoli Adeiladu Sir y Fflint yn delio â strwythurau peryglus 24 awr y dydd a dylid rhoi gwybod amdanynt ar unwaith. Cysylltwch â: Rheoli Adeiladu, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF

Ffôn:  (01352) 703418 yn ystod oriau swyddfa, (01352) 762898 y tu allan i oriau swyddfa,
Ffacs: (01352) 703615

5. Beth yw dogfennau cymeradwy?

Caiff y Rheoliadau eu ategu gan Ddogfennau Cyemradwy sy’n cynnwys arweiniad ymarferol a thechnegol ar fodloni’r gofynion. Maent yn ymdrin â materion fel strwythur, diogelwch tân, awyru, draenio, cadwraeth ynni a mynediad a chyfleusterau i bobl anabl.

6. Sut ydw i’n gwneud cais am Reoliadau Adeiladu?

Darllenwch Gwneud cais – rheoliadau adeiladu.

7. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cais Cynlluniau Llawn a Hysbysiad Adeiladu?

Cewch esboniad llawn am geisiadau Cynlluniau Llawn a cheisiadau Hysbysiad Adeiladu ar y dudalen Gwneud cais – rheoliadau adeiladu

8. Faint mae’n gymryd i gymeradwyo cais?

Ar y ffurflen cynlluniau llawn cewch ddewis rhoi naill ai pum wythnos neu bythefnos i’r Adran Rheoli Adeiladu ddod i benderfyniad. Yn gyffredinol, gall gymryd 15 diwrnod gwaith i benderfynu os nad oes angen newid eich cynlluniau. Os oes angen newidiadau, bydd y cyfnod yn dibynnu pryd y byddwch chi’n dychwelyd y cynlluniau diwygiedig.

9. A fedraf wneud cais am gymeradwyaeth ôl-weithredol am waith a wnaed eisoes?

Medrwch – darllenwch Ceisiadau Rheoleiddio ar y dudalen Gwneud cais – rheoliadau adeiladu

10. Oes raid i mi dalu am Ganiatâd Rheoleiddio Adeiladu?

Oes mae’r taliadau i’w gweld yn y cynllun taliadau.

11. Oes yna gosb am dorri Rheoliadau Adeiladu?

Os byddwch yn torri’r rheoliadau drwy adeiladu heb roi gwybod i’r Awdurdod Rheoli Adeiladu Lleol neu drwy wneud gwaith nad yw’n cydymffurfio, gallwch gael eich cosbi. Os penderfynir eich bod yn euog, mae’n bosibl i chi wynebu dirwy o hyd at £5.000 ynghyd â £50 am bob diwrnod nad yw pob diffyg unigol yn cael ei gywiro ar ôl eich cael yn euog. Os nad ydych yn cywiro’r diffyg pan ofynnir i chi wneud hynny, mae gan yr Awdurdod y pŵer i wneud hynny ei hun ac adennill y costau gennych chi.

12. Oes gan fy nghymdogion yr hawl i wrthwynebu’r hyn rwy’n ei gynnig yn fy Nghais Rheoliadau Adeiladu?

Nac oes, ond er nad oes rhaid ymgynghori â chymdogion, byddai’n syniad da gwneud hynny.

Mae modd gwrthwynebu’r cais o dan ddeddfwriaeth arall, yn enwedig os oes angen caniatâd cynllunio arnoch. Mae’n bosibl hefyd y bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’ch cymdogion, o dan Ddeddf Waliau Cydrannol 1996 (ffenestr newydd) am y gwaith sydd ar y gweill.

13. Beth yw’r Ddeddf Waliau Cydrannol?

Mae’r Ddeddf Seneddol hon yn berthnasol i unrhyw un sydd am ymgymryd â gwaith adeiladu, neu unrhyw un sy’n byw drws nesaf i rywun sydd am ymgymryd â gwaith adeiladu. Mae’n rhoi fframwaith i atal neu i ddatrys problemau’n ymwneud â waliau cydrannol, waliau terfyn a gwaith cloddio.

Os ydych ar fin ymgymryd â gwaith adeiladu sy’n cynnwys:

  • Gwaith ar wal bresennol rhwng dau eiddo
  • Adeiladu ar y ffin ag eiddo cymydog
  • Cloddio ger adeilad cymydog
  • Symud neu newid ffens, naill ai dros dro neu’n barhaol

Rhaid i chi holi a yw’r gwaith wedi’i gynnwys yng nghwmpas y Ddeddf Waliau Cydrannol 1996 (ffenestr newydd); os felly, mae’n rhaid i chi ddweud wrth berchennog yr eiddo cyffiniol beth rydych yn bwriadu ei wneud.

Dylid hysbysu perchennog yr eiddo cyffiniol yn ysgrifenedig gan egluro’r gwaith sydd ar y gweill. Rhaid gwneud hyn o leiaf ddau fis cyn i’r gwaith ddechrau ar y waliau dan sylw neu un mis yng nghyswllt ffensys, waliau a gwaith cloddio’n agos at adeilada(au)’r cymydog.

Mae gan berchennog yr eiddo cyffiniol 14 diwrnod i gytuno’n ysgrifenedig i’r cynigion. Os nad yw’n cytuno, neu os nad yw’n ymateb cyn pen 14 diwrnod, ystyrir bod anghydfod ynglŷn â’r achos.  Yn yr achosion hyn, bydd angen i’r ddwy ochr benodi syrfëwr yr un neu gytuno i benodi un syrfëwr i ddatrys yr anghydfod.

14. O ble gaf i wybodaeth am waith a wnaed ar fy eiddo, neu eiddo rwy’n bwriadu ei brynu?

Byddwn yn gallu rhoi copïau o hysbysiadau penderfyniadau a rhai tystysgrifau cwblhau ar gyfer gwaith a wnaed. Bydd angen i chi (neu’ch cyfreithiwr) wneud cais ysgrifenedig. 

Mae angen pum diwrnod o rybudd i wneud chwiliad hanesyddol o unrhyw safle yn y Sir er mwyn medru cael hyd i’r holl ffeiliau a’r dogfennau perthnasol ac anfon y wybodaeth atoch. Rhaid cynnwys y tâl priodol gyda phob cais (ffoniwch 01352 703418 i holi faint yw’r tâl). Cewch wybod am unrhyw gostau ychwanegol cyn rhyddhau’r wybodaeth.

15. A fedraf weld cynlluniau gwaith a wnaed ar fy eiddo? 

Mae gennym gofnodion hanesyddol sy’n mynd yn ôl o leiaf 15 mlynedd. Os chi yw perchennog gwreiddiol yr eiddo neu’r perchennog dilynol, mae gennych hawl i weld unrhyw gynlluniau ar gyfer y gwaith a wnaed. Os hoffech gael copi o’r cynlluniau hyn, rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig y person a baratôdd y cynlluniau (e.e. yr asiant, y pensaer, y syrfëwr neu’r drafftsmon). Bydd yn rhaid talu tâl am y copïau. 

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd