Cyngor Sir y Fflint
Yr amgylchedd a chynllunio
- Rheoli adeiladu
- Ffurflenni cais a ffioedd – rheoli adeiladu
- Rheoli adeiladu - sut y gallwn weithio gyda chi
- Cysylltwch â ni - rheoli adeiladu
- Stwythurau peryglus
- Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnaf?
- Cwestiynau cyffredin – rheoli adeiladu
- Gwneud cais – rheoliadau adeiladu
- Beth yw rheoliadau adeiladu?
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Gwasanaethau
- Yr amgylchedd a chynllunio
- Rheoli adeiladu
- Beth yw rheoliadau adeiladu?
Beth yw rheoliadau adeiladu?
Ar y dudalen hon cewch wybodaeth gyffredinol am Reoliadau Adeiladu a chrynodeb byr o bwrpas y rheoliadau.
Caiff Rheoliadau Adeiladu eu cymeradwyo gan y Senedd ac maent yn gosod safonau penodol y mae’n rhaid cadw atynt yn ystod y gwaith cynllunio ac adeiladu sy’n digwydd mewn eiddo domestig a masnachol. Mae’r safonau hyn yn sicrhau iechyd a diogelwch pobl mewn adeiladau ac o’u hamgylch ac maent yn darparu ar gyfer ffactorau fel mynediad i adeiladau i bobl anabl, dulliau o ddianc rhag tân a chadwraeth ynni.
Os yw unrhyw waith ar eiddo’n effeithio ar strwythur yr adeilad neu ar ddulliau o ddianc rhag tân, bydd angen caniatâd o dan y Rheoliadau Adeiladu. Mae angen caniatâd ar gyfer gwaith fel codi estyniad, troi croglofft yn ystafell, gwaith mewnol sy’n effeithio ar strwythurau sy’n dal pwysau, codi rhai adeiladau ar wahân, newid system draenio, gosod to newydd, newid defnydd adeilad a thrawsnewid adeiladau.
Mae 13 rhan i’r Rheoliadau a chânt eu hysgrifennu mewn termau eang, ymarferol i alluogi dylunwyr ac adeiladwyr i ddefnyddio dulliau arloesol o baratoi eu cynlluniau.
Mae “Dogfen Gymeradwy” yn ategu pob rhan ac mae hon yn atgynhyrchu gofynion y rheoliadau Adeiladu. Yna, ceir canllawiau ymarferol a thechnegol ac enghreifftiau sy’n dangos sut i gadw at y rheoliadau mewn rhai adeiladau mwy cyffredin. Os gellir dangos ffydd eraill o gadw at y rheoliadau, does dim rhaid mabwysiadu unrhyw enghraifft a nodir yn y Ddogfen Gymeradwy. Os defnyddir dull arall, rhaid dangos tystiolaeth ei fod cystal, os nad gwell, na hwnnw a nodir yn y Ddogfen Gymeradwy.
Gellir lawrlwytho’r fersiwn diweddaraf o’r Dogfennau Cymeradwy ar-lein a hynny am ddim ar fformat Adobe PDF opddi ar y wefan cynllunio (ffenestr newydd). Neu gallwch eu prynu gan y Llyfrfa drwy ffonio 0870 600 55 22.
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


