Cyngor Sir y Fflint
Yr amgylchedd a chynllunio
- Cadwraeth
- Cael gwared â gwrychoedd amaethyddol
- Ardal Gadwraeth - cynlluniau rheoli
- Ardaloedd cadwraeth
- Rheoli Coedwigoedd a Choetiroedd
- Cwynion am wrychoedd uchel
- Safleoedd hanesyddol a chofadeiladau
- Grant cadwraeth tirwedd a natur
- Adeiladau Rhestredig
- Menter Treftadaeth Treflun
- Rheolaeth coed
- Gorchmynion Cadw Coed
- Gwaith ar goed - gwneud cais am ganiatâd
- Coed preifat - cwestiynau a ofynnir yn aml
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Gwasanaethau
- Yr amgylchedd a chynllunio
- Cadwraeth
- Cwynion am wrychoedd uchel
Cwynion am wrychoedd uchel
Mewn ymateb i bryderon y cyhoedd, mae'r Llywodraeth wedi rhoi pwerau i Gyngor Sir y Fflint ac Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru a Lloegr i reoli uchder gwrychoedd ger eiddo preswyl.
Y gwrychoedd sydd wedi peri fwyaf o bryder yw Leyland a Lawson Cypress, fodd bynnag mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys pob gwrych bytholwyrdd a lled-fytholwyrdd (e.e. cedrwydden goch, ywen, celyn, llawryf a chorswigen y gaeaf. Mae Sir y Fflint yn ystyried y goeden brifet yn un lled-fytholrwydd felly mae'r ddeddfwriaeth yn ei chwmpasu).
Mewn trefi mae gan wrychoedd ffin swyddogaeth bwysig - maen nhw'n meddalu'r tirwedd, yn darparu preifatrwydd, yn lleihau swn ac yn annog bywyd gwyllt. Ond, pan fyddan nhw'n tyfu'n rhy uchel, gall gwrychoedd daflu gormod o gysgod ac effeithio ar fwynhad cymydog o'i annedd. Mae'r ddeddfwriaeth yn ceisio cydbwysedd rhwng rhinwedd gwrychoedd a'r problemau sy'n gysylltiedig â nhw mewn ardaloedd preswyl.
Cwestiynau a ofynnir yn aml
1. A oes gan bobl hawl cyffredinol i gael golau?
Nid oes gan unrhyw un hawl cyfreithiol cyffredinol i gael golau mewn gerddi, er hynny, gall hawddfraint i olau trwy ffenestri neu agoriadau eraill mewn eiddo fodoli ambell waith. Os yw eich eiddo'n manteisio ar hawddfraint o olau sy'n cael ei effeithio, dylech gysylltu â'ch cyfreithiwr.
2. A allaf dorri canghennau sy'n bargodi fy eiddo?
Gallwch, ond dylech sicrhau eich bod yn gwybod yn union lle mae'ch ffin. Yn aml, mae ffensys, gwrychoedd a ffosydd yn nodi ffin gyfreithiol rhwng eiddo ond efallai nad ydynt yn dilyn llinell amlwg ar y ddaear. Os oes anghydfod rhyngoch chi a chymydog dylech gael cyngor cyfreithiol cyn torri unrhyw lystyfiant. Mae'n arfer da trafod unrhyw waith arfaethedig gyda'ch cymydog cyn i chi fynd ati i'w gwblhau.
Dim ond y canghenau sy'n dod dros y ffin y gallwch eu torri a rhaid gwneud hynny mewn modd na fydd yn cyfaddawdu iechyd y coed neu lwyni. Os yw'r goeden y bwriadwch ei thocio wedi'i hamddiffyn gan Orchymyn Cadw Coed neu Amod Cynllunio neu os yw mewn Ardal Gadwraeth bydd angen i chi gysylltu â'r Cyngor a chael caniatâd lle bo raid.
3. A allaf fynnu bod fy nghymydog yn talu am dorri canghennau sy'n bargodi fy eiddo?
Na allwch. Chi fydd yn gyfrifol am ariannu'r gwaith torri i ddechrau. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gallwch adfer cost unrhyw waith trwy fynd â'ch cymydog i'r llys. Mae hyn yn debygol o gostio mwy o arian ac amser na thalu am y gwaith eich hunan.
4. Beth am wrychoedd amaethyddol? A allaf dynnu gwrych yn fy nghae?
Na, dim heb gyflwyno 'Hysbysiad Tynnu Gwrych' i Gyngor Sir y Fflint yn gyntaf. Yna bydd gan y Cyngor 42 diwrnod ar ôl derbyn Hysbysiad Tynnu Gwrych wedi'i lenwi'n briodol i ystyried y cais a gwneud argymhellion. Cwmpesir gwrychoedd fel hyn yn y Rheoliadau Gwrychoedd (1997).
Datrys dadleuon
Os ydych yn pryderu am wrych uchel cyfagos, darllenwch y daflen ganlynol a gyhoeddir gan Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog - Over the Garden Hedge (ffenestr newydd). Mae'r daflen hon yn esbonio sut i ddatrys eich dadl ynglyn â gwrych heb ymwneud â Chyngor Sir y Fflint. Rhaid rhoi cynnig ar y broses hon cyn cwyno i Gyngor Sir y Fflint.
Os yw perchennog y gwrych yn gwrthod siarad â chi, gallwch ofyn am help cyfryngwyr annibynnol neu i'ch swyddfa Cyngor Ar Bopeth leol.
Gwneud cwyn
Cyn gwneud cwyn ffurfiol i CSyFf darllenwch y cyhoeddiad canlynol - Gwrychoedd Uchel: Cwyno wrth y Cyngor (ffenestr newydd). Mae'r daflen hon yn esbonio pa gwynion all y Cyngor eu hystyried a sut ydym yn ymdrin â nhw.
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol ar ôl darllen y daflen hon, lawrlwythwch, argraffwch a llenwch y ffurflen gwynion Gwrychoedd Uchel. Mae nodiadau canllaw ar gael i wneud hyn.
Ffurflen gwyno Gwrychoedd Uchel (PDF 43KB ffenestr newydd)
Nodiadau canllaw ffurflen gwyno Gwrychoedd Uchel (PDF 20KB ffenestr newydd)
Codir £320 i ymchwilio i gwyn am wrych uchel (caiff y ffi hon ei lleihau i £160 os yw'r sawl sy'n cwyno wedi'i gofrestru'n anabl, yn bensiynwr neu'n derbyn budd-dal gwladol).
Anfonwch eich ffurflen gwyno wedi'i llenwi ynghyd â ffi (sieciau'n daladwy i Gyngor Sir y Fflint) at y Prif Swyddog Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF. Neu fel arall, gallwch ei ddosbarthu â llaw i Derbynfa Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd.
Gwybodaeth bellach
Caiff cwynion am wrychoedd uchel eu trin gan y gwasanaeth Gorfodi Cynllunio. Ffoniwch 01352 703258 neu cyflwynwch ymholiad ar-lein (bydd hyn yn agor e-ffurflen)
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


