Cyngor Sir y Fflint
Yr amgylchedd a chynllunio
- Cadwraeth
- Cael gwared â gwrychoedd amaethyddol
- Ardal Gadwraeth - cynlluniau rheoli
- Ardaloedd cadwraeth
- Rheoli Coedwigoedd a Choetiroedd
- Cwynion am wrychoedd uchel
- Safleoedd hanesyddol a chofadeiladau
- Grant cadwraeth tirwedd a natur
- Adeiladau Rhestredig
- Menter Treftadaeth Treflun
- Rheolaeth coed
- Gorchmynion Cadw Coed
- Gwaith ar goed - gwneud cais am ganiatâd
- Coed preifat - cwestiynau a ofynnir yn aml
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Gwasanaethau
- Yr amgylchedd a chynllunio
- Cadwraeth
- Gorchmynion Cadw Coed
Gorchmynion Cadw Coed
Mae gan y Cyngor bŵerau i warchod coed ar dir preifat. Y perchennog sy'n gyfrifol am goed gwarchodedig, ond yn y rhan fwyaf o achosion mae'r cyfyngiadau a osodwyd o ran y coed yn golygu bod angen caniatâd y Cyngor cyn mynd ati i'w tocio neu eu torri i lawr.
Os ydych yn bwriadu cynnal gwaith ar eich coed, ac yn ansicr a yw'r coed yn rhai gwarchodedig, cysylltwch â Swyddog Coedwigaeth y Cyngor Sir.
Mae modd i'r Cyngor warchod coed preifat fel a ganlyn:
1. Gorchymyn Cadw Coed
Yn ôl Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mae'r Cyngor, fel Awdurdod Cynllunio Lleol, yn medru gwarchod coed a choedlannau penodol trwy wneud Gorchmynion Cadw Coed. Mae rhai cannoedd o Orchymynion Cadw Coed yn Sir y Fflint, yn cwmpasu coed unigol, coedlannau, a mathau arbennig o goed dros ardal eang. Gan amlaf, gwneir Gorchmynion Cadw Coed mewn perthynas â choed sy'n tyfu ar dir sy'n debygol o gael ei ddatblygu; mae hynny'n bwysig iawn wrth i Gynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint ymddangos.
Ymhlith cyfyngiadau eraill, mae Gorchymyn Cadw Coed yn gwahardd tocio, difrigo a thorri coed. Ar wahân i'r eithriadau a ganiateir gan y ddeddfwriaeth (gweler isod) bydd angen caniatâd y Cyngor cyn cynnal unrhyw waith ar goeden y gwnaed Gorchymyn Cadw Coed ar ei chyfer.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu canllaw i berchnogion coed, y cyhoedd a grwpiau amwynderau, sy'n ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am Orchmynion Cadw Coed.
Coed Gwarchodedig: Canllaw i Weithdrefnau Cadw Coed (new window)
Os ydych yn bwriadu cynnal gwaith o'r fath mae modd ichi drefnu apwyntiad gyda Swyddog Coedwigaeth y Cyngor er mwyn trafod y gwaith arfaethedig cyn ichi gyflwyno cais. Bydd y Swyddog yn dweud wrthych beth yw'r drefn o ran gwneud cais, pa mor hir y bydd eich cais yn parhau, a sut i lenwi'r ffurflen gais. Gall hefyd eich cynghori ynglyn â chyflwr y goeden ac a yw'r gwaith arfaethedig yn briodol ai peidio.
Gwaith ar goed - gwneud cais am ganiatâd
2. Ardaloedd Cadwraeth
Yn ogystal â chyfyngu ar ddatblygiadau, mae'r ardaloedd dynodedig hyn yn amddiffyn coed sydd oddi mewn iddynt. Mae 32 o Ardaloedd Cadwraeth yn Sir y Fflint sydd o amgylch rhannau hynaf pentrefi a chanol trefi yn bennaf.
Os ydych chi'n bwriadu ymgymryd â gwaith gyda choed (e.e. dymchwel, brigdorri neu docio coed) Ardal Gadwraeth, fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno hysbysiad o weithio ar goed i'r Cyngor. Cyn cyflwyno hysbysiad, bydd Swyddog Coedwigaeth y Cyngor yn cyfarfod â chi i drafod eich cynnig ac i asesu'r goeden. Yn ogystal â hyn, bydd yn eich helpu i lenwi'r ffurflenni hysbysu ac yn egluro'r broses.
Cyn gynted ac y bydd y Cyngor yn cael yr hysbysiad, bydd raid iddo drafod y cais cyn pen chwe wythnos. Bydd y Cyngor yn ceisio ymateb o fewn y cyfnod hwn ond os na chewch ateb cyn pen chwe wythnos, gallwch barhau â'r gwaith dan sylw. Rhaid i chi wneud y gwaith cyn pen dwy flynedd ar ôl dyddiad yr hysbysiad.
3. Amodau Cynllunio
Yn aml iawn, bydd caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad yn cynnwys amodau sy'n gwarchod y datblygwr rhag torri na thocio coed. Bydd geiriad y cyfyngiad yn pennu i ba raddau y caniateir i'r datblygwr dorri neu docio'r coed. Defnyddir amodau cynllunio i warchod coed a gwrychoedd yn ystod y cyfnod ar ôl i ddatblygiad gael ei gwblhau. Ni fwriedir i'r amodau warchod y coed a'r gwrychoedd dros dymor hir. Os ydych yn bwriadu cynnal gwaith ar goeden sydd eisoes yn ddarostyngedig i amodau cynllunio a wnaed gan y Cyngor bydd rhaid ichi roi manylion y gwaith arfaethedig.
Eithriadau
Mae nifer o eithriadau o ran y cyfyngiadau sydd ynghlwm wrth Ardaloedd Cadwraeth a Gorchmynion Cadw Coed. Dyma'r rhai sy'n codi amlaf:-
- Coed sydd naill ai wedi marw neu ar fin marw, neu goed peryglus: Ac eithrio mewn argyfwng, cynghorwn eich bod yn rhybuddio'r Cyngor pum diwrnod rhag llaw cyn cynnal gwaith ar goed o'r fath. Rhydd hynny'r cyfle i'r Cyngor asesu'r goeden i wneud yn siwr nad ydych yn cynnal gwaith anawdurdodedig. Gall y Cyngor hefyd hepgor gofyn ichi blannu coeden yn lle'r hen goeden - nid yw hynny'n berthnasol o ran Gorchymyn Cadw Coed ar gyfer 'coedlannau'.
- Coed ar safleoedd y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer: Coed y mae angen eu dymchwel er mwyn bwrw ymlaen â gwaith datblygu y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.
- Coed sy'n peri 'niwsans' o safbwynt cyfreithiol: Ceisiwch farn cyfreithiwr o ran ystyr 'niwsans cyfreithiol'.
Dirwyon
Bydd y sawl sy'n cynnal gwaith anawdurdodedig ar goeden y mae Gorchymyn Cadw Coed neu gyfyngiadau Ardal Gadwraeth wedi'u gwneud ar ei chyfer yn cyflawni trosedd. Os yw Llys Ynadon yn dyfarnu'r person hwnnw'n euog o ddinistrio coeden neu ei difrodi i'r fath raddau nes ei bod wedi'i dinistrio, gallai wynebu dirwy hyd at £20,000. Mae dirwyon hyd at £2,500 yn bodoli ar gyfer troseddau eraill. Mae modd i'r Cyngor hefyd fynnu bod coeden newydd yn cael ei phlannu pan fo coeden yn cael ei dinistrio'n groes i Orchymyn Cadw Coed.
Torri coed a'r Comisiwn Coedwigaeth
Yn ôl Deddf Coedwigaeth 1967 nifer penodol o goed y mae modd i'r Comisiwn Coedwigaeth eu torri. Os ydych yn bwriadu torri llawer o goed mawr neu nifer sylweddol o goed bychain dylech geisio cyngor gan goedwigwr neu cysylltwch â'r Comisiwn Coedwigaeth yn uniongyrchol - efallai y bydd arnoch angen cyflwyno cais am Drwydded Torri Coed. Os byddwch yn gwneud rhywbeth yn groes i'r Ddeddf Coedwigaeth efallai y cewch eich herlyn, ac efallai y cewch eich gorfodi i blannu coed newydd. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth (ffenestr newydd)
Gwybodaeth bellach
Os oes angen cyngor neu wybodaeth bellach arnoch, ffoniwch Swyddog Coedwigaeth y Cyngor yn is-adran yr Amgylchedd a Chadwraeth. Ffoniwch 01352 703264 neu cyflwynwch ymholiad ar-lein (bydd hyn yn agor e-ffurflen).
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


