Cyngor Sir y Fflint
Yr amgylchedd a chynllunio
- Cadwraeth
- Cael gwared â gwrychoedd amaethyddol
- Ardal Gadwraeth - cynlluniau rheoli
- Ardaloedd cadwraeth
- Rheoli Coedwigoedd a Choetiroedd
- Cwynion am wrychoedd uchel
- Safleoedd hanesyddol a chofadeiladau
- Grant cadwraeth tirwedd a natur
- Adeiladau Rhestredig
- Menter Treftadaeth Treflun
- Rheolaeth coed
- Gorchmynion Cadw Coed
- Gwaith ar goed - gwneud cais am ganiatâd
- Coed preifat - cwestiynau a ofynnir yn aml
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Gwasanaethau
- Yr amgylchedd a chynllunio
- Cadwraeth
- Rheoli Coedwigoedd a Choetiroedd
Rheoli Coedwigoedd a Choetiroedd
Heddiw mae gan Sir y Fflint oddeutu 2729 ha o goetiroedd llydanddail ac oddeutu 772 ha o goedwigoedd conwydd. Ar y cyd â'r Comisiwn Coedwigaeth a sefydliadau eraill, mae Cyngor Sir y Fflint yn sicrhau bod coetiroedd presennol yn cael eu diogelu a'u rheoli mewn modd cynaliadwy ac yn annog tirfeddianwyr i blannu coetiroedd brodorol newydd sy'n gydnaws â'u lleoliad.
Coed Cymru
Mae Coed Cymru'n sefydliad partneriaeth a ariennir yn rhannol gan Gyngor Sir y Fflint sy'n cynorthwyo tirfeddianwyr i blannu a rheoli coetiroedd bach yn gynaliadwy er mwyn bod o fudd i'r economi gwledig a bioamrywiaeth.
Mae Coed Cymru'n gysylltiedig hefyd ag ychwanegu gwerth i goed yn eu tarddle i gynyddu incwm a darganfod mwy o ffyrdd arloesol o ddefnyddio cynnyrch coetiroedd. Ewch i wefan Coed Cymru (ffenestr newydd) am fwy o wybodaeth.
Bydd nifer o'r sefydliadau sydd wedi'u rhestru yn y ddogfen isod yn ddefnyddiol i berchnogion coetiroedd sy'n chwilio am help, cyngor, hyfforddiant neu gymorth grant.
Cysylltiadau defnyddiol - help i reoli'ch coetir (PDF.doc 26KB ffenestr newydd)
Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru'n gweithredu fel Adran Goedwigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'n gyfrifol am amddiffyn ac ymestyn coedwigoedd a choetiroedd yng Nghymru.
Mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn meddu ar bwerau cyffredinol o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 sy'n gosod cyfyngiad ar gyfanswm y coed y gellir eu torri. Os ydych yn bwriadu torri nifer o goed mawr neu nifer fawr o goed bach dylech gael cyngor gan goedwigwr neu gysylltu â'r Comisiwn Coedwigaeth yn uniongyrchol oherwydd mae'n bosibl y bydd gofyn i chi gyflwyno cais am drwydded torri coed. Os ydych yn gwneud gwaith sy'n torri'r Ddeddf Goedwigaeth mae'n bosibl y cewch eich erlyn a'ch gorfodi i ail-blannu coed eraill. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth (ffenestr newydd)
Grantiau
Coetiroedd Gwell i Gymru yw cynllun grant newydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru sydd wedi'i lunio i ddarparu Strategaeth Goetiroedd Llywodraeth y Cynulliad. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Comisiwn Coedwigaeth Cymru.
Gall Swyddog Coed Cymru'r Cyngor gynnig cyngor a help i chi baratoi ceisiadau Cynllun Grant i'r Comisiwn Coedwigaeth.
Gwybodaeth bellach
Os oes angen gwybodaeth bellach neu wybodaeth arnoch, ffoniwch y Swyddog Coed Cymru yn Is-adran yr Amgylchedd a Chadwraeth ar 01352 703261 neu cyflwynwch ymholiad ar-lein (bydd hyn yn agor e-ffurlen).
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


