Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Gwaith ar goed - gwneud cais am ganiatâd


Rhaid i chi hysbysu Cyngor Sir y Fflint cyn gwneud unrhyw waith a allai effeithio ar goeden mewn ardal gadwraeth neu goeden a amddiffynnir gan Orchymyn Gwarchod Coed.  Isod ceir gwybodaeth am sut i wneud cais am ganiatâd gan Gyngor Sir y Fflint i wneud gwaith ar goed.

I wneud cais ac i gael gwybodaeth am Drwyddedau Cwympo Coed ar gyfer coetiroedd, edrychwch ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth (ffenestr newydd)

Trafod eich cynnig

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith ar goeden a warchodir gan Orchymyn Gwarchod Coed, gallwch wneud apwyntiad gyda Swyddog Coedwigaeth y Cyngor i drafod y gwaith cyn cyflwyno cais.  Bydd Swyddog Coedwigaeth y Cyngor yn gallu'ch cynghori ynghylch y broses ymgeisio, faint o amser y mae'ch cais yn debygol o'i gymryd a'ch cynorthwyo i gwblhau'ch cais.  Gellir rhoi cyngor hefyd am gyflwr y goeden a pha mor briodol yw'r gwaith arfaethedig.

Y gost o ymgeisio

Yn wahanol i'r mwyafrif o geisiadau cynllunio eraill, ni chodir tâl am wneud cais Gorchymyn Gwarchod Coed.

Cael ffurflen gais

Ffurflen gais & gwybodaeth gefnogol

Pan ydych yn barod i wneud cais, rhaid i chi lenwi’r ffurflen gywir.  Gallwch ddewis cyflwyno’ch cais ar-lein neu gallwch lawrlwytho, argraffu a phostio’ch ffurflen.  Cyn cyflwyno’ch cais, edrychwch ar y rhestr wirio o Ofynion Ceisiadau Cynllunio i weld pa rai sy’n berthnasol i’ch ffurflen ddewisedig.  Mae’n bosibl y caiff eich cais ei ddatgan yn annilys os na fyddwch wedi cyflwyno’r wybodaeth gywir.

Wrth wneud cais am ganiatâd i wneud gwaith ar goed, dylech sicrhau eich bod yn cyflwyno digon o wybodaeth.  Os ydych yn bwriadu tocio coeden dylech ddatgan yn union sut ydych yn bwriadu mynd ati i wneud hynny.  Yn aml byddai'n ddefnyddiol cyfeirio at unrhyw ddyfynbrisiau i gael manylion manwl gywir.

Sut fydd y Cyngor yn ymdrin â'ch cais

Ar ôl dilysu cais, mae gan y Cyngor wyth wythnos i wneud penderfyniad (neu deufis yn achos Gorchmynion Gwarchod Coed a wnaed cyn 1999).  Os yw'ch cais yn debygol o gymryd pump wythnos neu fwy i ddod i benderfyniad, bydd y Cyngor yn cydnabod eich cais.  Mewn achosion fel hyn bydd angen rhoi cyhoeddusrwydd i'ch cais a bydd angen cynnal ymgynghoriadau â phobl sydd â diddordeb.  Os na fydd angen gwneud hyn, penderfynir ynghylch eich cais o fewn 1 - 3 wythnos.

Wrth benderfynu ynghylch eich cais, caiff y goeden a'r cyfraniad y mae'n ei wneud i amwynder yr ardal ei asesu.  Mae rhagdybiaeth yn erbyn cwympo coed iach ac unrhyw waith torri a brigdocio amhriodol.  Cefnogir hyn gan bolisi cynllunio perthnasol yn y Cynllun Datblygu Unedol.

Wrth roi caniatâd i docio, bydd y Cyngor yn gosod amod cynllunio sy'n mynnu bod y gwaith a wneir yn cyd-fynd â'r Safon Prydeinig, Argymhellion ar gyfer Gwaith ar Goed BS3998(1989). Gwneir hyn i sicrhau bod pobl yn tocio coed mewn modd derbyniol gan roi ystyriaeth i les hirdymor y goeden.

Yn aml, daw caniatâd i gwympo coed gydag amod cynllunio sy'n mynnu bod rhaid plannu coeden arall yn ei lle.

Apelio yn erbyn gwrthodiad neu amodau

Gallwch apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os caiff eich cais ei wrthod neu os caiff unrhyw amod ei osod gan y Cyngor fel rhan o'r caniatâd.  Os yw'r rhybudd gwrthodiad yn ymwneud â Gorchymyn Gwarchod Coed a wnaed cyn 1999, yn achlysurol gallai'r Cyngor roi'r hyn a elwir yn Dystysgrif Erthygl 5 gyda'r penderfyniad.  Gall y Cyngor roi hon gyda'r rhybudd o wrthodiad os yw'r Cyngor yn ystyried nad yw'r cais yn cyd-fynd ag arferion coedwigaeth da neu os yw'n effeithio ar goeden sy'n amwynder hynod neu arbennig.

Effaith y Dystysgrif Erthygl 5 yw cael gwared ar atebolrwydd y Cyngor i dalu iawndal o ganlyniad i'w benderfyniad.  Os bydd apêl yn erbyn Tystysgrif Erthygl 5 yn llwyddianus, mae'n bosibl y bydd raid i'r Cyngor dalu iawndal.  Mewn Gorchmynion Gwarchod Coed a wnaed ar ôl 1999, ceir darpariaethau mwy clir i'r Cyngor dalu iawndal o ganlyniad i'w benderfyniadau.

Gwybodaeth bellach

Os oes angen cyngor neu wybodaeth bellach arnoch, ffoniwch Swyddog Coedwigaeth y Cyngor yn Is-adran yr Amgylchedd a Chadwraeth ar 01352 703264 neu cyflwynwch ymholiad ar-lein (bydd hyn yn agor e-ffurflen)

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd