Cyngor Sir y Fflint
Yr amgylchedd a chynllunio
- Cynllunio
- Cygnor a gwybodaeth - ceisiadau cynllunio
- Rhoi sylwadau am gais cynllunio
- Datganiadau dylunio a hygyrchedd
- Cael hyd i gais cynllunio
- Gynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint
- Cwynion am wrychoedd uchel
- Caniatâd cynllunio i ddeiliaid tai
- Sut i gysylltu â ni
- Pwyllgor Cynllunio
- Apeliadau cynllunio
- Ffioedd Ceisiadau Cynllunio
- Ffurflenni cais cynllunio
- Gorfodi Cynllunio
- Nodiadau Canllaw Cynllunio
- Polisi Cynllunio
- Trafodaeth a chyngor cyn cyflwyno cais
- Prynu cynllun lleoliad/ bloc
- Cyflwynwch gais ar-lein (Porth Cynllunio)
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Gwasanaethau
- Yr amgylchedd a chynllunio
- Cynllunio
- Cygnor a gwybodaeth - ceisiadau cynllunio
Cygnor a gwybodaeth - ceisiadau cynllunio
P'un a ydych yn holi a oes angen caniatâd arnoch neu'n barod i gyflwyno'ch cais, bydd y tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch beth i'w wneud nesaf, beth arall ddylech chi ei ystyried a beth sy'n digwydd i'ch cais ar ôl i ni ei dderbyn.
Y gwahaniaeth rhwng Caniatâd Cynllunio a Rheoliadau Adeiladu
Mae'r rhain yn ddwy ochr wahanol o'r gyfraith adeiladu. Mae caniatâd cynllunio yn ymdrin â defnydd cywir o dir, ymddangosiad unrhyw adeilad arfaethedig a'r effaith y byddai'r datblygiad yn ei gael ar yr amgylchedd cyffredinol ac eiddo cyfagos. Mae rheoliadau adeiladu yn ymdrin â'r ffordd y mae'r adeilad yn cael ei adeiladu megis sefydlogrwydd yr adeilwaith, atal tân ac atal lleithder. Gweler gwybodaeth bellach am Reoliadau Adeiladu.
A oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Mae hyn yn dibynnu ar beth ydych am ei wneud. Rhaid i reoliadau cynllunio gwmpasu nifer o wahanol sefyllfaoedd ac mae hyd yn oed y darpariaethau sy'n effeithio ar ddeiliaid tai cyffredin yn eithaf manwl . Mae'r adran hon yn rhoi canllaw cyffredinol am y mathau o waith y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer a gwaith nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer.
Mae sawl math o ganiatâd cynllunio yn bodoli a gwelir y rhai mwyaf cyffredin isod. Hyd yn oed os nad oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer eich cynigion, mae'n bosibl y bydd angen mathau eraill o gymeradwyaeth arnoch.
Trafodaeth a chyngor cyn gwneud caise
We welcome and encourage discussions before you submit your application. Apart from helping you, this discussion should also make it easier for us to deal with your application once you make it. There is no charge for this advice.
Trafodaeth a chyngor cyn gwneud cais
Ar ôl canfod a oes angen caniatâd cynllunio arnoch, bydd angen i chi wneud cais ffurfiol i'r Gwasanaeth Cynllunio. Bydd y dudalen hon yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â sut i gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio a beth ddylech ei gynnwys.
Planning Ffurflenni cais cynllunio
Pan ydych yn barod i wneud cais, rhaid i chi lenwi'r ffurflenni cywir. Mae gwahanol ffurflenni ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiadau. Gallwch ddewis argraffu a llenwi'r ffurflenni â llaw neu eu llenwi a'u cyflwyno ar-lein.
Fel rhan o'ch cais bydd angen i chi dalu'r ffi gywir. Darperir rhestr o ffioedd a manylion ynglŷn â sut a phryd i gyflwyno'ch taliad. Fel arall, dylech ddefnyddio'r offeryn ffioedd ar-lein i'ch cynorthwyo i gyfrifo'r gost.
Cael cynlluniau Arolwg Ordnans ar gyfer cais cynllunio
Wrth gyflwyno cais cynllunio, rhaid i chi anfon cynllun lleoliad a chynllun bloc gydag ef. Gallwn roi cynlluniau cywir a chyfredol i chi sy'n edrych yn benodol ar safle eich cais. Mae'r cynlluniau'n seiliedig ar ddata'r mapiau digidol diweddaraf a gyflenwir gan yr Arolwg Ordnans (AO), Asiantaeth Mapio Cenedlaethol Gwledydd Prydain.
Sut ydym yn ymdrin â cheisiadau cynllunio
Mae'r ddogfen hon yn esbonio beth sy'n digwydd i'ch cais cynllunio ar ôl i chi ei gyflwyno i'r Cyngor. Mae'n cynnwys gwybodaeth am: pa mor hir y bydd yn ei gymryd; eich hawliau yn ystod y broses hon; pwy sy'n penderfynu a sut; pryd allwch ddechrau ar y gwaith a beth sy'n digwydd ar ôl y penderfyniad.
Termau cynllunio (ffenestr newydd)
Ar wefan y Porth Cynllunio, ceir geirfa o dermau cynllunio a'u talfyriadau i gynorthwyo ymgeiswyr ceisiadau cynllunio a'r cyhoedd i ddeall y broses gynllunio.
Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi paratoi cyfres o Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol sy'n darparu canllaw manwl am amrywiaeth o faterion a phynciau datblygu. Bydd y canllaw hwn yn destun ymgynghoriad a bydd yn cael ei adolygu yn ôl yr angen.
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


