Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Cyflwynwch gais ar-lein (Porth Cynllunio)


Mae Cyngor Sir y Fflint yn derbyn ceisiadau a wneir ar-lein trwy'r Porth Cynllunio.  Y Porth Cynllunio ydi adnodd ar lein Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cynllunio a rheoliadau adeiladu yng Nghymru a Lloegr.  Mae'r gwasanaeth cyflwyno yn rhad ac am ddim ac mae'n eich galluogi i greu a chyflwyno'ch cais yn electronig. 

Bydd angen i chi ddarparu ychydig o fanylion cyn y gallwch ddechrau ar eich cais ar-lein, ond ar ôl gwneud hynny bydd modd i chi fynd i mewn i'r Porth pryd bynnag y mynnoch.  Mae hyn yn eich galluogi i arbed eich cais a dychwelyd ato'n ddiweddarach.

Gellir gwneud y ceisiadau canlynol trwy'r Porth:

  • Ceisiadau deiliaid tai
  • Ceisiadau am ganiatâd cynllunio llawn
  • Ceisiadau am ganiatâd amlinellol
  • Ceisiadau am faterion a gadwyd yn ôl a chael gwared ar amodau neu amrywio amodau
  • Caniatâd Ardal Gadwraeth (yn unig), caniatâd adeilad rhestredig (yn unig) a gyda chaniatâd hysbysebu
  • Caniatâd hysbysebu (yn unig)
  • Coed a gwrychoedd
  • Ceisiadau tystysgrif datblygiad cyfreithiol
  • Datblygiad amaethyddol arfaethedig
  • Hysbysiad blaenorol ar gyfer Telegyfathrebu
  • Hysbysiad blaenorol ar gyfer gwaith dymchwel arfaethedig

Ni allwch ddefnyddio'r Porth Cynllunio i wneud ceisiadau mwynau.  Ffoniwch yr is-adran Mwynau a Gwastraff i gael ffurflen gais mwynau, cyngor a chanllawiau ar: 01352 703293

Ffurflenni cais

Mae safle'r Porth yn rhoi cymorth i ddewis y ffurflen(ni) cais a thystysgrifau perchenogaeth cywir ac yn eich galluogi i'w llenwi ar-lein.  Sylwch: os oes asiant/pensaer wedi'i enwi ar y ffurflen gais, bydd yr holl ohebiaeth yn mynd ato ef/hi.

Gwybodaeth gefnogol

Gallwch atodi lluniau, dogfennau a gwybodaeth gefnogol yn electronig i gefnogi'ch cais.  Os mai dim ond ar ffurf copi caled y mae pob un neu rai o'ch dogfennau, gallwch ddewis eu hanfon ar wahân trwy'r post gan gyflwyno'r ffurflen ar-lein.  Mae'r system gyflwyno ddi-bapur hon yn arbed arian i'r ymgeisydd ac yn helpu'r amgylchedd.

Mae safle'r Porth yn eich galluogi i greu cynllun electronig i'w gyflwyno gyda'ch cais ar-lein.  Mae'r Porth yn codi ffi am y gwasanaeth hwn a gellir talu hwn ar-lein. (Dim on ar bapur y gellir cael cynlluniau lleoliad a chynlluniau bloc gan ein Tîm Gwybodaeth Ddaearyddol ar hyn o bryd).

Gofynion Ceisiadau Cynllunio (GCC)

Dyma restr o’r wybodaeth a’r dogfennau cefnogol sy’n ofynnol i ddilysu eich cais.  Mae’r rhain yn cynnwys rhestr genedlaethol o ofynion statudol a rhestr leol o wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol gan yr Awdurdod Lleol. 

Cyn cyflwyno’ch cais, edrychwch ar y rhestr wirio o Ofynion Ceisiadau Cynllunio (PDF.doc 332.30KB ffenestr newydd) i weld pa rai sy’n berthnasol i’ch ffurflen ddewisedig.  Mae’n bosibl y caiff eich cais ei ddatgan yn annilys os na fyddwch wedi cyflwyno’r wybodaeth gywir.

Ffi ymgeisio

Mae'r Porth hefyd yn darparu cyfrifiannell ffioedd i'ch helpu i gyfrif cost y cais.  Sylwch nad oes modd i chi dalu ar-lein trwy'r Porth Cynllunio ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, gallwch anfon siec atom neu dalu'r ffi dros y ffôn yn defnyddio cerdyn credyd/debyd.  Ffoniwch dderbynfa Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd am wybodaeth bellach ar 01352 703228.

I wneud cais gan ddefnyddio gwefan y Porth Cynllunio, dewiswch o’r isod os gwelwch yn dda, er mwyn i ni fedru eich cyfeirio at y wybodaeth briodol: 

Ymdrin â'ch cais

Caiff cais a gyflwynir ar-lein ei brosesu a'i drin gan y Gwasanaeth Cynllunio yn yr un modd â'r rheiny a dderbynnir yn bersonol neu trwy'r post.  Cewch neges yn cadarnhau bod y cais wedi'i gyflwyno i Gyngor Sir y Fflint a dylech dderbyn llythyr cydnabod o fewn 10 diwrnod gwaith.

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd