skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Yr amgylchedd a chynllunio > Adfywio > Adnewyddu Cymdogaeth

Adnewyddu Cymdogaeth


Ymgynghori â phobl Cei Connah Quay, Shotton a Queensferry ynghylch cynllun i adnewyddu'r ardal

Estynnir gwahoddiad i'r cyhoedd i sesiynau ymgynghori i glywed am y cynllun arfaethedig i Adnewyddu Ardaloedd Cei Connah, Shotton a Queensferry.

Mae Asesiad Adnewyddu Cymdogaeth yn cael ei gynnal i ystyried sut y gellir gwella tai, effeithlonrwydd ynni a phroblemau cymdeithasol ac amgylcheddol eraill yn yr ardal a sut y gellir gwneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithlon bosibl.  

Un fantais ychwanegol sy'n gysylltiedig ag Adnewyddu Ardal yw y bydd ymdrechion i weld yr ardal yn troi’n garbon niwtral.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Yale, Aelod Gweithredol Cyngor Sir y Fflint dros Dai:

“Rwy’n falch iawn o roi cyfle i’n cymunedau lleol yng Nghei Connah, Shotton a Queensferry gymryd rhan yn y prosiect hwn a all wella bywydau llawer o bobl”

Fel rhan o’r Asesiad Adnewyddu Cymdogaeth, mae Cyngor Sir y Fflint yn trefnu sesiynau ymgynghori a fydd yn gyfle i bobl alw heibio i gael gwybod rhagor am yr asesiad, beth y mae’n ei olygu a’r casgliadau hyn yma. Bydd hefyd yn gyfle i bobl leol gael dweud eu dweud am y problemau sydd dan sylw a’r hyn yr hoffent ei weld yn digwydd i wella’r ardal.

Dyma ddyddiadau a lleoliadau’r sesiynau :

Dydd Llun 30 Tachwedd, 4pm-8pm
Neuadd Ddinesig Cei Connah

Dydd Iau 3 Rhagfyr, 4pm-8pm
Neuadd Goffa Queensferry

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr, 4pm-8pm
Clwb Carlton Shotton.

Bydd y sesiynau hyn yn cyflwyno’r un wybodaeth. Mae croeso i’r cyhoedd ddod i unrhyw un, unrhyw adeg ac aros cyhyd ag y mynnant. Bydd lluniaeth ar gael.

Cewch ragor o wybodaeth drwy ffonio’n rhif di-dâl: 0800 169 8677

Ardal Adnewyddu Cymdogaeth (pdf)

Diweddarwyd: 11/26/09 3:22 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.