skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Yr amgylchedd a chynllunio > Sbwriel, gwastraff ac ailgylchu > Sbwriel a gwastraff – yr effeithiau ar fywyd gwyllt ac anifeiliaid anwes

Sbwriel a gwastraff – yr effeithiau ar fywyd gwyllt ac anifeiliaid anwes


Housing-Effects on wildlife and pets /Effeithiau ar Fywyd Gwyllt ac Anifeiliaid Anwes

Bob blwyddyn mae’r RSPCA yn gorfod achub a thrin anifeiliaid ac adar sydd wedi’u dal a’u hanafu gan sbwriel sydd wedi’i waredu’n esgeulus.  Pan fyddwch allan yn mwynhau cefn gwlad a pharciau, cofiwch beidio â thaflu unrhyw sbwriel. 

Bagiau plastig
Gallan nhw chwythu i ffwrdd, mygu, tagu neu ddal anifeiliaid sy’n mynd i mewn iddyn nhw. Gallwch atal bagiau plastig rhag chwythu o gwmpas drwy roi cwlwm ynddyn nhw cyn eu taflu allan. Neu’n well byth – ailddefnyddiwch neu ailgylchwch nhw!

Tuniau
Mae bywyd gwyllt ac anifeiliaid yn cael eu denu at weddillion byw mewn tuniau; gall y rhain dorri a dal anifeiliaid sy’n dod ar eu traws. Felly os na allwch fynd â’ch tuniau i’w hailgylchu, tynnwch y clawr, gwasgwch nhw neu gwasgwch y top ar gau. 

Potiau iogwrt/cynwysyddion diod plastig
Gall pennau anifeiliaid mynd yn sownd yn y rhain tynnwch y cloriau oddi arnyn nhw’n gyfan gwbl a gwasgwch nhw. Hefyd mae modd ailgylchu poteli plastig. Os nad oes man ailgylchu wrth eich ymyl, torrwch boteli plastig yn eu hanner cyn eu taflu.

Coleri plastig ar ganiau diod
Gall anifeiliaid, adar a physgod gael eu dal gan goleri tuniau neu eu tagu ganddyn nhw. Torrwch goleri tuniau cyn eu taflu, neu prynwch ddiodydd gyda bocs i’w cario o gardfwrdd y gallwch ei ailgylchu! 

Gwydr
Gall achosi niwed difrifol i anifeiliaid a phobl. Peidiwch fyth â’i adael o gwmpas. Gallwch ailgylchu poteli gwydr. 

Bandiau rwber
Gall y rhain ddal anifeiliaid a’u maglu. Torrwch nhw cyn eu rhoi yn y bin.

Offer pysgota diangen
Gall bachau, llinellau a.a. niweidio, anffurfio a hyd yn oed ladd adar y dwr ac anifeiliaid eraill. Ewch ag offer pysgota adref a gwaredwch nhw’n ddiogel.

Toddyddion ac olew sỳmp
Gallan nhw lygru nentydd ac afonydd o’u tywallt i lawr y draen. Mae gan rai garejys bwyntiau casglu i olew swmp, y mae modd ei ailgylchu. Gellir ailgylchu’r rhain ym Mharciau Ailgylchu Sir y Fflint.

Trolis archfarchnad
Credwch ni neu beidio, mae anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt wedi’u gweld yn sownd ynddyn nhw ac wedi’u hanafu’n ddifrifol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â’ch troli’n ôl.

Rasys balŵns
Peidiwch â chymryd rhan ynddyn nhw. Gall balŵns ddod i ben eu taith mewn caeau neu yn y môr lle gall anifeiliaid eu camgymryd am fwyd. Mae balŵns sy’n arnofio yn edrych fel slefrod môr blasus i adar y môr a chrwbanod. Cyn taflu balŵns, torrwch nhw’n ddarnau mân.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr RSPCA

Diweddarwyd: 1/28/10 6:28 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.