Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Newid hinsawdd – sut allwch chi helpu?


Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am sut i leihau eich effaith ar yr amgylchedd ac arbed arian yn y broses!

Ble ddylwn i ddechrau?

Mae dros 40 y cant o ollyngiadau carbon deuocsid (CO2) yn y DU yn dod yn uniongyrchol o’r hyn a wnawn fel unigolion – er enghraifft, gwresogi a defnyddio trydan yn ein cartrefi – a gyrru cerbydau.

Mesur eich effaith

Gallwch ganfod faint o CO2 yr ydych yn ei greu a chael cynllun gweithredu personol syml i leihau’ch ôl-troed carbon. Cyfrifiannell Ôl-troed Carbon Cymru (ffenestr newydd)

Insiwleiddio wal ceudod. Insiwleiddio llofft

I gael cyngor diduedd am ddim ynglŷn ag arbed ynni yn y cartref, ffoniwch Ganolfan Cyngor Effeithlonrwydd Ynni Gogledd Cymru ar 0800 954 0658. 

Arian yn ôl am Ynni Glân

Ar ôl gwneud eich cartref yn fwy effeithlon, beth am gynhyrchu trydan trwy banel solar neu dyrbin gwynt yn eich cartref?  Mae taliadau di-dreth newydd ar gael!  Cyfrifwch faint y gallech ei arbed a’i ennill yma (ffenestr newydd) a ffoniwch 0800 954 0658 am restr o ddarparwyr lleol.

Gwneud gwelliannau yn eich cartref

Lawrlwythwch Gwella eich Cartref – Canllaw Newid Hinsawdd (ffenestr newydd) gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r Canllaw hwn yn nodi’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ostwng lefelau carbon deuocsid (CO2) a’ch biliau.

Gwresogi’ch cartref

Gofalwch eich bod yn gwybod sut i reoli’ch gwresogydd a gosodwch falfiau thermostatig ar eich rheiddiaduron, os nad oes rhai arnynt yn barod, fel bo modd i chi reoli tymheredd pob ystafell yn eich tŷ yn dibynnu ar y defnydd sy’n cael ei wneud ohonynt.

Teithio

Edrychwch yn ofalus ar eich dulliau teithio: gallwch arbed arian a chadw’n heini trwy gerdded neu feicio lle bynnag sy’n bosibl.  A allwch ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn lle?  A oes unrhyw un y gallech rannu’r siwrnai i’r gwaith neu’r ysgol â nhw?  Os oes angen i chi yrru, dewiswch y car mwyaf effeithiol o ran ynni a gwiriwch bwysedd teiars eich car yn rheolaidd.

Prynu car newydd / ail law

Gallwch ganfod lefelau gollyngiadau CO2 a chostau tanwydd ceir newydd ac ail law ar Cyfrifiannell ôl troed carbon (ffenestr newydd)

Siopa bwyd

Prynwch fwyd lleol a gostyngwch eich milltiroedd bwyd.  Gallwn i gyd chwarae rhan trwy brynu cynnyrch organig lleol a chefnogi ffermio ‘gwyrdd’, ein marchnadoedd ffermwyr lleol yn ogystal â bwyd Masnach Deg.  Neu beth am gael rhandir a thyfu’ch bwyd eich hun!

Gostwng eich lefelau gwastraff

Yn ogystal â gwastraffu arian, mae taflu eitemau i ffwrdd yn gwastraffu’r ynni, dŵr a deunydd pecynnu a ddefnyddir i’w cynhyrchu, i’w cludo a’u storio.  Darganfyddwch sut i ostwng eich lefelau gwastraff.

Arbed dŵr

Mae arbed dŵr hefyd yn arbed ynni.  Mae oddeutu 30% o filiau nwy cartrefi cyffredin yn mynd ar wresogi dŵr.  Darganfyddwch sut i arbed dŵr.

Gwneud newidiadau syml

Mae cyngor da a di-duedd am sut i fyw yn fwy gwyrdd a sut i roi’r gorau i wastraffu ynni ar gael gan Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (ffenestr newydd) a Ymddiriedolaeth Garbon (ffenestr newydd).

Cyngor pellach

Ffoniwch Ganolfan Cyngor Effeithlonrwydd Ynni Gogledd Cymru ar 0800 954 0658 am gyngor a gwybodaeth ddi-duedd am ddim ynglŷn ag arbed ynni ac atebion ynni cynaliadwy.

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd