Cyngor Sir y Fflint
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Gwasanaethau
- Yr amgylchedd a chynllunio
- Bioamrywiaeth
- Cyflwyniad i fioamrywiaeth
Cyflwyniad i fioamrywiaeth
Mae bioamrywiaeth yn air byr am amrywiaeth fiolegol, sy'n golygu'r amrywiaeth eang o fywyd ar y ddaear. Bioamrywiaeth yw amrywiaeth genetig planhigion, mamaliaid, pysgod, ffwng a'r ecosystemau a'r cynefinoedd y maent yn byw ynddynt.
Mae bywyd ar y ddaear yn dibynnu ar ryngweithiad nifer o blanhigion ac anifeiliaid; mae hyn yn golygu bod bioamrywiaeth yn hanfodol ar gyfer goroesiad. Mae colli bioamrywiaeth yn effeithio arnom i gyd a byddai o fudd i ni gyd pe baem yn cymryd camau cyfrifol nawr er mwyn gallu parhau i fwynhau cefn gwlad prydferth ac iach yn y dyfodol.
Pwysigrwydd bioamrywiaeth
Mae pob rhywogaeth, boed fawr neu fach, yn chwarae rôl bwysig o fewn ecosystem. Gall ecosystem amrywiol gyflawni prosesau pwysig yn well megis ffurfio pridd, storio maetholion, ymddatodi llygredd ac addasu neu ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl fel newid yn yr hinsawdd.
Mae dros 40% o economi'r byd yn dod o adnoddau biolegol fel bwyd, coed a chynnyrch meddygol. Os yw'r fioamrywiaeth yn gyfoethog, mae'r siawns y bydd yr economi'n tyfu ac y byddwn yn gwneud mwy o ddarganfyddiadau meddygol yn uwch. Mae bioamrywiaeth hefyd yn dod â manteision cymdeithasol o ran twristiaeth a hamdden ac o ganlyniad i hynny, cynnydd economaidd.
Bioamrywiaeth dan fygythiad
Y prif fygythiadau i fioamrywiaeth yw:
- Twf yn y boblogaeth ddynol
- Colli neu ddiraddio cynefinoedd oherwydd cynnydd yn y galw am amaethyddiaeth, porfeydd, ffyrdd, diwydiant ac anheddiadau
- Rhywogaethau wedi'u cyflwyno
- Gorfanteisio ar adnoddau naturiol megis pysgod
- Torri a thrin coed
- Llygredd
- Newid hinsawdd
Er bod bioamrywiaeth yn gostwng yn naturiol, mae'r pwysau a roddwn ar y blaned wedi cyflymu'r broses ddifodi ac wedi cael gwared ar rywogaethau na ellir eu cael yn ôl. Mae newidiadau sy'n effeithio ar un rhywogaeth yn cael effaith uniongyrchol ar eraill sy'n dibynnu arnynt, gan achosi colled bellach.
Rhagwelir mai newid hinsawdd fydd un o'r prif resymau dros golli bioamrywiaeth. Mae ein hinsawdd eisoes yn newid gan fod ein gollyngiadau yn y gorffennol yn ei gwneud yn amhosibl osgoi newid hinsawdd yn gyfan gwbl. Amcangyfrifir y bydd dros filiwn o rywogaethau'n cael eu colli dros y 50 mlynedd nesaf. Mae arwyddion o newid hinsawdd yn cynnwys:
- Colli/newid cynefinoedd - e.e. enciliad rhewlifoedd yn bygwth rhywogaethau eirth gwyn.
- Newid hyd ac amseriad y tymhorau - e.e. effeithio ar ymddygiad mudo, tymhorau magu, bwyd sydd ar gael.
- Parthau ecolegol yn symud - e.e. bydd coedwigoedd yn dechrau tyfu mewn ardaloedd mwy gogleddol gan ddisodli Twndra'r Arctic a rhywogaethau sy'n dibynnu arno. Gallai'r hinsawdd fod yn fwy ffafriol i rywogaethau sydd wedi'u cyflwyno.
- Tywydd eithriadol - e.e. cynnydd/lleihad mewn eira neu law, newid tymheredd, llifogydd a stormydd. Rhagwelir y gallai'r Wyddfa golli ei eira o fewn 5 mlynedd.
- Difodiant - i'r rhywogaethau hynny sy'n methu ag addasu'n ddigon cyflym i'r newidiadau hyn, megis llyffant aur Costa Rica neu'r pengwin brenhinol
Ceir mwy o wybodaeth am newid hinsawdd a'i effaith ar fioamrywiaeth ar wefannau megis y BBC (ffenestr newydd), Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (ffenestr newydd), Asiantaeth yr Amgylchedd (ffenestr newydd) a Rhaglen Effeithiau Hinsawdd y DU (ffenestr newydd) a'ch llyfrgell leol hefyd.
Atebion
Dylai pawb gymryd cyfrifoldeb am fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth. Gallem atal colledion pellach i fioamyriwaeth trwy weithredu'n unigol, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Y peth pwysig yw gweithredu nawr.
- Beth am ddarganfod sut i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth?
- Beth am ddarganfod sut ydym yn gwarchod bioamrywiaeth Sir y Fflint?
- Beth am ddarganfod mwy am addysg a hyfforddiant bioamrywiaeth?
- Beth am ddarllen am brosiectau bioamrywiaeth yn Sir y Fflint (PDF.doc, 88Kb, ffenestr newydd)
- Beth am ddarllen am y ddeddfwriaeth sy'n helpu i warchod bioamrywiaeth (PDF.doc, 26Kb, ffenestr newydd)
Ceir gwybodaeth bellach am fentrau bywyd gwyllt a chadwraeth ar-lein ar wefannau megis y BBC (ffenestr newydd) a Chronfa Bywyd Gwyllt y Byd (ffenestr newydd).
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


