Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Treth y Cyngor - Rhybuddion Cwblhau


Pam rydw i wedi cael yr hysbysiad cwblhau hwn?

Mae’r Cyngor o’r farn bod eich eiddo, at ddibenion y dreth gyngor, naill wedi’i gwblhau i raddau helaeth neu ei bod yn rhesymol disgwyl i unrhyw waith sy’n weddill gael ei gwblhau yn ystod y 3 mis nesaf.

Sut ddaeth y Cyngor i’r casgliad hwn?

Ystyrir bod eiddo wedi’i gwblhau i raddau helaeth pan fydd yn bodloni’r meini prawf a ganlyn:

Mae’r strwythur sylfaenol wedi’i gwblhau, er enghraifft, mae’r holl waliau allanol a’r to yn eu lle.

  1. Mae’r waliau mewnol wedi’u codi (er nad ydynt, o reidrwydd, wedi’u plastro).
  2. Mae’r lloriau wedi’u gosod (er nad yw’r haen uchaf o goncrit , o reidrwydd, wedi’i osod).

Hyd yn oed os nad yw’r meini prawf uchod wedi’u bodloni’n llawn, gall y Cyngor gyflwyno hysbysiad os yw’n credu y gellir cwblhau unrhyw waith sy’n weddill cyn pen 3 mis.  

Does dim angen i’r gwaith isod fod wedi’i gwblhau i ystyried bandio:

  1. Peintio a phapuro’r tu mewn i’r eiddo.
  2. Cwblhau’r gwaith o osod unedau yn yr ystafell ymolchi neu’r gegin
  3. Gosod socedi a switshis trydanol yn derfynol
  4. Cysylltu’r dŵr, y nwy a’r trydan (er bod yn rhaid i’r gwasanaethau fod ar y safle’n barod i’w cysylltu).

Sut all y Cyngor gyflwyno hysbysiad cwblhau at ddibenion y dreth gyngor os nad yw’r adran Rheoli Adeiladu neu’r Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol wedi cwblhau eu hysbysiad cwblhau nhw?

Nid yw’r hysbysiadau cwblhau a gyflwynir at ddibenion y dreth gyngor yr un fath â’r hysbysiadau cwblhau a gyflwynir o dan Reoliadau Rheoli Adeiladu, gan fod gwahnol bwrpas iddynt. Hyd yn oed os nad yw Rheoliadau  Rheoli Adeiladu wedi cyflwyno hysbysiad cwblhau, nid yw hynny’n atal y Cyngor rhag cyflwyno hysbysiad at ddibenion y dreth gyngor neu, os yw Rheoliadau Rheoli Adeiladu wedi cyflwyno hysbysiad cwblhau, gall y Cyngor anfon un arall sy’n nodi dyddiad gwahanol.

Hefyd, nid yw’r dyddiad cwblhau’n cyfeirio at y dyddiad y caiff yr eiddo ei werthu, ond yn hytrach at y dyddiad y mae wedi’u gwblhau’n strwythurol, sy’n digwydd, fel arfer, cyn y diwrnod y caiff ei werthu.

Ydi hyn yn golygu bod yn rhaid i mi ddechrau talu’r dreth gyngor yn awr?

Mae eiddo newydd, p’un a yw newydd ei adeiladu ynteu wedi’i greu drwy addasu eiddo blaenorol, wedi’i eithrio rhag taliadau’r dreth gyngor am hyd at chew mis os yw’n wag a heb ei ddodrefnu i bob pwrpas. Ar ôl chwe mis, os yw’r eiddo’n dal yn wag a heb ei ddodrefnu, rhaid talu’r tâl eiddo gwag yn llawn.  

Felly, o’r dyddiad cwblhau, mae gan yr adeiladwr chew mis i osod neu i werthu’r eiddo newydd, cyn y bydd tâl yn ddyledus.

Y Swyddfa Brisio

I helpu’r Swyddfa Brisio i osod eiddo mewn band ar y diwrnod cywir, rydym yn anfon pob hysbysiad cwblhau atynt, ac unrhyw wybodaeth am hysbysiadau sydd wedi’u tynnu’n ôl neu am newidiadau yn y trefniadau.

Dyma fanylion cysylltu’r Swyddfa Brisio:-

Y Swyddog Rhestru
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tŷ Rhaglaw
Stryd Rhaglaw
Wrecsam
LL11 1PR

Ffôn: 03000 505 505          Gwefan: www.voa.gov.uk

Apelio

Os ydych yn cytuno â’r dyddiad cwblhau rydym wedi’i gynnig, llenwch Ran A o’r Ymateb i’r Hysbysiad Cwblhau cyn pen 14 diwrnod a’i ddychwelyd yn yr amlen bwrpasol.

Fodd bynnag, os ydych yn anghytuno, dylech ein ffonio ar 01352 704856 neu llenwch Ran B o’r Ymateb i’r Hysbysiad Cwblhau a gallwn ystyried y posibilrwydd o newid y dyddiad cwblhau:-

  • os nad yw’r adeilad wedi’i gwblhau
  • os nad yw’n rhesymol disgwyl ei gwblhau erbyn y dyddiad a nodwyd

Os na allwn gytuno ar ddyddiad cwblhau newydd, mae gennych hawl i apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru. Rhaid i chi wneud hyn cyn pen 4 wythnos ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad cwblhau, felly mae’n bwysig cysylltu â’r Cyngor cyn gynted â phosibl os ydych yn anghytuno â’r dyddiad cwblhau.

Os byddwch yn apelio, ac os nad yw’n cael ei wrthod neu ei dynnu’n ôl, y Tribiwnlys fydd yn penderfynu ar y dyddiad cwblhau.

Dyma fanylion cysylltu’r Tribiwnlys Prisio:-

 

Tribiwnlys Prisio Cymru
Rhanbarth Gogledd Cymru
Adeiladau’r Llywodraeth Bloc A (L1)
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ

Ffôn: 03000 625 350 E-bost: northwales.vt@vto.gsx.gov.uk

Manylion cysylltu:

Rhif ffôn:       01352 704856

E-bost:         archwiliadau@siryfflint.gov.uk

Cyfeiriad:      Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaethau Refeniw, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NA

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd