Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NB
Cysylltwch â ni
01352 752121
Sut i gyrraedd yma
Gwasanaeth celfyddydau i ysgolion
Nod y Gwasanaeth yw datblygu, cefnogi a hyrwyddo ystod eang o weithgareddau'n ymwneud â'r celfyddydau yn ysgolion Sir y Fflint.
Mae'r Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda'r ysgolion, ac yn eu cefnogi o ran gweithgareddau celfyddydau, perfformiadau, prosiectau artistiaid preswyl, ac yn eu cynghori a'u cynorthwyo ynglyn â sut i ddenu nawdd ariannol.
Cynigir cyngor a chymorth yn y meysydd a ganlyn:
* Hyfforddiant mewn swydd i athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ysgolion arbennig.
* Cyngor ynglyn â sefydlu prosiectau celfyddyd
* Cymorth i lenwi ffurflenni cais am nawdd ariannol
* Y cyfle i gymryd rhan mewn nifer o Brosiectau Artistiaid Preswyl a gynigir i ysgolion a grwpiau ieuenctid
* Cyfle i fod yn rhan o ystod eang o brosiectau ledled y sir, megis 'Gwyl Ddawns Sir y Fflint' ac 'Ysgolion Sir y Fflint Mewn Perfformiad' (y ddwy fenter yn Clwyd Theatr Cymru), Arddangosfeydd Celfyddyd Weledol, Gwyliau Ffilm Ieuenctid, a Gwyl Sir y Fflint.
Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â Margaret Evans, Swyddog Datblygu'r Celfyddydau - Ffôn: 01352 704105 neu anfon ymholiad at y gwasanaeth hwn
