Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NB
Cysylltwch â ni
01352 752121
Sut i gyrraedd yma
Archifdy – newyddion a digwyddiadau

Ar y dudalen hon cewch y newyddion diweddaraf a manylion am ddigwyddiadau fydd yn cymryd lle yn ystod yr wythnosau i ddod. Bydd y dudalen yn cael ei diweddaru’n rheolaidd, felly cadwch lygad arni i weld os oes unrhyw beth wedi’i ychwanegu.
Newyddion Archifdy Sir y Fflint
Digwyddiadau Archifdy Sir y Fflint
Newyddion
Archifdy Sir y Fflint yn ennill Gwobr Rhagoriaeth
Yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Cyngor Sir y Fflint a gynhaliwyd fis Mawrth 2010 yn Theatr Clwyd, rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr Strategol deyrnged i amrywiaeth o dimau sy’n cynrychioli’r gwasanaethau y mae’r Cyngor yn eu darparu.
Enillodd yr Archifdy y wobr am Wasanaethau Cwmseriaid ac Ennyn Diddordeb y Gymuned am wella hygyrchedd, gwrando ar sylwadau cwsmeriaid ac ymateb i’w hanghenion. Cawsant eu canmol am lwyddiant yr ystafell chwilio newydd, sy’n caniatáu i ragor o gwsmeriaid ymweld â’r Archifdy a defnyddio’i gyfleusterau newydd. Cawsant ganmoliaeth hefyd am eu hymdrechion i wella’u dulliau o gyfathrebu ac o sicrhau ei bod yn haws cael i hyd i wybodaeth, a hynny drwy gyfrwng eu gwefan a’r cylchlythyr y byddant yn ei gynhyrchu bob chwe mis, sef Yr Awrwydr. Daeth Steven Davies, Uwch Archifydd, Liz Newman, Archifydd, a Sue Copp, Archifydd Cynorthwyol i’r seremoni ynghyd â Lawrence Rawsthorne, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Llyfrgelloedd, Diwylliant a Threftadaeth). Roeddent yn falch iawn o dderbyn y wobr ar ran eu cydweithwyr.
Adroddiad Blynyddol, 2009-2010, Archifdy Sir y Fflint
Yr Awrwydr, Newyddlen Archifdy Sir y Fflint
Mae argraffiad diweddaraf Yr Awrwydr, Newyddlen Archifdy Sir y Fflint ar gael erbyn hyn ar fformat PDF. Gallwch gael copi printiedig hefyd yn ein hystafell ymchwil.
Yr Awrwydr Hydref 2010 (pdf 226KB)
Argraffiadau blaenorol o'r newyddlen Yr Awrwydr, ar fformat PDF:
Yr Awrwydr Gwanwyn 2010 (pdf 412KB)
Yr Awrwydr Hydref 2009 (pdf 1.58MB)
Yr Awrwydr Gwanwyn 2009 (pdf 469KB)
Yr Awrwydr Hydref 2008 (pdf 383KB)
Yr Awrwydr Gwanwyn 2008 (pdf 381KB)
Digwyddiadau
