Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NB
Cysylltwch â ni
01352 752121
Sut i gyrraedd yma
Archifdy – ymholiadau a chyngor
Rydym yn croesawu ymholiadau am y math o gofnodion sydd gennym yn Archifdy Sir y Fflint, a byddwn yn eich cynghori sut y gallan nhw gael eu defnyddio yn eich ymchwil.
Byddwn yn gwirio ein mynegeion a’n catalogau am adnoddau a allai fod yn berthnasol i’ch ymchwil. Fodd bynnag, os gall eich ymholiad gael ei ateb dim ond wrth edrych ar y dogfennau eu hunain, neu bydd angen ymchwil manylach o’r catalogau, byddwn yn gofyn i chi ymweld â ni i wneud eich gwaith ymchwil.
Rydym wedi cynhyrchu canllawiau y gellir eu lawr lwytho, sy’n awgrymu a disgrifio ffynonellau defnyddiol ar gyfer meysydd ymchwil poblogaidd.
Nid yw Archifdy Sir y Fflint yn cynnig gwasanaeth ymchwil cyflogedig, ond medrwch wneud cais am restr o asiantau cofnodion annibynnol, lleol fydd yn barod i wneud y gwaith ymchwil yn y swyddfa hon am ffi. Sylwch os gwelwch yn dda, gan nad ydyn nhw’n cael eu cyflogi gan yr Archifdy, ni allwn warantu eu gwaith.
Medrwch gyflwyno ymholiad ar-lein, neu drwy’r post neu ffacs. Gofynnwn i chi gyflwyno’r holl ymholiadau yn ysgrifenedig lle mae’n bosibl, yn hytrach na rhoi gwybodaeth dros y ffôn. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i ateb eich ymholiad yn fwy cywir ac effeithlon.
