Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NB
Cysylltwch â ni
01352 752121
Sut i gyrraedd yma
Archifdy - benthyciadau, rhoddion a chymynroddion
Un ffordd rydym wedi adeiladu ein casgliad rhagorol o gofnodion lleol yw trwy fusnesau, sefydliadau ac unigolion preifat sy’n ymddiried ynom gyda’u deunydd archifol. Rydym yn dal yn ddibynnol ar roddion ac adneuwyr i gadw cofnodion heddiw ar gyfer yn y dyfodol.
Os oes gennych unrhyw ddeunydd rydych yn credu a fyddai o ddiddordeb hanesyddol parhaol, byddwn yn falch o glywed oddi wrthych a thrafod gyda chi sut yr hoffech sicrhau ei gadwraeth barhaol. Gallwn gynnig storfa ddiogel dan reolaeth amgylcheddol, a’i wneud yn hygyrch, yn ein hystafell ymchwilio o dan arolygiaeth, i unigolion sydd â diddordeb mewn astudio hanes lleol,
Os nad ydych yn siŵr y byddem â diddordeb yn eich deunydd - cysylltwch a gofynnwch i ni os gwelwch yn dda.
Pe byddech yn dymuno i’r Archifdy gadw eich deunydd i’r dyfodol, mae gennych nifer o opsiynau:
1. Ei roi i Archifdy Sir y Fflint. Yna byddai’n dod yn eiddo Cyngor Sir y Fflint a byddech yn gollwng unrhyw hawliau iddo;
2. Ei adneuo i Archifdy Sir y Fflint. Byddai’n parhau’n eiddo i chi. Byddech chi a ni’n arwyddo cytundeb adneuo (pdf 109KB) gan sefydlu cyfrifoldebau’r ddwy ochr;
3. Ei adael i Archifdy Sir y Fflint yn eich ewyllys. Dyma rywbeth fydd yn rhaid i chi drefnu gyda’ch cynghorydd cyfreithiol. Pe byddech yn dymuno ei gadw gartref yn ystod eich bywyd, bydd ein swyddog cadw’n falch i’ch cynghori sut fyddai’r ffordd orau i’w gadw er mwyn diogelu ei gyflwr.
Beth os yw eich cofnodion yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol nad ydych eisiau iddo fod yn hygyrch i’r cyhoedd?
Un o’n prif swyddogaethau yw gwneud y deunydd rydym yn ei gadw ar gael i bobl sydd angen ei astudio. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu na allwn dderbyn deunydd sy’n cynnwys gwybodaeth sensitif. Mae gennym gyfrifoldebau o dan Ddeddf Gwarchod Data ac yn cyfyngu mynediad yn rheolaidd i rai cofnodion sy’n dod o fewn y Ddeddf. Enghreifftiau da yw cofnodion disgyblion ysgol a chleifion ysbytai. Rydym yn rhoi cyfnod “mynediad cyfyngedig” o 75 mlynedd i gofnodion sy’n berthnasol i oedolion neu 100 mlynedd i gofnodion sy’n ymwneud â phlant. Bydd yn rhaid i unrhyw un sydd eisiau gweld y cofnodion o fewn y cyfnod hwnnw, wneud cais ysgrifenedig gan egluro beth maen nhw’n chwilio amdano a pham. Bydd pob achos yn cael ei farnu’n ôl teilyngdod, a hawl mynediad yn cael ei roi neu ei wrthod fel bo’n briodol. Os oes gennych gofnodion rydych yn teimlo na ddylai fod yn hygyrch yn gyffredinol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i drafod cymhwyso’r cyfyngiadau.
Beth pe bai arnoch angen ei fenthyca’n ôl eto?
Mae darpariaeth yn y cytundeb adneuo (pdf 109KB) i dynnu eitemau’n ôl dros dro, wrth roi rhybudd rhesymol. Yn yr un modd, pe baech yn canfod bod ei angen arnoch yn barhaol, mae darpariaeth ar gyfer hynny hefyd.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn arall am adneuo deunydd yn yr Archifdy, neu roi deunydd i’r Archifdy, peidiwch ag oedi, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.
