skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Hamdden a diwylliant > Cofnodion ac Archifau > Archifdy – gwasanaethau

Archifdy – gwasanaethau


Gwasanaethau reprograffig

Bydd Archifdy Sir y Fflint fel arfer yn gwneud copi o ddogfen sydd yn ein casgliadau os:

  • Yw’r ddogfen yn addas ar gyfer gael ei chopïo ac na fyddai’n cael ei difrodi gan y broses
  • Na fyddai’r copïo yn gwrthdaro â’r ddeddf hawlfraint, cyfyngiadau a osodwyd gan adneuwyr a pherchnogion, neu ddeddfwriaeth Gwarchod Data.

Gwneir a rhoir holl gopïau ar ddealltwriaeth bod y rheiny sydd yn eu dal yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i gydymffurfio â’r ddeddf hawlfraint.  Bydd angen i’r cwsmeriaid arwyddo datganiad hawlfraint cyn y gallwn roi copi o unrhyw eitem affeithir gan ddeddf hawlfraint.

Llungopïo

Sylwch os gwelwch yn dda, oherwydd y galw mawr a chyfyngder staff, fel arfer ni ellir gwneud a rhoi llungopïau ar yr un diwrnod y gofynnir amdanynt.  Byddwn yn gofyn i chi alw yn ôl  a chasglu’r copïau ar ddyddiad diweddarach, neu i chi dalu am eu hanfon drwy’r post i chi.

Micro brintio

Ar gyfer cofnodion sydd yn cael eu cadw ar ficroffilm, bydd y staff yn copïo’r rhain ar ôl i chi lenwi ffurflen archeb.  Fel gyda llungopïo, ni ellir cyflenwi micro brintiau ar yr un diwrnod â’r cais, gallant gael eu postio atoch neu eu casglu yn ddiweddarach.

Cyfyngiad ar Archebion am Gopïau

Ffotograffiaeth ddigidol/sganio

Os nad yw dogfen yn addas i’w llungopïo, mae’n bosib i’r Archifdy greu copi digidol naill ai trwy ddefnyddio camera digidol neu drwy sganio eitem ar ein sganydd gwely-gwastad.

Tynnu lluniau eich hunan

Os ydych chi’n ymweld â’r Archifdy yn bersonol ac yn dymuno tynnu ffotograffau eich hunan, bydd yn ofynnol i chi brynu trwydded ddyddiol, wythnosol, misol neu flynyddol.  Am ragor o fanylion edrychwch ar ein polisi ar Ffotograffiaeth yn yr Ystafell Chwilio (pdf 50KB) os gwelwch yn dda.

Ffioedd copïo a chostau

Gwelwch restr, a manylion costau yn Costau Copïo - Rhestr o brisiau copïo/llungopïo (pdf 56KB)

Diweddarwyd: 6/4/10 1:58 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.